Canolfan Cynhyrchu Hawliadau (CCH)
Mae'r Ganolfan Cynhyrchu Hawliadau (CCH) a Swmp Ganolfan y Llysoedd Sirol (SGLlS) ill dwy yn Northampton. Sefydlodd Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yr unedau hyn yn benodol er mwyn delio â gwaith casglu dyledion syml nas amddiffynnir gan amlaf. Drwy weithio mewn partneriaeth â llysoedd lleol, mae'r CCH a SGLlS yn tynnu'r gwaith hwn sy'n waith gweinyddol a gweithdrefnol yn bennaf, o'r llysoedd lleol gan ryddhau amser staff y llysoedd ar gyfer meysydd gwaith eraill. Maent hefyd yn rhoi gwasanaeth cynt ac wedi'i warantu i ddefnyddwyr. Ceir hefyd disgownt ar ffioedd safonol y llys sirol. Nid oes angen cyflwyno isafswm penodol o waith i gymhwyso i fod yn ddefnyddiwr CCH neu SGLlS. Nid oes ffi ar gyfer defnyddio CCH na SGLlS, ac eithrio ffioedd y llys (gyda disgownt).
Mae'r CCH yn galluogi defnyddwyr i ffeilio ceisiadau ar gyfer hawliadau Rhan 7 am symiau penodol ar ffurf gyfrifiadurol y gellir ei darllen, (sef, ar hyn o bryd, tâp hanner modfedd, cetrisen chwarter modfedd, disg hyblyg 3½-modfedd neu'n electronig drwy fodem) yn enw llys neu lysoedd o'u dewis. Ar yr amod bod y CCH yn derbyn y data cyn 10am, cychwynnir yr hawliadau heddiw ac, ar y gwaethaf, cânt eu postio i'r diffynnydd cyn pen 48 awr. Ar hyn o bryd ceir disgownt o £10 ar ffi cychwyn safonol y llys. Pan gaiff y ddyled ei setlo cyn iddi gael ei phrosesu, ceir canslo'r hawliad.
Caiff defnyddwyr y CCH gyfle i ddefnyddio SGLlS sy'n symleiddio'r drefn ymhellach. Yn gyntaf oll, caiff hawliadau eu cychwyn drwy'r CCH yn enw Llys Sirol Northampton. Pan gaiff amddiffyniad dilys ei ffeilio, bydd SGLlS yn cyflwyno copi i'r hawlydd sydd wedyn â 28 diwrnod i ystyried ei safle. Dim ond pan fydd yr hawlydd yn cadarnhau ei fod yn dymuno bwrw ymlaen â'r hawliad yr anfonir yr Holiadur Dyrannu (a, phan fo'n briodol, gais am y ffi o £80). Mae'r arfer hwn wedi arwain at ddatrys 50% o amddiffyniadau'n anffurfiol. Cofiwch, os bydd yr hawlydd am fwrw ymlaen ac mai unigolyn yw'r diffynnydd, trosglwyddir yr hawliad i lys sirol lleol y diffynnydd. Os mai busnes yw'r diffynnydd, trosglwyddir yr hawliad i lys lleol twrnai'r hawlydd neu, pan na chynrychiolir yr hawlydd, i lys lleol yr hawlydd.
Bydd defnyddwyr SGLlS yn gofyn am eu dyfarniadau a'u gwarantau ar ffurf gyfrifiadurol y gellir ei darllen. Yn yr un modd â'r CCH, caiff defnyddwyr lefelau gwasanaeth wedi'u gwarantu - prosesir ceisiadau am ddyfarniadau heddiw (a rhoddir dyddiad heddiw arnynt) a chânt eu hargraffu a'u postio i'r diffynnydd cyn pen 48 awr. Mae SGLlS yn cynnig gorchymyn dyfarniad personol sydd hefyd yn cynnwys taleb, petai defnyddwyr yn dymuno. Prosesir ceisiadau am warantau'n awtomatig ar yr un diwrnod ac anfonir y manylion yn electronig i lys lleol y diffynnydd dros nos. Yn ogystal ag arbed £5 ar bob gwarant a gychwynnir, nid oes ffi ar gyfer ail-gychwyn gwarant ar gyfer gwarantau SGLlS. Pan fydd yr hawlydd yn dymuno gorfodi drwy'r Uchel Lys, bydd SGLlS yn delio â'r cais cyn pen 2 ddiwrnod ar y mwyaf - mae'r cyfnod hwn yn berthnasol i'r holl ohebiaeth.
Cefnogir y CCH a SGLlS gan Gyfarwyddyd Ymarfer 7C Rheolau Trefniadaeth Sifil.
