English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Datrys Anghydfod Trwy Ddulliau Amgen

Cyfryngu


Cyngor Cyfryngu Sifil | Cyngor Cyfryngu Cenedlaethol

Beth yw Cyfryngu?

Mae cyfryngu yn broses sydd bellach wedi ennill ei phlwyf ac sy'n ymdrechu i ddatrys anghytundebau lle mae trydydd parti diduedd (y cyfryngwr) yn helpu pobl sydd mewn anghydfod i ddod o hyd i ateb sy'n dderbyniol i'r ddwy ochr.

Mae cyfryngu'n seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

Mae strwythur ac agwedd synnwyr-cyffredin cyfryngu yn:

Yn aml mae cyfryngu'n fwy cost-effeithiol ac yn gynt i'r defnyddiwr na mynd i'r llys, ac mae'n broses hyblyg y gellir ei defnyddio i ddatrys anghydfodau mewn sefyllfaoedd o bob math. Mae hefyd yn arf ataliol ardderchog a gellir ei ddefnyddio'n effeithiol i atal problemau rhag gwaethygu. Ar gyfer yr achosion hynny sydd wedi dod i'r llys, oni cheir cytundeb, bydd proses y llys yn cael ei hailddechrau. Bydd hyn yn parhau wedyn tan y bydd barnwr yn gwneud gorchymyn llys ar ddyddiad y gwrandawiad terfynol.

^Brig

Pryd mae Cyfryngu'n gweithio?

Un o gryfderau cyfryngu yw bod pobl yn cael cyfle i ddod at ei gilydd i ddatrys eu problemau mewn ffordd llai gwrthwynebus. Mae'n gweithio orau pan fo'r rhai mewn anghydfod:

Pryd nad yw Cyfryngu'n gweithio gystal?

At ei gilydd, nid yw Cyfryngu'n gweithio gystal:

^Brig

Sut mae Cyfryngu'n gweithio?

Cyfryngu am gyfnod penodol – y broses

Lleoliad: Bydd gan leoliad y broses gyfryngu un ystafell lle gall pawb gyfarfod ac ystafell ar wahân i bob parti a'r rheini i'w defnyddio fel eu hystafell hwy eu hunain.  Ar gyfer cynlluniau dan arweiniad y llysoedd, darperir y rhain fel arfer yn rhad ac am ddim yn adeiladau GLlEM; gallant fod mewn llysoedd sirol, llysoedd y goron a llysoedd ynadon. Fel arfer bydd y cyfryngwr yn croesawu'r partïon ac yn eu hebrwng i'w hystafelloedd a sicrhau bod unrhyw gwestiynau'n cael eu hateb cyn i'r broses gyfryngu gychwyn. Mae'n bwysig fod y partïon yn teimlo'n gyfforddus ac yn gartrefol a bod lluniaeth ysgafn ar gael.

Cyfarfod Agored: Gan amlaf mae'r cyfryngu'n dechrau gyda chyfarfod agored lle bydd pawb yn cyfarfod yn yr un ystafell. Bydd y cyfryngwr yn gofyn i bawb gytuno i rai rheolau sylfaenol, megis gwrando heb dorri ar draws a pheidio â gwneud sylwadau sarhaus. Wedyn, bydd pob person yn cael cyfle i siarad am y broblem fel y mae'n effeithio arno ef neu hi. Bydd y cyfryngwr yn ceisio sicrhau bod pawb yn deall yr hyn y mae bob person wedi'i ddweud a rhoi cyfle iddynt ymateb.  Bydd wedyn yn ceisio helpu'r ddau barti i nodi'r materion y mae angen cael eu datrys ac yn ceisio'u cael i ddeall pam fod y lleill yn teimlo'n gryf am eu hachos.

Sesiynau Ar wahân: Ar amser priodol, bydd y cyfryngwr yn dod â'r sesiwn ar y cyd i ben ac yn anfon y partïon i'w hystafelloedd eu hunain. Bydd y cyfryngwr wedyn yn cynnal cyfarfodydd preifat gan symud rhwng y partïon a chasglu gwybodaeth yn gyfrinachol. Yn y ffordd hon, mae'r cyfryngwr yn cael darlun unigryw o'r anghydfod, ac o anghenion bob parti, ac felly gall helpu'r partïon i symud tuag at ddatrysiad. Mae'r cyfryngwr yn ceisio ennyn ymddiriedaeth bob parti drwy eu sicrhau na fydd unrhyw beth a ddatgelir yn gyfrinachol yn cael ei ddatgelu i unrhyw barti arall, gan greu amgylchedd diogel ar gyfer archwilio a datrys problemau.

Y Casgliad Terfynol: Mae'r cyfryngwr yn sicrhau bod pawb yn gwybod beth sy'n digwydd ac yn sicrhau bod eu hymroddiad i'r broses gyfryngu'n parhau, hyd yn oed pan fo'r cyfryngwr yn treulio cyfnodau hir gyda'r parti arall.  Ni ddylid colli golwg byth ar y nod cyffredinol o roi'r cyfle gorau posibl i'r partïon ddod i gytundeb, ac mae'r cyfryngwr yn rheoli'r broses i sicrhau bod y partïon yn canolbwyntio ar y canlyniad hwn. Os bydd y partïon yn gallu dod i gytundeb, bydd dogfen yn cael ei llunio gan y partïon a'i llofnodi gan y ddau.  Fel arall, bydd popeth a ddywedwyd yn y cyfarfod yn aros yn gyfrinachol.

Hysbysu'r Llys: Rhaid i'r partïon hysbysu'r llys drwy lythyr a yw'r anghydfod wedi'i setlo neu beidio. Bydd y llys yn cofnodi setliadau a dod â'r achos i ben. Oni cheir setliad, bydd y mater yn cael ei gyfeirio at farnwr a fydd yn rhoi cyfarwyddiadau ar gyfer treial.

^Brig

Pwy yw'r Cyfryngwyr?

Daw cyfryngwyr o wahanol gefndiroedd. Maent yn brofiadol yn y gwaith o helpu pobl i setlo'u hanghydfodau. Gall unrhyw un alw ei hun yn gyfryngwr. Ond mae'r rhan fwyaf wedi'u hachredu gan o leiaf un o'r prif ddarparwyr gwasanaethau cyfryngu sydd hefyd yn cynnig hyfforddiant. Cyfrifoldeb darparwr y gwasanaeth cyfryngu fydd sicrhau bod cyfryngwyr unigol wedi'u hyfforddi, eu hyswirio, eu goruchwylio, eu dyrannu a'u cefnogi'n briodol er mwyn cael achrediad gan y Cyngor Cyfryngu Sifil. Mae'r rhan fwyaf o gyfryngwyr yn credu ei bod yn bwysig cael lefel uchel o arbenigedd a gwybodaeth i fod yn effeithiol fel cyfryngwr.

Beth yw'r Cyngor Cyfryngu Sifil?

Sefydlwyd y Cyngor Cyfryngu Sifil (http://www.civilmediation.org/) yn Ebrill 2003 i gynrychioli buddiannau cyffredin darparwyr gwasanaethau cyfryngu a chyfryngwyr wrth hyrwyddo'r broses gyfryngu a mathau tebyg o ddulliau datrys anghydfod.

^Brig

Beth yw'r Llinell Gyfryngu Genedlaethol?

Ar y cyd â'r Llinell Gyfryngu Sifil, sefydlodd GLlEM linell gymorth dros y ffôn (http://www.nationalmediationhelpline.com/), sy'n darparu gwybodaeth a chyngor am gyfryngu i ddefnyddwyr y llysoedd sifil yng Nghymru a Lloegr. Os gofynnir iddynt, gall y Llinell Gymorth gysylltu pobl â darparwr gwasanaeth cyfryngu sydd wedi'i achredu gan y Cyngor Cyfryngu Sifil sy'n gallu cynnig gwasanaeth cyfryngu'n rhad.

Hysbysebir y cynllun drwy daflenni'n bennaf, a ddosberthir gan y llysoedd sirol i bartïon yn y cam Dyrannu, a thrwy bosteri sydd wedi cael eu gosod mewn mannau cyhoeddus yn y llysoedd.

Mae nifer o lysoedd sifil bellach yn defnyddio'r Llinell Gymorth fel eu hoff ddull o ddarparu gwasanaethau cyfryngu rhad i'w cwsmeriaid.

Gellir cael gafael ar y Llinell Gymorth drwy ffonio 0845 603 0809 (pris galwad lleol) rhwng 8.30am a 6.00pm. Bydd staff y Llinell Gymorth yn rhoi gwybodaeth i'r partïon am fanteision posibl cyfryngu a byddant yn mynd â'r partïon drwy'r broses gyfryngu. Nid yw'r Llinell Gymorth yn darparu cyngor ar achosion neu gyfryngwyr unigol. Os yw'r alwad yn gais am gyfryngwr, bydd cynghorydd y Llinell Gymorth yn gofyn cyfres o gwestiynau ac yn trosglwyddo'r ymholiad i ddarparwr gwasanaeth cyfryngu sydd wedi'i achredu gan y Cyngor Achredu Sifil.

Yna, bydd darparwr y gwasanaeth cyfryngu'n cysylltu â'r partïon i drafod pa mor addas yw'r anghydfod ar gyfer y drefn gyfryngu. Os bydd pob parti'n cytuno i fwrw ymlaen, penodir cyfryngwr a threfnu dyddiad ac amser ar gyfer y cyfryngu.

Ffioedd Cyfryngu a godir gan Linell Gymorth Genedlaethol Cyfryngu.

Swm yr anghydfod

Ffioedd 

Amser a ganiateir

Amser ychwanegol

£5,000 neu lai Hawliad Bychain*  £50 + TAW £100 + TAW 1 awr
2 awr
£50 + TAW yr awr
£5,001 i £15,000 Trac Cyflym £250 + TAW 3 awr £84 + TAW yr awr
£15,001 i £50,000 Aml Drac £375 + TAW 4 awr £93.50 + TAW yr awr


* Dylai'r cyfryngwr/darparwr cyfryngu gytuno ymlaen llaw a ddylid delio â'r Hawliad Bychain o fewn awr ynteu ddwyawr. Ar gyfer y gyfradd awr, mae'r dewis ar gael i geisio setlo dros y ffôn os yw hynny'n briodol, ac os yw'r partïon yn cytuno.

Os yw'r hawliad am swm sy'n fwy na £50,000 bydd angen cytuno ar y ffioedd gyda'r corff sy'n darparu'r gwasanaeth cyfryngu.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 17 January 2007 09:09. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .