Prosiect Possession Claim Online (PCOL) YN DOD YN WASANAETH CENEDLAETHOL BYW
Bwriad y Prosiect Possession Claim Online (PCOL) yw darparu cymhwysiad ar y we i reoli hawliadau mewn llysoedd sirol ar gyfer meddiannu eiddo preswyl am beidio â thalu rhent neu forgais yn unig.
Profi
Ers 24 Gorffennaf 2006 mae'r gwasanaeth PCOL wedi dod yn weithredol mewn saith llys profi yn ardal De Cymru sef Llysoedd Sirol Aberdâr, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Castell-nedd a Phort Talbot, Pontypridd ac Abertawe.
Defnydd Cenedlaethol
Bydd PCOL yn dechrau cael Defnydd Cenedlaethol ym mhob Llys sifil yng Nghymru a Lloegr o 30 Hydref 2006 ymlaen. Bydd hawlwyr sy'n cofrestru gyda'r gwasanaeth PCOL yn gallu cychwyn a rheoli hawliadau ar-lein drwy'r llysoedd sifil a bydd Diffynyddion hefyd yn gallu ateb a gweld beth sy'n digwydd gyda'u hawliad ar-lein.
Gellir gwneud hawliadau ac ymateb i'r llys yn electronig trwy ddefnyddio gwasanaeth rhyngrwyd PCOL http://www.possessionclaim.gov.uk/pcol/welsh_language.do cliciwch o ddolen i ddechrau eich hawliad 'nawr.
