English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Ddeddfwriaeth CGT Cwestiynau Cyffredin Cysylltu â Ni Datganiadau Statudol

Ein Canolfannau

Canolfan Cynhyrchu Hawliadau Canolfan Gorfodi Traffig Hawliad arian ar lein Swmp Ganolfan y Llysoedd Sirol System Ganolog - Taliadau Atafaelu Enillion (CAPS)

Canolfan Gorfodi Traffig (CGT)


Cwestiynau Cyffredin

Beth sy'n digwydd cyn cofrestru'r gosb ariannol?

Dyma'r camau a gymerir cyn cofrestru'r gosb ariannol gyda'r Ganolfan Gorfodi Traffig:

Beth y dylwn i ei wneud os wyf am wrthwynebu'r gosb ariannol?

Os ydych yn dymuno gwrthwynebu'r Gosb Ariannol, rhaid i chi ffeilio Datganiad Statudol dilys gyda'r Ganolfan Gorfodi Traffig cyn pen 36 diwrnod o gofrestru'r gosb ariannol. Dim ond am dri rheswm y ceir gwneud datganiad. Mae'r rhain yn tanlinellu'r gweithdrefnau y methodd yr awdurdod lleol â'u cyflawni cyn cofrestru'r gosb ariannol. Sef:

Beth y dylwn i ei wneud os wyf eisoes wedi talu'r gosb ariannol?

Rhaid i chi gysylltu â'r Awdurdod Lleol gyda phrawf eich bod wedi talu. Os na wnewch chi unrhyw beth gall yr Awdurdod Lleol adennill y gosb ariannol.

^Brig

Ble allaf i fynd â fy ffurflen Datganiad Statudol i dyngu llw?

Rhaid i chi fynd â'r Datganiad Statudol gerbron unrhyw un o'r canlynol i dyngu llw cyn i'r Ganolfan Gorfodi Traffig ei dderbyn:

Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn ffeilio Datganiad Statudol dilys?

Bydd y Ganolfan Gorfodi Traffig yn diddymu'r Gorchymyn Adennill. Nid yw hyn yn golygu bod y gosb ariannol wedi cael ei chanslo. Caiff yr Awdurdod Lleol barhau i fynd ar drywydd y gosb ariannol a bydd yn cysylltu â chi os yw'n bwriadu cymryd camau pellach.

Beth sy'n digwydd os nad wyf yn ymateb?

Os na fyddwch yn ffeilio datganiad statudol dilys gyda'r CGT cyn pen 21 diwrnod o'r dyddiad ar y Gorchymyn Adennill, caiff yr Awdurdod Lleol orfodi'r Gosb Ariannol drwy wneud cais am warant. Ar ôl i'r CGT awdurdodi'r warant, bydd yr Awdurdod Lleol yn cyflogi beilïaid preifat i weithredu'r warant.

Rwy'n mynd ar fy ngwyliau am 4 wythnos ddydd Gwener ac ni fydda i'n gallu llenwi'r Datganiad Statudol cyn pen y 21 diwrnod a ganiateir. Beth wna'i?

Os oes angen rhagor o amser arnoch i lenwi eich datganiad statudol, cewch wneud cais am estyniad amser (naill ai ar bapur neu drwy ein Desg Gymorth). Gwnewch yn siŵr eich bod yn dyfynnu rhif eich cosb ariannol, faint o amser fydd ei angen arnoch a'r rheswm pam eich bod eisiau rhagor o amser. Cofiwch mai dim ond estyniad o hyd at fis y caiff y CGT ei ganiatáu.

^Brig

I bwy y mae'r gosb ariannol yn daladwy?

Rhaid i chi anfon unrhyw daliadau'n uniongyrchol at yr Awdurdod Lleol. Caiff unrhyw daliadau a dderbynnir gan y CGT eu dychwelyd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch trefniadau talu, rhaid i chi gysylltu â'r Awdurdod Lleol.

Sut mae gwybod a godwyd gwarant ai peidio?

Cewch gysylltu â'r Awdurdod Lleol neu'r CGT i ganfod a godwyd gwarant ai peidio.

Mae fy nghar wedi cael ei glampio gan feilïaid ac nid wyf yn gwybod unrhyw beth am y gosb ariannol hon. Sut mae apelio?

Ar yr amod y gellir ffeilio datganiad statudol dan un neu ragor o'r tri rheswm a bod rheswm da pam na chafodd y datganiad statudol mo'i ffeilio cyn pen y 21 diwrnod a ganiateir, ceir ffeilio datganiad statudol hwyr.

Pwy y dylwn i gysylltu â nhw ynghylch camau gweithredu beili?

Gan mai'r Awdurdod Lleol sy'n cyflogi'r beilïaid, rhaid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch beilïaid at Gwmni'r Beilïaid neu'r Awdurdod Lleol. Ni chaiff y CGT atal na chanslo unrhyw gamau gweithredu gan feili. Rhaid cyfeirio unrhyw gwynion am ymddygiad beili at y Llys Sirol a gyhoeddodd y dystysgrif i'r beili.

Beth y dylwn i ei wneud os yw'r Beili wedi cael ei gyfarwyddo a fy mod eisiau apelio?

Ar yr amod y gellir ffeilio Datganiad Statudol dan un neu ragor o'r tri rheswm a bod rheswm da pam na chafodd y datganiad statudol mo'i ffeilio'n gynharach (cyn pen y 21 diwrnod a ganiateir), dylech gysylltu â'r CGT ar 08457 045007 i wneud cais am Ddatganiad Statudol Hwyr. Dylid anfon hwn i'r Ganolfan Gorfodi Traffig nid yr Awdurdod Lleol.

^Brig

Ar ôl i mi lenwi fy Natganiad Statudol hwyr, beth sy'n digwydd nesaf?

Caiff copi o'ch ffurflen ei ffacsio at yr Awdurdod Lleol dan sylw. Ar ôl ei dderbyn, bydd yr Awdurdod Lleol yn atal unrhyw gamau gorfodi. Os bydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn eich cais cyn pen 14 diwrnod, diddymir y Gorchymyn Adennill (caiff ei ganslo). Os bydd yr Awdurdod Lleol yn gwrthod eich cais, caiff yr apêl ei gyfeirio at un o Swyddogion y Llys a fydd yn gwneud penderfyniad barnwrol diduedd. Fe'ch hysbysir o'r canlyniadau.

Rwyf wedi ffeilio fy Natganiad Statudol hwyr ac mae Swyddog y Llys wedi'i wrthod. Sut mae apelio yn erbyn hynny?

Cewch apelio drwy lenwi ffurflen N244 'Hysbysiad o Gais' yn nodi eich bod yn dymuno rhoi gorchymyn Swyddog y Llys o'r naill du. Ar ôl derbyn eich ffurflen, bydd y CGT yn trosglwyddo'r mater i lys sirol lleol yr Atebydd a chaiff ei restru ar gyfer gwrandawiad.

A fydd y gosb ariannol yn cael ei chofrestru fel dyfarniad?

Ni chofrestrir cosb ariannol ar gofrestr gyfunol yn yr un modd â Dyfarniad Llys Sirol.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 16 October 2006 13:55. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .