Calendr Rhestru ar gyfer Apeliadau Sifil
Calendr Rhestru
Mae'r Calendr Rhestru'n gadael i ddefnyddwyr chwilio am wybodaeth am geisiadau neu apeliadau yn Adran Sifil y Llys Apêl y pennwyd dyddiadau ar eu cyfer. Mae'n bosib chwilio am achos mewn un o'r tair ffordd hyn:
- Yn ôl Rhif yr Achos – rhaid i rif yr achos fod yn 8 digid o hyd a rhaid ei roi yn y fformat canlynol, heb unrhyw fwlch na slaes: 20051234;
- Yn ôl Teitl - Gellir rhoi'r teitl drwy ddefnyddio enwau'r naill barti neu'r llall. Er enghraifft, yn achos Smith & Co v. Jones, gellir chwilio naill ai am "Smith" neu "Jones"; ac
- Yn ôl Dyddiad – Gellir rhoi dyddiad gwrandawiad yn y fformat a ganlyn DD-MM-BB, neu cliciwch ar eicon y calendr a dewis dyddiad o'r calendr sy'n ymddangos.
I gadarnhau pa farnwyr fydd yn gwrando eich achos, amser a lleoliad y gwrandawiad, edrychwch ar y Rhestr Ddyddiol (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)o 14.30 ymlaen ar y diwrnod gwaith cyn y gwrandewir eich achos, neu ffoniwch y Swyddfa Restru.
Rhoddir y wybodaeth gyda'r bwriadau gorau er hwylustod defnyddwyr y llys a phobl eraill. Er ein bod yn ceisio sicrhau bod y wybodaeth yn gywir, gall dyddiadau rhestru a chyfansoddiad achosion newid.
Calendr Rhestru (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
