English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Ynglŷn â GLIEM
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Partneriaid yn y system cyflawnder


Nid yw GLlEM ond un rhan o system cyfiawnder ehangach. I helpu i sicrhau fod y system hon yn gweithio'n effeithiol, mae GLlEM yn gweithio'n agos gyda phob parti, gan roi hyder i'r cyhoedd.

Cefnogi Llywodraeth ddi-fwlch

Mae GLlEM wedi ymroi i weithio'n agos gyda'n mudiadau partner, ar lefel genedlaethol – wrth osod polisi a thargedau ynghyd â'r Swyddfa Gartref, y Swyddfa Diwygio Cyfiawnder Troseddol, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Heddlu – ac yn lleol, drwy strwythurau megis y Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol. Mae'r rhain yn darparu fforwm rheolaidd i gynrychiolwyr GLlEM gyfarfod â'r Heddlu, y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr, y Tîm Troseddwyr Ifainc a phartïon eraill perthnasol i ddatblygu agwedd ddi-fwlch tuag at fynd i'r afael â'r materion sy'n effeithio fwyaf ar yr ardal leol. Gallai'r rhain ymestyn o  ganfod problemau gyda throseddau penodol i gytuno ar sut i rannu gwybodaeth am achosion.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 29 August 2006 15:18. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .