English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Ddeddfwriaeth CGT Cwestiynau Cyffredin Cysylltu â Ni Datganiadau Statudol

Ein Canolfannau

Canolfan Cynhyrchu Hawliadau Canolfan Gorfodi Traffig Hawliad arian ar lein Swmp Ganolfan y Llysoedd Sirol System Ganolog - Taliadau Atafaelu Enillion (CAPS)

Datganiadau Statudol


Os ydych eisiau apelio yn erbyn y cofrestriad gyda'r Llys

Os caiff Datganiad Statudol sydd wedi'i lenwi'n gywir ei ffeilio gyda'r CGT cyn pen 36 diwrnod o gofrestru, diddymir y cofrestriad Llys (caiff ei ganslo). Nid yw hyn yn canslo'r gosb ariannol wreiddiol. Cyfeirir y mater yn ôl at yr awdurdod lleol er mwyn iddynt benderfynu pa gamau y maent am eu cymryd nesaf.

Os nad ydych yn siŵr o'r dyddiad cofrestru, cewch gysylltu â'r CGT ar 0845 7045007 a gofyn amdano. Os nad yw'r Datganiad Statudol (Ffurflen PE3) gennych, gellir anfon copi arall dros yr e-bost, y ffacs, drwy'r post neu gallwch ddefnyddio'r ddolen Ffurflenni isod.

Dewis arall fyddai gofyn am estyniad i'r amser a ganiateir ar gyfer ffeilio'r Datganiad Statudol gyda'r CGT. Gellir cael hyd at bedair wythnos ychwanegol. Cofiwch fod yn rhaid cyflwyno pob cais am estyniad amser ar bapur i'r CGT (naill ai drwy'r post/e-bost/ffacs) cyn i'r cyfnod gwreiddiol ar gyfer ffeilio ddod i ben sef 36 diwrnod.

Mae ein manylion cysylltu ar gael drwy ddilyn y ddolen ganlynol - Cysylltu â ni (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg).

Os yw'r cyfnod ar gyfer ffeilio Datganiad Statudol wedi dod i ben

Os ydych eisiau'r ffurflenni perthnasol i wneud cais i ffeilio Datganiad Statudol hwyr (PE2 a PE3) dilynwch y ddolen ffurflenni ar waelod y dudalen hon.

Nid oes cyfnod penodol ar gyfer gwneud cais i ffeilio Datganiad Statudol hwyr. Ar ôl derbyn cais derbyniol bydd y Ganolfan Gorfodi Traffig yn hysbysu'r Awdurdod Lleol dan sylw ac yn rhoi 19 diwrnod gwaith iddynt naill ai dderbyn neu wrthod y cais.

Os yw'r Awdurdod Lleol yn derbyn y cais, caiff ei drin fel Datganiad Statudol arferol a diddymir y cofrestriad Llys (caiff ei ganslo). Cyfeirir y mater yn ôl at yr Awdurdod Lleol er mwyn iddynt benderfynu pa gamau y maent am eu cymryd nesaf.

Os yw'r Awdurdod Lleol yn gwrthod y cais, caiff ei gyfeirio at un o uwch swyddogion y Llys yn y Ganolfan Gorfodi Traffig. Gwneir hyn er mwyn cael penderfyniad diduedd ynghylch a ddylid derbyn ynteu wrthod y cais. Hysbysir y naill barti a'r llall o'r canlyniad.

Yn dilyn penderfyniad y swyddog Llys, caiff y naill barti neu'r llall wneud cais, cyn pen 14 diwrnod, i roi'r penderfyniad hwnnw o'r naill du.

Mae'r ffurflen berthnasol (N244) a'r arweiniad i'ch helpu ar gael gan y Ganolfan Gorfodi Traffig. Os caiff y cais hwn ei dderbyn, trosglwyddir yr achos i Lys Sirol lleol yr atebydd a bydd Barnwr Rhanbarth yn adolygu'r achos.

Mae'r ddolen ganlynol yn rhoi gwybodaeth am y cwestiynau cyffredin y mae Desg Gymorth y CGT yn eu derbyn.

DALIER SYLW
Cofiwch y bydd y ffioedd canlynol yn dod i rym o 1af Hydref 2008 ymlaen:

£35.00 ar gyfer pob Datganiad Statudol neu Ddatganiad Tyst os yw'r cyfnod ar gyfer ffeilio wedi dod i ben (PE2 neu TE7)

£75.00 ar gyfer cais i roi Gorchymyn Swyddog Llys o'r naill du (Ffurflen N244)

Ffurflenni: Datganiad Statudol a Chais i ffeilio Datganiad Statudol hwyr

Ffurflenni i'w llenwi i wneud cais yn erbyn cofrestriad:

Taliadau Atal Tagfeydd / Lonydd Bysiau / Parcio / Torri Rheolau Traffig sy'n Symud (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)

neu:

Torri Rheolau Gollyngiadau Cerbydau (yn unig) (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 26 September 2008 12:01. Uned Iaith Gymraeg Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .