Llys Apêl Mewnfudo a Lloches - Llyfr y Fainc
Mae Llyfr y Fainc y Llys Apêl Lloches (“Llyfr y Fainc”) yn cael ei baratoi a'i gyhoeddi at ddefnydd barnwyr y Llys Apêl ac fe gaiff ei ddiweddaru deirgwaith y flwyddyn (fel arfer ym mis Ionawr, adeg y Pasg ac ym mis Hydref). Ei bwrpas yw dwyn ynghyd yn yr un un lle y rhan fwyaf o'r darpariaethau statudol, rheolau'r weithdrefn ac egwyddorion cyfraith achosion cyfoes y deuir ar eu traws amlaf wrth ymarfer cyfraith lloches o ddydd i ddydd.
Cred y Llys Apêl y gallai cyhoeddi Llyfr y Fainc i gynulleidfa ehangach fod o ddefnydd i bobl sy'n ymarfer yn y Llys mewn achosion lloches a mewnfudo, neu sydd â diddordeb yn y gangen hon o'r gyfraith am reswm arall.
Diweddarwyd Llyfr y Fainc ddiwethaf ym mis Medi 2007.
Drwy glicio ar un o'r dolenni i Lyfr y Fainc isod, byddwch yn cydnabod ac yn cytuno i'r canlynol:
- Darperir Llyfr y Fainc fel gwasanaeth cyhoeddus am ddim a dim ond ar gyfer y meysydd hynny o'r gyfraith sydd fwyaf perthnasol i'r Llys Apêl y'i bwriedir. Yn hynny o beth, nid yw na'r Weinyddiaeth Cyfiawnder, Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi, y Llys Apêl, y Swyddfa Apeliadau Sifil na'r awdur (“Darparwyr” unigol ac ar y cyd) yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw gamgymeriadau yn Llyfr y Fainc nac am unrhyw beth a hepgorwyd ohono. Ni roddir unrhyw sicrwydd, ymrwymiad na gwarant ychwaith ynghylch cywirdeb, cyflawnder na chyfoesedd y wybodaeth a ddarperir yn Llyfr y Fainc.
- Ni ddylid dibynnu ar Lyfr y Fainc yn lle cyngor cyfreithiol. Dylech gadarnhau'r wybodaeth mewn ffynhonnell arall os yw'n ddigon pwysig i chi wneud hynny.
- Nid yw'r Darparwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb y dolenni Hyperdestun sy'n ymddangos drwy Lyfr y Fainc. Nid yw'r Darparwyr yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol.
- Ni ddylid dyfynnu Llyfr y Fainc yn y llys fel awdurdod (boed hyn er mwyn dwyn perswâd neu fel arall) yng nghyswllt unrhyw bwynt o gyfraith a gynigir.
- Mae Llyfr y Fainc yn dod o dan hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod y caiff ei gopïo'n gywir ac nad yw'n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Os caiff ei ailgyhoeddi neu ei gopïo i safleoedd eraill, rhaid nodi ffynhonnell y deunydd a chydnabod statws yr hawlfraint.
Mewnfudo a Lloches - Llyfr y Fainc - Medi 2007 PDF 1.66Mb (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Atodiadau 1-5 PDF 976Kb (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Ffurflen - Mynd ar drywydd apêl ar ôl rhoi caniatâd dros dro
