Ffeilio Electronig
Mae'r canllawiau canlynol yn amlinellu'r drefn ar gyfer proses ffeilio yn Adran Sifil y Llys Apêl drwy ebost yn unol â pharagraff 15.1.A(2) y Cyfarwyddyd Ymarfer i Ran 52 Rheolau Trefniadaeth Sifil.
Lle bo'r mater dan sylw'n destun brys, dylai'r sawl sy'n ceisio ffeilio wneud hynny cyn gynted ag y bo modd yn ystod y dydd a dylai ffonio Cofrestrfa'r Swyddfa Apeliadau Sifil i roi gwybod iddynt. Y rhif ffôn yw 020 7947 6409.
Nid yw derbyn y dogfennau hyn yn golygu o reidrwydd (a) fod y Llys yn derbyn awdurdodaeth na (b) bod y dogfennau o reidrwydd yn cydymffurfio â gofynion y Llys.
Cewch wybod am unrhyw ddiffygion a welir, ond eich cyfrifoldeb chi o hyd, ac nid cyfrifoldeb y Swyddfa Apeliadau Sifil, fydd sicrhau bod unrhyw ddogfennau a gaiff eu ffeilio mewn trefn ac yn cydymffurfio â'r terfynau amser sydd wedi'u rhagnodi.
Canllawiau
Canllawiau ar gyfer ffeilio Rhybuddion Apelwyr, Rhybuddion Atebwyr a Rhybuddion Cyflwyno Cais drwy ebost
- Dyma'r canllawiau y cyfeirir atynt ym mharagraff 15.1A(2) y Cyfarwyddyd Ymarfer i Ran 52 Rheolau Trefniadaeth Sifil.
- Nid yw'r gwasanaeth hwn ond ar gael i barti sydd wedi'i gynrychioli gan gwmni cyfreithwyr.
- Gall parti sydd eisiau ffeilio Rhybudd Apelydd, Rhybudd Atebydd neu Rybudd Cyflwyno Cais (gyda'i gilydd, “Rhybudd”) drwy ebost wneud hynny (yn amodol ar y cyfyngiadau a geir yn y canllawiau hyn) drwy ebostio'r dogfennau i gofrestrfa'r Swyddfa Apeliadau Sifil, gan ddefnyddio'r cyfeiriad hwn:
civilappeals.registry@hmcourts-service.gsi.gov.uk.
Edrychir ddwy waith y dydd ym mlwch derbyn y cyfeiriad hwn. Bydd negeseuon ebost a ddaw i mewn cyn 10:00am yn cael sylw pan fydd cofrestrfa'r Swyddfa Apeliadau Sifil yn agor am fusnes y diwrnod hwnnw. Bydd negeseuon a ddaw i mewn ar ôl 4:30pm yn gorfod aros tan y diwrnod gwaith nesaf am sylw.
-
Pan gaiff Rhybudd ei ffeilio drwy ebost, rhaid i'r ebost gynnwys:
(a) enw'r anfonwr, ynghyd â chadarnhad fod yr anfonwr wedi'i awdurdodi i roi ymgymeriadau ar ran y cwmni cyfreithwyr dan sylw; a
(b) ymgymeriad gan y cwmni cyfreithwyr sy'n cynrychioli'r parti i dalu'r tâl gofynnol cyn gynted ag y bo'n ymarferol, a beth bynnag o fewn 7 diwrnod i ddyddiad anfon yr ebost.
Os na chydymffurfir â'r ymgymeriad, gall y cais gael ei wrthod yn awtomatig. Gall y Llys gyfarwyddo hefyd y dylid adrodd am dor-ymgymeriad i Gymdeithas y Gyfraith. -
Ni chaiff Rhybudd fydd wedi'i ffeilio drwy ebost ei dderbyn:
(a) os na chydymffurfir â'r gofynion a amlinellir ym mharagraffau 2 i 4 uchod;
(b) os bydd unrhyw atodiad mewn fformat gwahanol i Microsoft Word neu Adobe Acrobat (.pdf); neu
(c) os bydd y ddogfen yn fwy nag 20 tudalen o ran hyd, 2 megabeit o ran maint ffeil, neu os yw'n cynnwys deunydd lliw. -
Caiff Rhybudd fydd wedi'i ffeilio drwy ebost:
(a) ei dderbyn fel un a ffeiliwyd ar y dyddiad derbyn os caiff ei dderbyn erbyn 4:30pm;
(b) ei drin fel un a ffeiliwyd ar y diwrnod gwaith nesaf os caiff ei dderbyn wedi 4:30pm. -
Ni roddir blaenoriaeth i ohebiaeth ebost dros ddeunydd a dderbynnir drwy'r post neu ffacs.
