Cynllun Peilot Eiriolwyr Dioddefwyr
Tan yn ddiweddar, doedd dim modd i berthnasau'r rhai a gafodd eu llofruddio neu a oedd wedi dioddef dynladdiad siarad yn y llys am yr effaith gafodd y farwolaeth arnynt. Yn awr, bydd pwysigrwydd teulu'r dioddefwr yn cael ei gydnabod trwy roi'r dewis i'r perthnasau, os mynnant, annerch y llys wedi'r euogfarn a chyn y ddedfryd.
Bydd perthnasau yn derbyn help gan Wasanaeth Erlyn y Goron (GEG) neu dwrnai neu fargyfreithiwr annibynnol, y cedwir eu henwau ar gronfa ddata, i ddweud wrth y llys am effaith y drosedd. Y mae protocol barnwrol yn pennu'r drefn i'w dilyn.
Hefyd, bydd cyngor cyfreithiol yn cael ei gynnig i berthnasau ar faterion personol a chymdeithasol gan dwrnai annibynnol. Y mae'r canllawiau ar ddarparu cyngor cyfreithiol personol a chymdeithasol (dolen i'r Canllaw ar Ddarparu Cyngor Cyfreithiol Personol a Chymdeithasol) yn esbonio pa help sydd ar gael.
Ym Mai 2005, yr oedd dogfen y Weinyddiaeth Cyfiawnder 'Making a Difference: taking Forward Our Priorities' yn pennu blaenoriaethau'r Adran, ac yn eu plith y mae rhoi i ddioddefwyr troseddau megis llofruddiaeth a thrais, a'u perthnasau, lais go-iawn mewn achosion troseddol, gyda'r hawl i gynrychiolaeth ac eiriolaeth yn y llys.
Yr Old Bailey
Birmingham
Caerdydd
Crown Square Manceinion
Caer-wynt
Cychwynnodd y peilot ar 24 Ebrill 2006 ac yn parhau.
