English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Cwestiynau Cyffredin Cysylltu â Ni Talu gyda BACS

Adnoddau pellach

Deddf Atafaelu Enillion 1971 - Gorchymyn 27 Rheolau'r Drefn Sifil

Ein Canolfannau

Canolfan Cynhyrchu Hawliadau Canolfan Gorfodi Traffig Hawliad arian ar lein Swmp Ganolfan y Llysoedd Sirol System Ganolog - Taliadau Atafaelu Enillion (CAPS)

System Ganolog - Taliadau Atafaelu Enillion (CAPS)


Cyflwynwyd CAPS ym 1996. Cyn cyflwyno'r system hon, arferai pob llys sirol gynhyrchu ei orchmynion atafaelu enillion ei hun a delio â'r taliadau a wnaed dan y gorchmynion hynny. Y llys lleol oedd hefyd yn gyfrifol am orfodi'r gorchymyn, ond gan nad oedd cefnogaeth gyfrifiadurol i hyn, roedd yn anymarferol a dim ond ar ôl derbyn ceisiadau gan hawlwyr unigol y dechreuwyd cymryd camau gorfodi. Ar ôl datblygu system gyfrifiadurol CAPS yn Northampton, newidiodd llysoedd eu gorchmynion cyfredol i fod yn daladwy yn Northampton, ac anfonwyd pob gorchymyn newydd i fan hyn i gael ei gynhyrchu.

Mae hi'n hawdd i CAPS fonitro taliadau, prosesu taliadau a, phan fydd angen gorfodi, bydd yn cyfeirio gorchmynion yn ôl i'r llys lleol. Mae CAPS felly'n arbed arian i Wasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi, mae'n darparu ffordd syml ac effeithiol o orfodi ar gyfer hawlwyr, ac mae hefyd yn darparu un pwynt talu ar gyfer cyflogwyr. Mae CAPS bob amser wedi cyrraedd y targed a osodom i ni'n hunain sef anfon derbynneb ar gyfer pob taliad ar y diwrnod y'i derbyniwyd. Roeddem wedi penderfynu mai dyma ein prif nod gwasanaeth cwsmeriaid, gan y byddai hyn yn sicrhau y byddai unrhyw daliadau a wnaed dan orchymyn cynhaliaeth wedyn yn cael eu talu ar y cyfle cyntaf (y diwrnod gwaith canlynol). Caiff taliadau dan orchymyn dyfarnu eu talu'n wythnosol.

Rydym wedi datblygu CAPS ymhellach er mwyn galluogi cyflogwyr i dalu gyda BACS ac rydym wedi gweithio gydag ein bancwyr, Tâl-feistr, i symleiddio'r ffordd yr ydym yn delio â thrafodion BACS. Defnyddiwn ddolen modem i weld ein cyfrif banc a gallwn weld trafodion cyn derbyn yr adroddiadau papur, sy'n ein galluogi i baratoi'r gwaith ymlaen llaw.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 05 October 2006 16:06. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .