Ffilmio yn y Llysoedd
Mae gan Wasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi bron i fil o lysoedd yn cynnwys yr Uchel Lys a Llysoedd y Goron, Llysoedd Ynadon, Llysoedd Sirol a llysoedd crwner ar draws Cymru a Lloegr. Mae bron i bob un o'r llysoedd hyn ar gael fel lleoliadau ar gyfer ffilmio masnachol y tu allan i'w horiau gweithredol arferol.
Mae ein portffolio eiddo yn cynnwys pob math o ystafell ac adeilad llys, yn dyddio'n ôl cyn belled â'r 14eg ganrif, felly, beth bynnag yw'r brîff, gall rheolwyr lleoliadau fel arfer ddod o hyd i rywle sy'n addas.
Gallwn drefnu ymweliadau archwilio â lleoliadau posibl ar fyr rybudd ac mae staff yr Uned Ffilmio bob amser ar gael i ateb unrhyw gwestiynau ac i wneud yn siŵr fod popeth wedi'i drefnu ac yn rhedeg yn llyfn ar y diwrnod.
Mae ein horiel (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg) luniau yn rhoi syniad ichi o rai o'r mathau o adeilad sydd ar gael ac er nad yw'r oriel yn dangos ond rhai lleoliadau yn Llundain, y Gogledd Ddwyrain a'r De Ddwyrain, byddwn yn ei ehangu yn y misoedd i ddod i gynnwys llawer mwy o lysoedd ar draws Cymru a Lloegr.
I gael gwybod mwy cofiwch gysylltu â i drwy e-bost neu drwy ffonio 020 7189 2192 i siarad gyda rhywun yn y tîm. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Clive Martin
Pennaeth Marchnata
Gweinyddiaeth Cyfiawnder
