Arweiniad y Llys Gweinyddol
Nodiadau canllaw ar wneud cais am adolygiad barnwrol
Ionawr 2005
3 Beth yw'r Protocol Cyn-achos?
4 Lle ddylwn i gychwyn achos?
5 Pryd ddylwn i gyflwyno fy nghais?
7 Sut mae gwneud cais am Adolygiad Barnwrol?
8 Beth ddylwn i ei wneud os yw fy nghais yn un brys?
10 Beth fydd yn digwydd os gwrthodir fy nghais am ganiatâd?
11 Beth fydd yn digwydd os caniateir fy nghais am ganiatâd?
12 Beth fydd yn digwydd pan fydd fy achos yn barod i'w glywed?
13 Beth os oes angen imi wneud cais am ragor o orchmynion ar ôl cael caniatâd?
14 A oes modd penderfynu ynglŷn â'm cais heb fod angen gwrandawiad?
15 Beth os bydd yr achos yn cael ei setlo drwy gydsyniad cyn gwrandawiad fy nghais?
16 Beth os byddaf eisiau dirwyn yr achos i ben ar unrhyw adeg?
17 A fydd rhaid imi dalu costau?
18 Beth alla i ei wneud os ydw i'n anfodlon â phenderfyniad y Barnwr?
19 Lle gallaf i gael cyngor am faterion trefniadol?
Cyflwyniad Cyffredinol
1. Ni fwriadwyd i'r nodiadau hyn fod yn gynhwysfawr. Fe'u lluniwyd er mwyn amlinellu'r trefniadau sydd i'w dilyn wrth geisio gwneud cais am adolygiad barnwrol yn y Llys Gweinyddol. Am ragor o fanylion ynglŷn â'r drefn i'w dilyn dylech chi a'ch cynrychiolwyr / cynghorwyr cyfreithiol ddarllen Rhan 54 o'r Rheolau Trefn Sifil (CPR) a'r Cyfarwyddyd Ymarfer priodol, sef Cyfarwyddyd Ymarfer 54.
Adran 2
Beth yw Adolygiad Barnwrol?
2.1 Adolygiad barnwrol yw'r drefn sy'n eich galluogi i herio penderfyniad, camau a gymerwyd neu fethiant i gymryd camau ar ran corff cyhoeddus fel un o adrannau'r llywodraeth neu awdurdod lleol neu gorff arall sy'n ymarfer swyddogaeth cyfraith gyhoeddus. Os ydych yn herio penderfyniad llys, dim ond i benderfyniadau llysoedd is y mae awdurdodaeth adolygiad barnwrol yn ymestyn. Nid yw'n ymestyn i benderfyniadau'r Uchel Lys na'r Llys Apêl. Rhaid defnyddio adolygiad barnwrol os ydych yn ceisio cael:
- gorchymyn gorfodol (h.y. gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r corff cyhoeddus wneud rhywbeth, ac a arferai gael ei alw'n orchymyn mandamus);
- gorchymyn gwahardd (h.y. gorchymyn sy'n gwahardd y corff cyhoeddus rhag gwneud rhywbeth); neu
- orchymyn dileu (h.y. gorchymyn sy'n dileu penderfyniad y corff cyhoeddus ac a arferai gael ei alw'n orchymyn certiorari)
- datganiad
- Iawndal dan y Ddeddf Iawnderau Dynol
2.2 Gwrandewir hawliadau fel arfer gan un Barnwr yn eistedd mewn Llys agored yn y Llysoedd Barn Brenhinol yn Llundain. Gellir eu gwrando gan Lys Adrannol (llys â dau farnwr) lle bo'r Llys yn nodi hynny.
Beth yw'r Protocol Cyn-achos?
3.1 Rhaid i unrhyw hawliad am adolygiad barnwrol nodi a gydymffurfiwyd â'r protocol ai peidio. Os na chydymffurfiwyd â'r protocol, dylid nodi'r rhesymau dros beidio â gwneud hynny yn y ffurflen hawlio.
3.2 Mae'r protocol yn cynnwys cod ymarfer da ac mae'n nodi'r camau y dylai partïon eu dilyn fel arfer cyn hawlio adolygiad barnwrol. Pwrpas y protocol cyn-achos yw osgoi cyfreitha diangen.
3.3 Cyn mynd ati i hawlio adolygiad barnwrol, dylech anfon llythyr at y diffynnydd. Pwrpas y llythyr hwn yw nodi'r materion y mae anghydfod yn eu cylch a chanfod a oes modd osgoi cyfreitha. Dylai'r llythyr gynnwys dyddiad a manylion y penderfyniad, y weithred neu'r hepgoriad sy'n cael ei herio a chrynodeb clir o'r ffeithiau y mae'r hawliad yn seiliedig arno. Dylai hefyd gynnwys manylion ynglŷn ag unrhyw wybodaeth berthnasol y mae'r hawlydd yn gofyn amdani ac eglurhad yn nodi pam y bernir bod hyn yn berthnasol. Ni ddylid gwneud hawliad fel arfer hyd nes y bo'r dyddiad ymateb bwriadedig a roddir yn y llythyr cyn yr hawliad wedi mynd heibio, oni bai bod amgylchiadau'r achos yn galw am weithredu'n gynt.
3.4 Dylai diffynyddion ymateb i'r llythyr hwn fel rheol cyn pen 14 diwrnod a gellir pennu sancsiynau oni bai fod rhesymau da dros beidio ag ymateb o fewn y cyfnod hwn.
DS – Nid yw'r protocol yn effeithio ar yr amserlen a bennwyd yn CPR Rhan 54.5(1), sef bod rhaid i gais am ganiatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol gael ei wneud yn fuan a beth bynnag yw'r achos ddim hwyrach na 3 mis ar ôl i'r rhesymau y mae'r hawliad yn seiliedig arnynt ddod i'r amlwg am y tro cyntaf.
DS – Dylech ofyn am gyngor er mwyn canfod a yw'r protocol yn briodol yn amgylchiadau eich achos chi. Ni fydd yn briodol defnyddio'r protocol lle nad oes gan y diffynnydd y pŵer cyfreithiol i newid y penderfyniad sy'n cael ei herio. Mae'n bosib hefyd na fydd yn briodol mewn amgylchiadau lle bo'r cais yn un brys.
DS – Ni fydd llythyr cyn hawliad yn atal penderfyniad y mae anghydfod yn ei gylch rhag cael ei weithredu yn awtomatig.
DS – Hyd yn oed mewn achosion brys, mae'n syniad da ffacsio'r ffurflen hawlio ddrafft yr ydych yn bwriadu ei hanfon at y diffynnydd. Fel rheol hefyd bydd yn ofynnol ichi hysbysu diffynnydd pan fyddwch yn gofyn am orchymyn interim; h.y. gorchymyn yn rhoi rhyw fath o wneud iawn hyd nes y ceir penderfyniad terfynol ynglŷn â'r hawliad.
Adran 4
Lle ddylwn i gychwyn achos?
4.1 Ymdrinnir â hawliadau am adolygiad barnwrol dan CPR Rhan 54 yn y Llys Gweinyddol. Lle bo'r hawliad yn mynd rhagddo yn y Llys Gweinyddol yn Llundain, rhaid ffeilio dogfennau yn Swyddfa'r Llys Gweinyddol, Y Llysoedd Barn Brenhinol, Strand, Llundain, WC2A 2LL. Lle bo'r hawliad yn mynd rhagddo yn y Llys Gweinyddol yng Nghymru (gan ei fod yn ymwneud ag (a) mater datganoli sy'n deillio o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998; neu (b) mater sy'n ymwneud â Chynulliad Cenedlaethol Cymru, gweithrediaeth Cymru, neu unrhyw gorff cyhoeddus yng Nghymru (gan gynnwys awdurdod lleol yng Nghymru) gellir ffeilio'r dogfennau yn y Canolfan Llysoedd Sifil Caerdydd, 2 Stryd y Parc, Caerdydd, CF10 1ET neu yn Swyddfa'r Llys Gweinyddol, Y Llysoedd Barn Brenhinol, Strand, Llundain, WC2A 2LL.
A oes modd imi gael arian gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol (Cymorth Cyfreithiol) ar gyfer fy nghais?
4.2 Nid oes gan y Llys na Swyddfa'r Llys Gweinyddol hawl i roi arian (cymorth cyfreithiol gynt). Y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol sy'n gyfrifol am ddarparu arian cyhoeddus.
4.3 Ceir rhagor o wybodaeth am y math(au) o gymorth sydd ar gael a'r meini prawf ar gyfer derbyn y cymorth hwn yn Llawlyfr y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol, Cyfrol 3: Y Cod Cyllido. Mae'r Llawlyfr hwn i'w weld ar wefan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol: http://www.legalservices.co.uk/.
4.4 Gellir gweld rhestr o gwmnïau dan gontract ac Asiantaethau Cyngor ar wefan y Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol: http://www.justask.org.uk/. Gall y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol hefyd roi rhestr o gyfreithwyr yn eich ardal chi ichi os byddwch yn eu ffonio ar 0845 608 1122.
Adran 5
Pryd ddylwn i gyflwyno fy nghais am ganiatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol i'r Llys?
5.1 Rhaid ffeilio'r ffurflen hawlio yn fuan a beth bynnag yw'r achos ddim hwyrach na thri mis ar ôl i'r rhesymau y mae'r hawliad yn seiliedig arnynt ddod i'r amlwg am y tro cyntaf (CPR Rhan 54.5).
5.2 Mae gan y llys hawl i ymestyn y cyfnod ar gyfer cyflwyno cais am adolygiad barnwrol i'r Llys ond ni fydd yn gwneud hynny oni bai ei fod yn fodlon bod rhesymau da iawn dros wneud hynny.
DS – Ni chaniateir ymestyn y cyfnod ar gyfer cyflwyno'r cais i'r Llys drwy gytundeb rhwng y ddwy ochr.
DS – Os ydych yn gofyn am ragor o amser i gyflwyno'ch cais i'r Llys, rhaid ichi wneud cais gan ddefnyddio'r ffurflen hawlio, gan nodi rhesymau i gefnogi'r cais hwn am ragor o amser (CPR Rhan 54.5).
A oes ffi i'w thalu, ac os oes, pryd ddylwn i ei thalu?
6.1 Mae ffi o £50.00 yn daladwy pan fyddwch yn cyflwyno eich cais am ganiatâd i wneud cais am Adolygiad Barnwrol i'r Llys. Mae swm ychwanegol o £180.00 yn daladwy os ydych yn dymuno bwrw 'mlaen â'r hawliad ar ôl cael caniatâd (Gorchymyn Ffioedd Achosion Sifil 2004).
DS – Os ydych yn derbyn rhai mathau o fudd-daliadau mae'n bosib y bydd gennych hawl i gael eich esgusodi rhag talu / dileu unrhyw ffi sy'n daladwy.
DS – Dylid gwneud sieciau'n daladwy i GLlEM. Os ydych yn cyflwyno'ch cais yn bersonol yn swyddfa'r llys, rhaid i sieciau personol gael eu cefnogi â cherdyn gwarantu siec a gyflwynir ar yr adeg y cyflwynir y cais i'r Llys.
DS – Rhaid gwneud cais ysgrifenedig i gael eich esgusodi rhag talu / dileu ffioedd a dylid ei anfon i Swyddfa Ffioedd y Goruchel Lys, Ystafell E01, Y Llysoedd Barn Brenhinol cyn cyflwyno'r cais am ganiatâd i'r Llys.
Adran 7
Sut mae gwneud cais am Adolygiad Barnwrol?
7.1 Rhaid i geisiadau am ganiatâd i wneud cais am adolygiad barnwrol gael eu gwneud drwy ddefnyddio ffurflen hawlio (Ffurflen N461).
7.2 Rhaid i'r ffurflen hawlio gynnwys y canlynol neu dylid cyflwyno'r canlynol gyda'r ffurflen –
- datganiad manwl yn nodi rhesymau'r hawlydd dros gyflwyno'r hawliad am adolygiad barnwrol;
- datganiad o'r ffeithiau y dibynnir arnynt;
- unrhyw gais i ymestyn yr amserlen ar gyfer ffeilio'r ffurflen hawlio; ac
- unrhyw gais am gyfarwyddiadau.
7.3 Os ydych yn ceisio codi unrhyw fater dan Ddeddf Iawnderau Dynol 1998, neu ffordd o wneud iawn sydd ar gael dan y Ddeddf honno, rhaid i'r ffurflen hawlio gynnwys y wybodaeth sy'n ofynnol dan baragraff 16 o'r Cyfarwyddyd Ymarfer sy'n ychwanegu at Ran 16 o'r Rheolau Trefn Sifil.
7.4 Os ydych yn bwriadu codi mater sy'n ymwneud â datganoli, rhaid i'r ffurflen hawlio (a) nodi eich bod yn dymuno codi mater sy'n ymwneud â datganoli (b) nodi darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 1998, ac (c) cynnwys crynodeb o'r ffeithiau, yr amgylchiadau a'r pwyntiau cyfreithiol yr honnir bod mater datganoli'n codi ar eu sail.
7.5 Rhaid cyflwyno'r canlynol gyda'r ffurflen hawlio –
- unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig i gefnogi'r hawliad neu'r cais am ragor o amser;
- copi o unrhyw orchymyn yr ydych yn ceisio cael ei ddiddymu;
- lle bo'r hawliad am adolygiad barnwrol yn ymwneud â phenderfyniad llys neu dribiwnlys, copi cymeradwyedig o'r rhesymau dros ddod i'r penderfyniad hwnnw;
- copïau o unrhyw ddogfennau yr ydych yn bwriadu dibynnu arnynt;
- copïau o unrhyw ddeunydd statudol perthnasol;
- rhestr o ddogfennau y mae'n hanfodol i'r Llys eu darllen ymlaen llaw (gan gyfeirio at rifau'r tudalennau lle mae'r darnau y byddir yn dibynnu arnynt). Lle bo angen darllen rhan yn unig o dudalen, dylid nodi'r rhan honno, drwy roi llinellau ar yr ochr neu mewn rhyw ffordd arall, ond nid drwy eu haroleuo â phin ffelt.
DS – Os nad yw'n bosib ichi ffeilio'r holl ddogfennau uchod, rhaid ichi nodi pa ddogfennau nad ydych wedi eu ffeilio a'r rhesymau pam nad ydynt ar gael ar hyn o bryd. Gall y diffynnydd a/neu y sawl sydd â budd ofyn am ragor o amser er mwyn cyflwyno ei gydnabyddiad cyflwyno hyd nes y derbynnir y dogfennau sydd ar ôl.
Pa ddogfennau y mae angen i mi eu cyflwyno?
7.6 Rhaid ichi gyflwyno'r ffurflen hawlio wreiddiol, ynghyd â chopi i'w ddefnyddio gan y llys, a bwndel gyda'r tudalennau wedi eu rhifo a'u mynegeio yn cynnwys y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff 19 uchod (CPR Rhan 54.6 a'r Cyfarwyddyd Ymarfer). Dylech wneud yn siŵr bod rhifau'r tudalennau yn eich bwndel yn dilyn ei gilydd. Dylech hefyd wneud yn siŵr bod rhif wedi ei nodi ar bob tudalen a darparu mynegai, sy'n rhoi disgrifiad o'r dogfennau sydd yn eich bwndel ynghyd â chyfeirnodau'r tudalennau.
7.7 Os yw eich achos yn achos troseddol yna bydd y Llys yn disgwyl ichi gyflwyno copi arall o'r bwndel i'r Llys.
7.8 Rhaid ichi hefyd gyflwyno digon o gopïau ychwanegol o'r ffurflen hawlio i'r llys eu selio (h.y. eu stampio â sêl y llys) er mwyn ichi allu eu cyflwyno i'r diffynnydd ac unrhyw un arall sydd â budd. Dychwelir y copïau sydd wedi eu selio ichi er mwyn ichi allu eu cyflwyno i'r diffynnydd ac unrhyw un arall sydd â budd.
7.9 Os ydych yn cael eich cynrychioli gan dwrneiod rhaid iddynt hwythau ddarparu bwndel, gyda'r tudalennau wedi eu rhifo a'u mynegeio, o'r darpariaethau cyfreithiol a'r offerynnau statudol perthnasol sydd eu hangen er mwyn ystyried y cais yn briodol. Os ydych yn gweithredu'n bersonol dylech gydymffurfio â'r gofyniad hwn os yn bosib.
DS – Ni dderbynnir ceisiadau nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion CPR Rhan 54 a'r Cyfarwyddyd Ymarfer, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Yn y cyd-destun hwn, bydd mater yn cael ei ystyried fel un eithriadol lle gofynnir am benderfyniad gan y Llys cyn pen 14 diwrnod ar ôl cyflwyno'r cais i'r Llys. Mewn amgylchiadau o'r fath bydd angen addewid y byddir yn cydymffurfio â gofynion y CPR cyn pen cyfnod penodedig.
DS – Os mai'r unig reswm a roddir i gefnogi brys yw bod y cyfnod o dri mis ar gyfer cyflwyno cais i'r Llys ar fin dod i ben, bydd y papurau'n dal i gael eu dychwelyd er mwyn cydymffurfio â Rhan 54 a'r Cyfarwyddyd Ymarfer. Yn yr amgylchiadau hynny rhaid ichi ofyn am ragor o amser a rhoi rhesymau dros yr oedi cyn cyflwyno'r papurau i'r Llys yn y ffurf briodol.
I bwy ddylwn i gyflwyno fy nghais?
7.10 Rhaid cyflwyno'r copi o'r ffurflen hawlio wedi ei selio (a'r dogfennau cysylltiedig) i'r diffynnydd ac unrhyw berson yr ydych yn ei ystyried fel parti â budd (oni bai bod y llys yn nodi'n wahanol) cyn pen 7 diwrnod o'r dyddiad cyhoeddi (h.y. y dyddiad a ddangosir ar sêl y llys). Ni fydd Swyddfa'r Llys Gweinyddol yn cyflwyno eich hawliad i'r diffynnydd nac i unrhyw barti â budd.
DS - Mae parti â budd yn golygu person y mae eich cais am adolygiad barnwrol yn debygol o gael effaith uniongyrchol arno.
DS Dan ddarpariaethau Deddf Achosion yn erbyn y Goron 1947 rhaid cyflwyno hawliad i'r Adran sy'n gyfrifol am y Diffynnydd.
DS Lle bo'r hawliad am adolygiad barnwrol yn ymwneud ag achos mewn llys neu dribiwnlys, rhaid enwi unrhyw un arall sy'n gysylltiedig â'r achosion hynny yn y ffurflen hawlio fel partïon â budd a chyflwyno'r ffurflen hawlio iddynt (CPR 54 PD.5). Er enghraifft, mewn hawliad gan ddiffynnydd mewn achos troseddol yn Llys yr Ynadon neu Lys y Goron am adolygiad barnwrol o benderfyniad yn yr achos hwnnw, rhaid enwi'r erlyniad bob amser fel parti â budd.
7.11 Rhaid ichi anfon Tystysgrif Cyflwyno yn Ffurflen N215 i Swyddfa'r Llys Gweinyddol cyn pen 7 diwrnod ar ôl cyflwyno'r hawliad i'r diffynnydd a phartïon eraill sydd â budd.
7.12 Mae Rheolau'r Llys yn nodi'r amserlen isod a ddefnyddir gan y Llys er mwyn cymryd yn ganiataol bod hawliad wedi ei gyflwyno. (Gweler CPR 6.7).
|
Dull |
Dyddiad y cymerir bod dogfen wedi ei chyflwyno |
| Cyfnewid dogfennau | Yr ail ddiwrnod ar ôl iddo gael ei adael yn y swyddfa cyfnewid dogfennau |
| Danfon y ddogfen i gyfeiriad a ganiateir neu ei gadael yno | Y diwrnod ar ôl iddi gael ei danfon i'r cyfeiriad a ganiateir neu ei gadael yno |
| Post dosbarth cyntaf | Yr ail ddiwrnod ar ôl iddi gael ei phostio |
| Ffacs (lle bo'r sawl sy'n derbyn yn fodlon derbyn cyflwyniad drwy ffacs). | Os yw'n cael ei throsglwyddo ar ddiwrnod gwaith cyn 4p.m, ar y diwrnod hwnnw neu fel arall ar y diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y cafodd ei throsglwyddo |
DS – Mae'r amser ar gyfer anfon cydnabyddiad cyflwyno i'r diffynnydd ac unrhyw bartïon â budd yn dechrau o'r dyddiad y bernir bod yr hawliad wedi ei gyflwyno iddynt.
Adran 8
Beth ddylwn i ei wneud os yw fy nghais yn un brys?
8.1 Os ydych am wneud cais er mwyn i'ch cais am ganiatâd gael ei wrando/ystyried gan Farnwr fel mater o frys a/neu ofyn am waharddeb interim, rhaid ichi lenwi Cais am Ystyriaeth Frys, Ffurflen N463. Gellir cael copi o'r ffurflen gan Swyddfa'r Llys. Mae'r ffurflen yn nodi'r rhesymau dros y brys a'r amserlen y mae'n ofynnol cydymffurfio â hi er mwyn ystyried y cais am ganiatâd, e.e. cyn pen 72 awr neu'n gynt os oes angen, a'r dyddiad olaf ar gyfer cynnal y prif wrandawiad.
8.2 Os ydych yn ceisio cael gwaharddeb interim, rhaid ichi hefyd ddarparu gorchymyn drafft; a'r rhesymau dros y waharddeb. Rhaid ichi gyflwyno'r ffurflen hawlio, y gorchymyn drafft a'r cais am ystyriaeth frys i'r diffynnydd a'r partïon â budd (drwy FFACS a thrwy'r post), gan eu hysbysu ynglŷn â'r cais a rhoi gwybod iddynt y gallant wneud sylwadau yn uniongyrchol i'r llys mewn perthynas â'ch cais.
8.3 Bydd barnwr yn ystyried y cais o fewn yr amser penodedig a gall wneud y cyfryw orchymyn sy'n briodol yn ei farn ef.
DS – Gall y barnwr wrthod eich cais am ganiatâd bryd hyn os yw'n credu bod hynny'n briodol, dan yr amgylchiadau.
8.4 Os yw'r Barnwr yn dweud bod rhaid cynnal gwrandawiad llafar cyn pen cyfnod penodedig bydd y Llys Gweinyddol yn cysylltu â chi a chynrychiolwyr y partïon eraill er mwyn trefnu gwrandawiad caniatâd cyn pen yr amser a bennwyd.
8.5 Lle gwneir cais brys sy'n amlwg yn amhriodol, gellir, mewn achosion priodol, ystyried gwneud gorchymyn costau a wastraffwyd.
Adran 9
Beth yw cydnabyddiad cyflwyno?
9.1 Dylai unrhyw berson y cyflwynwyd y ffurflen hawlio iddo ac sy'n dymuno cymryd rhan yn yr adolygiad barnwrol anfon cydnabyddiad cyflwyno (Ffurflen N462) i Swyddfa'r Llys Gweinyddol, cyn pen 21 diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd yr achos iddo.
DS – Er nad yw'n ofynnol ichi gyflwyno Ffurflen N462 i'r diffynnydd ac unrhyw barti â budd er mwyn iddynt ei llenwi, mae gwneud hynny yn ymarfer da.
9.2 Rhaid i'r cydnabyddiad cyflwyno gynnwys crynodeb o'r rhesymau dros ddadlau yn erbyn yr hawliad ac enw a chyfeiriad unrhyw berson yr ystyrir ei fod yn barti â budd (nad yw wedi ei nodi o'r blaen ac na chyflwynwyd hawliad iddo fel parti â budd).
9.3 Rhaid i'r cydnabyddiad cyflwyno gael ei gyflwyno i chi a'r partïon sydd â budd ddim hwyrach na 7 diwrnod ar ôl iddo gael ei gofnodi yn y llys.
DS – Mae peidio â chofnodi cydnabyddiad cyflwyno yn golygu bod angen i'r parti dan sylw gael caniatâd y llys i gymryd rhan mewn unrhyw wrandawiad llafar o'r cais am ganiatâd.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r diffynnydd a/neu'r parti â budd gyflwyno cydnabyddiad cyflwyno?
9.4 Bydd ceisiadau am ganiatâd i fwrw 'mlaen â'r hawliad am adolygiad barnwrol yn cael eu hystyried gan un llys ar sail y papurau. Pwrpas y weithdrefn hon yw sicrhau bod modd delio gyda cheisiadau yn gyflym a heb gostau diangen.
9.5 Anfonir y papurau at y barnwr gan Swyddfa'r Llys Gweinyddol ar ôl derbyn y Cydnabyddiad Cyflwyno neu pan ddaw'r cyfnod ar gyfer cyflwyno cydnabyddiad o'r fath i ben, pa un bynnag sy'n digwydd gyntaf.
9.6 Cyflwynir penderfyniad y barnwr a'r rhesymau drosto (Ffurflen JRJ) i chi, y diffynnydd ac unrhyw berson arall y cyflwynwyd y ffurflen hawlio iddo.
9.7 Os bydd y barnwr yn rhoi caniatâd ac os ydych am fwrw 'mlaen â'r hawliad, rhaid ichi anfon ffi arall o £180.00 (neu ffurflen dileu ffi / esgusodi rhag talu arall wedi ei hardystio) i Swyddfa'r Llys Gweinyddol cyn pen 7 diwrnod ar ôl i benderfyniad y barnwr gael ei gyflwyno i chi.
DS – Os nad ydych yn anfon y ffi ychwanegol, bydd eich ffeil yn cael ei chau.
Adran 10
Beth fydd yn digwydd os gwrthodir fy nghais am ganiatâd neu os rhoddir caniatâd gydag amodau neu yn rhannol yn unig?
10.1 Os gwrthodir caniatâd, neu os yw'n cael ei roi gydag amodau neu ar seiliau penodol yn unig, gallwch ofyn am ail ystyriaeth i'r penderfyniad hwnnw mewn gwrandawiad llafar.
10.2 Rhaid gwneud cais am wrandawiad llafar gan ddefnyddio'r Rhybudd Adnewyddu, Ffurflen 86b, (anfonir copi ohoni atoch yr un pryd â phenderfyniad y barnwr) a rhaid ichi ei chyflwyno cyn pen 7 diwrnod ar ôl i'r hysbysiad ynglŷn â phenderfyniad y barnwr gael ei gyflwyno i chi (CPR Rhan 54.11 a 54.12).
10.3 Lle bo'r barnwr yn gorchymyn gwrandawiad llafar neu os ydych yn adnewyddu eich cais ar ôl iddo gael ei wrthod yn dilyn ystyriaeth ar bapur, gallwch ymddangos yn bersonol neu gael eich cynrychioli gan eiriolwr (os oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol). Os nad oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol gallwch ofyn am ganiatâd y llys i gael rhywun i siarad ar eich rhan yn y gwrandawiad.
DS – Dylai unrhyw gais am ganiatâd i gael rhywun i siarad ar eich rhan gael ei wneud i'r barnwr sy'n gwrando'r cais a fydd yn gwneud y cyfryw benderfyniad sy'n briodol yn ei farn ef yn yr holl amgylchiadau.
10.4 Cyflwynir hysbysiad ynglŷn â'r gwrandawiad i chi, y diffynnydd ac unrhyw barti â budd gan Swyddfa Restru'r Llys gweinyddol. Neilltuir cyfanswm o 30 munud o amser y llys ar gyfer gwrandawiad llafar. Os teimlir nad yw 30 munud o amser y llys yn ddigon, gallwch ddarparu amcangyfrif ysgrifenedig o'r amser y mae ei angen ar gyfer y gwrandawiad a gofyn am ddyddiad ac amser arbennig.
10.5 Nid oes angen i'r diffynnydd nac unrhyw barti arall sydd â budd fynychu gwrandawiad sy'n ymwneud â chaniatâd oni bai bod y llys yn nodi'n wahanol.
Adran 11
Beth fydd yn digwydd ar ôl rhoi caniatâd?
11.1 Ar ôl rhoi caniatâd gall y llys wneud cyfarwyddiadau rheolaeth achos dan CPR 54.10(1) yn ymwneud â bwrw 'mlaen â'r achos. Gall cyfarwyddiadau rheolaeth achos gynnwys cyfarwyddiadau yn ymwneud â chyflwyno'r ffurflen hawlio ac unrhyw dystiolaeth am bobl eraill a chyfarwyddiadau yn ymwneud â phrysuro.
11.2 Lle gwneir hawliad dan Ddeddf Iawnderau Dynol 1998, gellir gwneud cyfarwyddyd yn ymwneud â rhoi rhybudd i'r Llys neu ymuno â'r Goron fel parti. Yn hynny o beth tynnir eich sylw at ofynion rheol 19.4A a pharagraff 6 o'r Cyfarwyddyd Ymarfer sy'n ategu Adran I o Ran 19.
11.3 Gellir rhoi cyfarwyddyd yn nodi y dylid cynnal gwrandawiad yr hawliad am adolygiad barnwrol yn rhywle arall ar wahân i Lundain neu Gaerdydd.
Pryd ddylai'r diffynnydd/parti â budd gyflwyno ei dystiolaeth ar ôl i'r caniatâd gael ei roi?
11.4 Rhaid i barti y cyflwynwyd ffurflen hawlio iddo ac sy'n dymuno dadlau yn erbyn yr hawliad (neu ei gefnogi am resymau ychwanegol), cyn pen 35 diwrnod ar ôl cyflwyno'r gorchymyn sy'n rhoi caniatâd, gofnodi a chyflwyno i'r Llys a phob un o'r partïon eraill
- Resymau manwl dros ddadlau yn erbyn yr hawliad neu ei gefnogi am resymau ychwanegol ac
- Unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig y dibynnir arni.
11.5 Gall unrhyw barti sydd wedi gwneud hynny gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad.
11.6 Lle bo'r parti sy'n ffeilio'r rhesymau manwl yn bwriadu dibynnu ar ddogfennau nad ydynt wedi eu ffeilio'n barod, rhaid ffeilio bwndel o'r dogfennau hyn, gyda'r tudalennau wedi eu rhifo, yn y Llys pan gofnodir y rhesymau manwl.
11.7 Mae gan y Llys hawl i ymestyn neu gwtogi'r amser ar gyfer cyflwyno tystiolaeth.
Beth fydd yn digwydd pan fydd fy achos yn barod i'w glywed?
12.1 Pan fo'r amser a ganiateir i'r partïon gyflwyno tystiolaeth wedi dod i ben, rhoddir yr achos ar restr wrth gefn a hysbysir pob parti ynglŷn â hyn drwy lythyr.
12.2 Lle bo cyfarwyddyd wedi ei roi ar gyfer prysuro achos, bydd yr achos yn cael blaenoriaeth dros achosion eraill sy'n aros am ddyddiad ac yn cael ei roi ar restr wrth gefn sy'n cael ei phrysuro.
Beth yw'r trefniadau ar gyfer rhestru achos ar gyfer gwrandawiad?
DS – Mae'r trefniadau yr un fath os ydych yn gweithredu'n bersonol neu os oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol.
12.3 Lle bo manylion eiriolwyr wedi eu cofnodi gan y llys, bydd Swyddfa Restru'r Llys Gweinyddol yn cysylltu â'r partïon er mwyn ceisio cytuno ar ddyddiad ar gyfer y gwrandawiad. Cynigir nifer o wahanol ddyddiadau i chi a chlercod yr eiriolwyr a bydd gennych 48 awr i dderbyn un o'r dyddiadau a gynigir. Os na fydd y partïon yn cysylltu â'r Swyddfa Restru cyn pen 48 awr, bydd y Swyddfa Restru'n trefnu i gynnal y gwrandawiad ar un o'r dyddiadau a gynigiwyd heb gysylltu ymhellach a bydd y partïon yn cael eu hysbysu o'r dyddiad hwn drwy lythyr. Lle bo gwrandawiad yn cael ei restru fel hyn ni fydd Swyddfa'r Llys Gweinyddol yn dirymu'r gwrandawiad oni bai fod y ddwy ochr yn cydsynio a bod rheswm da'n cael ei roi dros yr angen i ddirymu'r trefniant. Yn niffyg hynny, rhaid cyflwyno cais ffurfiol am ohiriad i'r Llys (gan hysbysu pob parti).
Beth yw'r rhestr wrth gefn â rhybudd byr?
12.4 Er bod y Llys Gweinyddol fel rheol yn pennu dyddiadau penodol ar gyfer gwrandawiadau, mae angen rhoi rhybudd byr i nifer o achosion hefyd gan fod llawer o achosion yn cael eu setlo tra maent ar y rhestr. Bydd partïon mewn achosion sy'n cael eu dewis ar gyfer rhybudd byr yn cael eu hysbysu bod eu hachos yn debygol o gael ei restru ar ôl dyddiad penodedig, ac y gallent gael eu galw ar y rhestr â llai na diwrnod o rybudd o'r dyddiad hwnnw. Bydd tua 6 achos yn barod am rybudd byr mewn wythnos benodol. Os nad yw'r achos yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod hwnnw, pennir dyddiad cyn gynted ag y bo modd ar ôl y cyfnod hwnnw ar ôl ymgynghori â'r partïon.
12.5 Mae adegau pan fo angen i'r Swyddfa Restru, oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i'w rheolaeth, ddirymu gwrandawiad heb roi nemor ddim rhybudd. Ambell waith gall hyn fod cyn hwyred â 4.30pm y diwrnod cyn y diwrnod y rhestrwyd yr achos ar ei gyfer. Gallai hyn fod o ganlyniad i achos sy'n para am fwy o amser na'r disgwyl, barnwr yn methu â bod yn bresennol, neu resymau eraill. Bydd y Swyddfa Restru yn ceisio aildrefnu'r achos ar gyfer y dyddiad cyfleus nesaf sydd ar gael i'r partïon.
Beth os nad wyf yn gallu bod yn bresennol yn y llys ar ddyddiad y gwrandawiad?
12.6 Mae'n bosib y byddwch, mewn rhai amgylchiadau, yn methu â bod yn bresennol yn y llys ar y dyddiad a bennwyd ar gyfer gwrando'ch cais, h.y. o ganlyniad i salwch neu ddamwain. Os ydych yn annhebygol o allu bod yn bresennol yn y llys ar ddyddiad y gwrandawiad rhaid ichi hysbysu'r Swyddfa Restru ar unwaith yn ysgrifenedig i ofyn am gael gohirio'r gwrandawiad, gan nodi'r rhesymau pam eich bod yn methu â bod yn bresennol yn y Llys. Os mai salwch yw'r rheswm pam eich bod yn methu â bod yn bresennol, dylech ddarparu tystysgrif feddygol. Bydd eich cais am ohiriad yn cael ei ystyried gan Bennaeth Swyddfa'r Llys Gweinyddol. Gofynnir am farn y partïon eraill sy'n gysylltiedig â'r achos ac mae'n ymarfer da hysbysu'r partïon eich bod yn bwriadu gofyn am gael gohirio'r gwrandawiad a gofyn iddynt hysbysu'r llys ynglŷn â'u barn.
Beth yw dadl fframwaith ac a oes angen imi gyflwyno un i'r Llys?
12.7 Dogfen a gyflwynir i'r llys gan barti cyn prif wrandawiad (neu wrandawiad terfynol) unrhyw gais am adolygiad barnwrol yw dadl fframwaith.
12.8 Er nad yw'n ofynnol i rywun sy'n ymgyfreitha drosto'i hun gyflwyno dadl fframwaith nid oes dim yn eich atal rhag gwneud hynny os ydych yn dymuno, ac os ydych yn credu y byddai hynny o gymorth i'r Llys.
12.9 Os ydych yn dymuno cyflwyno dadl fframwaith rhaid ichi ei ffeilio yn y Llys a'i chyflwyno i'r partïon eraill ddim llai na 21 diwrnod gwaith cyn dyddiad gwrandawiad yr adolygiad barnwrol neu ddyddiad wrth gefn, (h.y. lle bo achos wedi ei nodi fel un sy'n debygol o gael ei restru y dyddiad penodedig yw'r dyddiad wrth gefn).
12.10 Rhaid i'r diffynnydd ac unrhyw barti arall sy'n dymuno gwneud sylwadau yng ngwrandawiad yr adolygiad barnwrol ffeilio a chyflwyno dadl fframwaith ddim llai na 14 diwrnod gwaith cyn dyddiad gwrandawiad yr adolygiad barnwrol (neu'r dyddiad wrth gefn).
12.11 Rhaid i'r ddadl fframwaith gynnwys:
- Amcangyfrif o'r amser ar gyfer y gwrandawiad cyfan, gan gynnwys rhoi dyfarniad;
- Rhestr o'r materion;
- Rhestr o'r pwyntiau cyfreithiol sydd i'w hystyried (ynghyd ag unrhyw awdurdodau perthnasol gyda rhifau tudalennau'r darnau y dibynnir arnynt);
- Rhestr o ddigwyddiadau yn nhrefn amser (gyda rhifau'r tudalennau yn y bwndel o ddogfennau);
- Rhestr o ddogfennau hanfodol y dylai'r llys eu darllen ymlaen llaw (gyda rhifau tudalennau'r darnau y dibynnir arnynt) (os yn wahanol i'r hyn a ffeiliwyd gyda'r ffurflen hawlio) ac amcangyfrif o'r amser sydd ei angen i'w darllen; a
- Rhestr o'r bobl y cyfeirir atynt.
Beth yw bwndel treial a phryd ddylwn i ei gyflwyno i'r Llys?
12.12 Rhaid ichi ffeilio bwndel o'r holl ddogfennau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer gwrandawiad yr adolygiad barnwrol, gyda'r tudalennau wedi eu rhifo a'u mynegeio, pa un a ydych yn ffeilio dadl fframwaith ai peidio. Rhaid ffeilio'r bwndel yn y llys a'i gyflwyno i'r partïon eraill ddim llai na 21 diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad.
DS – Mae angen i'r Llys gael dau gopi o'r bwndel os yw'r cais yn cael ei wrando gan Lys Adrannol.
DS – Rhaid i'r bwndel hefyd gynnwys y dogfennau hynny y mae eu hangen ar y diffynnydd ac unrhyw barti arall a fydd yn gwneud sylwadau yn y gwrandawiad.
Adran 13
Beth os oes angen imi wneud cais i'r llys am ragor o orchmynion/cyfarwyddiadau ar ôl i'r caniatâd gael ei roi?
13.1 Lle gofynnir am benderfyniadau neu gyfarwyddiadau rheolaeth achos ar ôl ystyried y cais i fwrw 'mlaen, dylid gwneud y cais drwy gais dan CPR Rhan 23.
Adran 14
A oes modd penderfynu ynglŷn â'm cais heb fod angen gwrandawiad?
14.1 Gall y llys benderfynu ynglŷn â hawliad am adolygiad barnwrol heb wrandawiad lle bo pob parti'n cytuno (CPR Rhan 54.18).
Adran 15
Beth y mae angen imi ei wneud os yw'r achos yn cael ei setlo drwy gydsyniad cyn prif wrandawiad y cais?
15.1 Os byddwch yn dod i gytundeb â'r partïon eraill ynglŷn â thelerau'r gorchymyn terfynol sydd i'w wneud yn eich hawliad, rhaid ichi ffeilio dogfen yn y llys (â 2 gopi) wedi ei harwyddo gan bob parti yn nodi telerau'r gorchymyn cytunedig bwriadedig.
DS – Lle cyflwynir y gorchymyn drafft i'r Llys cyn i'r caniatâd gael ei roi rhaid anfon y ffi angenrheidiol gydag ef (£50.00 ar hyn o bryd).
DS Os ydych yn cytuno â'r partïon eraill bod angen gorchymyn gorfodol ac ati, dylid anfon datganiad byr o'r materion y dibynnir arnynt fel rhai sy'n cyfiawnhau'r gorchymyn cytunedig bwriadedig gyda'r gorchymyn drafft ynghyd â chopïau o unrhyw awdurdodau neu ddarpariaethau statudol y dibynnir arnynt. Os ceir setliad cyn i'r caniatâd gael ei roi, rhaid i'r gorchymyn cydsynio drafft gynnwys darpariaeth ar gyfer rhoi caniatâd.
DS – Nid oes angen datganiad o'r fath fel rheol lle bo'r cytundeb ynglŷn â'r ffordd y mae'r cais i gael ei benderfynu (fel arfer drwy dynnu'r cais yn ôl) yn galw am orchymyn am gostau neu asesiad manwl o gostau Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yr Hawlydd – yn yr amgylchiadau hynny dylai'r partïon ffeilio gorchymyn cydsynio drafft yn nodi telerau'r gorchymyn bwriadedig wedi ei arwyddo gan bob parti.
15.2 Bydd y llys yn ystyried y dogfennau y cyfeiriwyd atynt a bydd yn gwneud y gorchymyn os yw'n fodlon y dylid gwneud y gorchymyn. Os nad yw'r llys yn fodlon y dylid gwneud y gorchymyn, bydd y llys yn rhoi cyfarwyddiadau, a gall roi cyfarwyddyd yn nodi bod angen pennu dyddiad ar gyfer gwrandawiad er mwyn ystyried y mater ymhellach.
Adran 16
Beth os wyf i am ddirwyn yr achos i ben ar unrhyw adeg?
Cyn cyflwyno'r ffurflen hawlio ac ati i'r partïon eraill
16.1 Os nad ydych eto wedi cyflwyno'r ffurflen hawlio wedi ei selio a'r dogfennau cysylltiedig i unrhyw un o'r partïon gallwch ddirwyn yr achos i ben drwy hysbysu'r Llys yn ysgrifenedig eich bod yn bwriadu gwneud hynny. Bydd y Llys yn derbyn llythyr tynnu'n ôl ar yr amod eich bod yn cadarnhau yn ysgrifenedig nad ydych wedi cyflwyno'r ffurflen hawlio ac ati i'r partïon.
Ar ôl cyflwyno'r ffurflen hawlio ac ati i'r partïon eraill
16.2 Ymdrinnir â dirwyn yr hawliad i ben yn CPR Rhan 38. Os byddwch yn dirwyn yr hawliad i ben bydd yn ofynnol ichi dalu'r costau a oedd yn gysylltiedig â'r hawliad hyd at y dyddiad y cafodd ei ddirwyn i ben.
16.3 Mae gennych hawl i ddirwyn hawliad i ben ar unrhyw adeg, ac eithrio lle bo:
- Gwaharddiad interim wedi ei roi neu ymgymeriad wedi ei roi – yn yr amgylchiadau hynny mae angen caniatâd y llys cyn y gellir dirwyn hawliad i ben (enghraifft o hyn fyddai lle caniatawyd mechnïaeth tra disgwylir am benderfyniad ynglŷn â'r cais am adolygiad barnwrol)
- Taliad interim wedi ei wneud gan y diffynnydd – yn yr amgylchiadau hynny mae angen cydsyniad y diffynnydd neu ganiatâd y llys cyn y gellir dirwyn yr achos i ben
- Mwy nag un hawlydd – yn yr amgylchiadau hynny mae angen cydsyniad pob hawlydd arall neu ganiatâd y llys cyn y gellir dirwyn yr achos i ben.
16.4 Os ydych yn dymuno dirwyn yr achos i ben ar unrhyw adeg ar ôl cyflwyno'r achos hwnnw i'r partïon eraill rhaid ichi anfon Hysbysiad Dirwyn i Ben gan ddefnyddio'r ffurflen bwrpasol (N279) i Swyddfa'r Llys Gweinyddol a chyflwyno copi i bob parti arall.
16.5 Gall diffynnydd wneud cais am gael rhoi'r Hysbysiad Dirwyn i Ben o'r neilltu, cyn pen 28 diwrnod ar ôl iddo gael ei gyflwyno iddo (CPR Rhan 38.4).
DS – Os oes ar y partïon angen unrhyw orchymyn arall am gostau, yna mae angen gorchymyn llys yn nodi telerau'r gorchymyn a geisir. Ni fyddai Hysbysiad Dirwyn i Ben yn briodol yn yr amgylchiadau hynny.
Adran 17
A fyddaf yn gyfrifol am gostau'r diffynnydd a/neu'r partïon sydd â budd os bydd fy nghais yn aflwyddiannus?
17.1 Y rheol gyffredinol yw y gorchmynnir y parti sy'n colli hawliad â sylwedd am adolygiad barnwrol i dalu'r costau. Fodd bynnag, mae gan y Barnwr sy'n ystyried y mater hawl i ddelio â mater costau fel sy'n briodol yn ei farn ef yn yr holl amgylchiadau.
DS - Gellir dyfarnu costau mewn perthynas â chais papur aflwyddiannus ac mewn perthynas â chais wedi ei adnewyddu sy'n aflwyddiannus (yn y llys).
DS – Bydd unrhyw gais gan y diffynnydd am gostau yn cael ei wneud fel arfer yn y Cydnabyddiad Cyflwyno.
Adran 18
Beth alla i ei wneud os ydw i'n anfodlon â phenderfyniad y Barnwr?
Materion sifil
Apêl ar ôl gwrthod caniatâd
18.1 Os ydych yn anfodlon â phenderfyniad y Llys mewn mater sifil gallwch apelio i Adran Sifil y Llys Apêl â chaniatâd y Llys Apêl (CPR Rhan 52.15) cyn pen 7 diwrnod ar ôl y penderfyniad. Rhaid gwneud cais i'r Llys Apêl cyn pen 7 diwrnod ar ôl i'r Llys Gweinyddol wrthod caniatâd.
Apêl ar ôl prif wrandawiad
18.2 Mewn ceisiadau â sylwedd, gellir gofyn am ganiatâd i apelio gan y Llys Gweinyddol pan fo'n penderfynu ynglŷn â'r hawliad am adolygiad barnwrol. Os na wneir cais am ganiatâd i apelio ar ddiwedd yr achos, rhaid cyflwyno'r cais am ganiatâd i apelio i Adran Sifil y Llys Apêl cyn pen 14 diwrnod (CPR Rhan 52.3 a 52.4).
18.3 Dylid gofyn am arweiniad ynglŷn â'r trefniadau gan y Swyddfa Apeliadau Sifil, Y Llysoedd Barn Brenhinol, Strand, Llundain, WC2A 2LL.
Materion troseddol
Apêl ar ôl gwrthod caniatâd
18.4 Nid oes ffordd arall o wneud iawn yn y llysoedd cartref ar ôl i'r Llys Gweinyddol wrthod caniatâd.
Apêl ar ôl prif wrandawiad
18.5 Mae Deddf Gweinyddu Cyfiawnder 1960 yn nodi:
”(1) Yn amodol ar ddarpariaethau'r adran hon, caniateir apêl i Dŷ'r Arglwyddi, ar gais y diffynnydd neu'r erlynydd yn sgil unrhyw benderfyniad gan yr Uchel Lys mewn achos neu fater troseddol; neu
(2) Ni chaniateir apêl dan yr adran hon ac eithrio â chaniatâd y Llys isod neu Dŷ'r Arglwyddi; ac ni roddir caniatâd o'r fath oni bai fod y llys isod yn tystio bod pwynt cyfreithiol sy'n bwysig i'r cyhoedd yn gysylltiedig â'r penderfyniad a'i bod yn ymddangos i'r llys neu i Dŷ'r Arglwyddi, beth bynnag yw'r achos, bod y pwynt yn un a ddylai gael ei ystyried gan y Tŷ hwnnw."
18.6 Os ydych yn anfodlon â phenderfyniad y Llys mewn hawliad â sylwedd am adolygiad barnwrol mewn mater troseddol, gallwch apelio i Dŷ'r Arglwyddi ond dim ond â chaniatâd y Llys Gweinyddol neu Dŷ'r Arglwyddi ac ni roddir caniatâd o'r fath oni bai:
(a) Bod y Llys Gweinyddol yn tystio bod pwynt cyfreithiol sy'n bwysig i'r cyhoedd yn gysylltiedig â'r penderfyniad; a
(b) Ei bod yn ymddangos i'r Llys Gweinyddol neu i Dŷ'r Arglwyddi bod y pwynt yn un a ddylai gael ei ystyried gan Dŷ'r Arglwyddi.
Adran 19
Lle gallaf i gael cyngor ynglŷn â materion trefniadol?
19.1 Os nad ydych yn siŵr ynglŷn ag unrhyw fater trefniadol gallwch gysylltu â Swyddfa'r Llys Gweinyddol, rhif ffôn: 020 7947 6205. Ni all staff y llys roi cyngor cyfreithiol.
Lynne Knapman
Pennaeth Swyddfa'r Llys Gweinyddol
Swyddfa'r Llys Gweinyddol
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain WC2A 2LL
