Cynorthwywyr Barnwrol
Cynllun cynorthwywyr barnwrol
Dim ond wrth gyfyngu partïon i'w cyflwyniadau ysgrifenedig a mynnu bod yn rhoi'r holl ddeunyddiau gerbron y llys mewn da bryd cyn gwrandawiad y gellir paratoi achosion yn effeithiol ymlaen llaw. Oherwydd bod Saeson yn credu mai'r ddadl lafar ddylai gael y flaenoriaeth ac nad ydynt am weld yr un ddadl yn cael ei hepgor, ni ellir cyflawni hyn - nac yn y llys hwn nac mewn unrhyw lys arall yn Lloegr. Rhaid i'r cynorthwywyr barnwrol addasu eu gwaith i weddu'r amodau penodol hynny a ddilynir yn y llys. Mae'r amodau hynny'n wahanol i'r rheiny sydd ar waith mewn unrhyw lys arall sy'n delio gydag apeliadau'r gyfraith gyffredin, ac mae'n golygu bod gwaith y cynorthwywyr yn sylweddol wahanol i waith clercod y gyfraith mewn awdurdodaethau eraill. Wedi dweud hynny, mae'r cynorthwywyr yn rhoi cymorth amhrisiadwy i aelodau'r llys drwy egluro materion ymlaen llaw; datrys siâp a natur yr apêl mewn achosion sydd heb eu cyflwyno cystal; ac ymgymryd ag eitemau ymchwil penodol. Cost flynyddol y cynllun ar hyn o bryd yw £202,000, sy'n swm rhesymol ag ystyried cost gyffredinol y llys a'i wasanaethau ategol, ac mae'r llys o'r farn ei fod ef ei hun a'r sawl sy'n defnyddio'i wasanaethau'n cael gwerth da iawn am eu harian.
Mae'r gyllideb yn darparu ar gyfer deg cynorthwyydd ar y tro. Yn anffodus, dim ond am un cyfnod y bydd y rhan fwyaf yn gallu gwasanaethu, gan mai cyfreithwyr ifanc uchelgeisiol ydynt ar gychwyn eu gyrfa a dim ond am gyfnod byr y gellir eu rhyddhau o'r yrfa honno. Rhaid bod yn ofalus iawn wrth recriwtio. Mae'n swydd sy'n gosod tipyn o her, gan fod rhaid i gynorthwywyr ymwneud ar yr un lefel â'r Arglwydd Ustusiaid ac addasu ar unwaith i'r llys a'i weithdrefnau a'i arferion. Rydym wedi bod yn ffodus o lenwi ein llefydd i gyd fwy neu lai gyda phobl o'r iawn ryw, ond mae'n dal i fod yn siomedig bod y bar yn gyndyn o gymryd rhan yn y cynllun. Ar wahân i fod o fudd i'r llys, mae gan gyfnod fel cynorthwyydd barnwrol gymaint i'w gynnig i'r ymgeisydd, a byddai'n cynnig cymaint hefyd i'w siambrau, o ran dyfnder dealltwriaeth o'r gyfraith a'r broses apelio. Byddai o fudd mawr i'r system gyfreithiol drwyddi draw petai mwy o fargyfreithwyr yn cael elwa ar y profiad hwnnw.
Arglwydd Ustus Buxton
Erthyglau gan gyn Gynorthwywyr Barnwrol
Braenaru'r tir yn Llundain (232.807Kb) (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Erthygl gan gyn Gynorthwy-ydd Barnwrol sydd bellach yn gyfreithiwr yn y Swyddfa Apeliadau Sifil, ynghylch ei brofiad fel cyfreithiwr o'r Unol Daleithiau'n gweithio yn y Swyddfa.
Apêl Cynorthwywyr (21.284Kb) (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Erthygl gan Greg Fullelove
Profiad Amhrisiadwy (17.725Kb) (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Erthygl gan Tajinder Malhi
