English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Ddeddfwriaeth CGT Cwestiynau Cyffredin Cysylltu â Ni Datganiadau Statudol

Ein Canolfannau

Canolfan Cynhyrchu Hawliadau Canolfan Gorfodi Traffig Hawliad arian ar lein Swmp Ganolfan y Llysoedd Sirol System Ganolog - Taliadau Atafaelu Enillion (CAPS)

Canolfan Gorfodi Traffig (CGT)


Mae'r Ganolfan Gorfodi Traffig (CGT) yn bwynt cofrestru ar gyfer Awdurdodau Lleol (ALlau) sydd wedi dad-droseddoli cosbau ariannol am barcio ar y stryd.

Mae'r CGT hefyd yn adennill cosbau am Ollyngiadau Cerbydau, cosbau mewn perthynas â Thaliadau am Ddefnyddio Ffyrdd Llundain (Tâl Atal Tagfeydd) a chosbau am gamddefnyddio Lonydd Bysiau ym Mwrdeistrefi Llundain.

Bydd Awdurdodau Lleol yn anfon eu data cofrestru naill ai ar ddisg hyblyg neu drwy fodem a gwarentir y daw'r cofrestriad i rym ar y diwrnod y caiff ei dderbyn, ar yr amod ei fod yn cael ei ddilysu ar gyfrifiadur. Bydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn yr awdurdod i gynhyrchu'r Gorchymyn Adennill ar yr un diwrnod.

Rhennir gwaith ein staff yn ddau faes; Mae'r cyntaf yn ymwneud â delio â galwadau drwy ein desg gymorth arbennig, gan gynorthwyo pobl gyda gweithdrefnau CGT ac anfon ffurflenni perthnasol pan fo angen. Mae'r ail yn ymwneud â phrosesu'r Datganiadau Statudol perthnasol a cheisiadau i ffeilio Datganiadau Statudol hwyr.

Yr Awdurdod perthnasol a fydd yn gorfodi drwy gyfrwng gwarant i weithredu. Bydd Awdurdodau Lleol yn defnyddio beilïaid preifat i weithredu'r warant.

Roedd TEC wedi prosesu oddeutu 1.2 miliwn o gofrestriadau yn ystod 2006/07, a miliwn arall rhwng mis Ebrill 2007 a mis Rhagfyr 2007.

DALIER SYLW

Cofiwch y bydd y ffioedd canlynol yn dod i rym o 1af Hydref 2008 ymlaen:

£35.00 ar gyfer pob Datganiad Statudol neu Ddatganiad Tyst os yw'r cyfnod ar gyfer ffeilio wedi dod i ben (PE2 neu TE7)

£75.00 ar gyfer cais i roi Gorchymyn Swyddog Llys o'r naill du (Ffurflen N244)


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 26 September 2008 11:57. Uned Iaith Gymraeg Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .