English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Achosion Arweiniol Adolygiadau Blynyddol Meistr y Rholiau Calendr Rhestru Canllawiau ar gyfer ffeilio Rhybuddion Apelwyr, Rhybuddion Atebwyr a Rhybuddion Cyflwyno Cais drwy ebost Cwestiynau ac Atebion Cyfarwyddiadau Ymarfer Cyfryngu Cyhoeddiadau Cymorth Cyfreithiol, Ymarferol a Phersonol Cynadledda Fideo Cynorthwywyr Barnwrol Cyswllt Adran Sifil y Llys Apêl Dyddiadau Gwrando Erbyn Dyfarniadau Diweddaraf Geirfa Llwybrau Apelio Mewnfudo a Lloches - Llyfr y Fainc Mynychu'r Llys Rhestrau Dyddiol Y Llys Apêl - Barnwyr ac Uwch staff Y Swyddfa Apeliadau Sifil

Adnoddau pellach

Cyfiawnder Sifil yng Nghymru a Lloegr Rheolau'r Drefn Sifil - Yn gyflawn Rheolau'r Drefn Sifil Rhan 52 Sefydliad Gwybodaeth Gyfreithiol Prydain ac Iwerddon

Cwestiynau ac Atebion


Caniatâd i Apelio | Ffeilio Cais/Apêl | Ffioedd | Terfynau Amser | Llwybrau apelio/traciau | Rheolau yn ymwneud ag Apeliadau | Costau | Y Llys Apêl | Y Swyddfa Apeliadau Sifil | Cyfryngu | Cwestiynau Eraill

Caniatâd i Apelio

Oes angen caniatâd i apelio arnaf cyn gwneud apêl i'r Llys Apêl?

Ym mhob achos sifil a theulu, mae angen caniatâd i apelio ac eithrio mewn apeliadau yn erbyn:

Bydd angen ichi ofyn i'r Llys Apêl am ganiatâd i apelio:

Nid oes angen caniatâd i apelio mewn achosion teulu mewn apeliadau at Farnwyr Uchel Lys a Barnwyr Cylchdaith.

Pryd bydd caniatâd i apelio yn cael ei roi?

Dim ond os oes tebygrwydd/gobaith gwirioneddol o lwyddiant neu os oes rhyw reswm grymus arall pam y dylai'r apêl gael ei chlywed y bydd caniatâd i apelio yn cael ei roi ichi.

Ffeilio Cais/Apêl

Pa ddogfennau y mae'n rhaid imi eu cyflwyno gyda'm Hysbysiad Apelydd?

Bydd angen o leiaf dri chopi yn union yr un fath o'ch Hysbysiad Apelydd arnoch. Gellir cael y rhestr lawn o ddogfennau y mae gofyn eu darparu yn yr adran Ffurflenni a Chanllawiau. Gallwch hefyd gysylltu â Swyddfa'r Gofrestrfa Apeliadau Sifil.

Sut gallaf fi gwblhau fy Hysbysiad Apelydd?

Mae cyfarwyddiadau ar sut mae llenwi eich Hysbysiad Apelydd ar gael ar y wefan hon yn yr adran Ffurflenni a Chanllawiau.

^Brig

Beth yw dadl fframwaith?

Mae dadl fframwaith yn cynnwys y prif bwyntiau yr ydych am eu dadlau. Mae'n galluogi'r llys i ddeall eich achos cyn y gwrandawiad.

Atebydd i apêl ydw i. Oes rhaid i mi ffeilio dadl fframwaith?

Os ydych yn cael eich cynrychioli, dylech gofnodi dadl fframwaith os ydych am gyfeirio dadleuon at y Llys.

Atebydd ydw i. Fe hoffwn i ffeilio Hysbysiad Atebydd.

Rhaid ichi gofnodi Hysbysiad Atebydd os ydych am ofyn i'r llys apêl gadarnhau gorchymyn y llys is am resymau gwahanol i, neu ychwanegol at, y rhesymau a roddwyd gan y llys yr ydych am apelio yn erbyn ei benderfyniad. Codir ffi o £200 am gofnodi Hysbysiad Atebydd. Mae rhestr ffioedd lawn i'w gweld ar y wefan hon yn yr adran Ffurflenni a Chanllawiau (Ffioedd (Ffurflen 200)) (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg).

Beth yw gobeithion o wneud cais am ganiatâd i apelio?

Yn y flwyddyn yn gorffen 31 Awst 2002/2003, clywodd y Llys Apêl 2431 o geisiadau am ganiatâd i apelio a chafodd 1298 o apeliadau eu ffeilio. Yn y flwyddyn yn gorffen 31 Awst 2003/2004, clywodd y Llys Apêl 2454 o geisiadau am ganiatâd i apelio a chafodd 1203 o apeliadau eu ffeilio.

Ffioedd

Faint mae'n ei gostio i wneud apêl?

Bydd rhaid ichi dalu ffi os ydych yn gwneud cais am ganiatâd i apelio neu'n gwneud apêl lawn. Y ffi yw £200 am gais am ganiatâd i apelio a £400 am apêl lawn. Yn ychwanegol at y ffioedd, efallai y byddwch yn wynebu costau eraill megis ffioedd twrneiod/bargyfreithwyr. Bydd angen ichi ystyried yn ofalus a ydych am apelio gan y gallai fod rhaid ichi dalu costau'r parti arall os na fyddwch yn llwyddiannus.

Mae rhestr lawn o'r ffioedd i'w gweld ar y wefan hon yn yr adran Ffurflenni a Chanllawiau (Ffioedd (Ffurflen 200)) (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg).

^Brig

Sut gallaf fi dalu fy ffioedd?

Os ydych yn talu drwy'r post, ni ddylech anfon arian parod. Gallwch dalu drwy archeb bost neu siec bersonol yn daladwy i "Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (GLlEM) ".
Os dewch i'r Llysoedd Barn Brenhinol yn bersonol, mae modd derbyn siec bersonol os oes gennych gerdyn gwarantu sieciau cyfredol sy'n gwarantu'r swm sy'n ofynnol i dalu'r ffi. Dylai pob siec gael ei gwneud yn daladwy i "Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (GLlEM) a chael ei chroesi.

Ble medraf fi dalu fy ffioedd?

Gallwch gofnodi eich Hysbysiad Apelydd a thalu'r ffi yn Swyddfa'r Gofrestrfa yn y Llysoedd Barn Brenhinol. Mae map yn dangos sut mae cyrraedd y swyddfa hon i'w weld ar y wefan hon o dan y Mapiau Mynediad.

Oes rhaid imi dalu ffioedd?

Nid yw pawb yn gorfod talu ffioedd llys. Mae rhai pobl yn cael eu hesemptio rhag talu ffioedd llys. Gelwir hyn yn “esemptio ffi”. Bydd eraill yn talu ffi is efallai. Bydd hyn yn digwydd pan fydd y llys yn penderfynu y byddent yn wynebu caledi ariannol pe bai'n rhaid iddynt dalu ffi. Gelwir hyn yn “ddileu ffi”.

Pryd gallaf fi wneud cais am ddileu ffi neu am esemtio ffi?

Nid yw pawb yn gymwys i gael esemptio ffi neu ddileu ffi. Bydd angen ichi fodloni rhai gofynion i wneud cais am esemptio ffi e.e. rhaid i chi neu eich cymar fod yn cael cymhorthdal incwm. Ni chaniateir ichi fod yn cael eich ariannu'n gyhoeddus na derbyn “cymorth cyfreithiol”. Mae'r amodau cymhwyso llawn ar gyfer esemptio a dileu ffioedd wedi ei rhestru mewn taflen sy'n dwyn y teitl Ffioedd Llys-Oes rhaid i chi eu talu? sydd ar gael o swyddfa'r Gofrestrfa Apeliadau Sifil. Bydd angen ichi wneud cais am esemptio/dileu ffioedd cyn cofnodi eich apêl.

Dim ond am hyn a hyn o amser y mae tystysgrifau esemptio/dileu ffioedd yn ddilys.

Sut ydw i'n gwneud cais am esemptio ffi neu ddileu ffi?

Rhaid ichi lenwi Ffurflen EX160 sydd i'w chael mewn taflen yn dwyn y teitl Ffioedd Llys-Oes rhaid i mi eu talu? sydd ar gael o swyddfa'r Gofrestrfa Apeliadau Sifil. Rhaid ichi lenwi ffurflen ar wahân am bob ffi yr hoffech iddi gael ei hesemptio neu ei dileu.

Faint o amser mae'n ei gymryd i brosesu ffurflen esemptio/dileu?

Fel arfer bydd y llys yn delio â Ffurflen EX160 o fewn 5 diwrnod gwaith. Rhaid iddo wneud hynny cyn prosesu unrhyw rai o'r papurau yn yr achos llys. O dan rai amgylchiadau, gallai'r llys ddelio â chais am esemptio/dileu ar frys.

Rydw i wedi talu fy ffi. Allaf fi gael ad-daliad?

Gallwch, o dan rai amgylchiadau. I ganfod a ydych yn gymwys i gael ad-daliad, rhaid ichi lenwi Ffurflen EX160 sydd i'w chael mewn taflen yn dwyn y teitl Ffioedd Llys-Oes rhaid i mi eu talu? sydd ar gael o swyddfa'r Gofrestrfa Apeliadau Sifil. Rhaid i Ffurflen EX160 ddod i law'r llys o fewn 6 mis, yn dechrau o'r diwrnod y taloch chi'r ffi. Rhaid ichi anfon dogfennau perthnasol i ategu eich cais.

^Brig

Terfynau Amser

Beth yw'r terfyn amser ar gyfer ffeilio/dwyn cais/apêl?

Mae gwahanol derfynau amser i wahanol apeliadau. Yn gyffredinol, mae gan apelydd 14 diwrnod i ffeilio apêl. Mae'r terfynau amser yn dibynnu ar y math o orchymyn yr ydych am apelio yn ei erbyn. Yn gyffredinol, mae'r rhain yn amrywio rhwng 7 diwrnod a 6 wythnos o ddyddiad y penderfyniad yr ydych am apelio yn ei erbyn. Gall y barnwr yr ydych am apelio yn erbyn ei benderfyniad ganiatáu cyfnod hirach. Mae gan y Llys Apêl y pŵer i ganiatáu estyniad amser ar gyfer ffeilio Hysbysiad Apelydd.

Hoffwn ddwyn apêl ond rwyf y tu hwnt i'r terfynau amser.

Mae'n dal yn bosibl ichi gofnodi Hysbysiad Apelydd (gweler y cyfarwyddiadau ar sut mae llenwi eich Hysbysiad Apelydd ar y wefan hon yn yr adran Ffurflenni a Chanllawiau (Sut mae Cwblhau Hysbysiad Apelydd). Rhaid ichi cwblhau adran 10 o'r Hysbysiad Apelydd i gynnwys cais am estyniad amser. Bydd angen ichi egluro'r rhesymau dros yr oedi cyn ichi ffeilio eich hysbysiad.

Llwybrau apelio/traciau

Ble dylwn i apelio?

Mae eich llwybr apelio yn dibynnu ar rai ffactorau megis:

Gweler Llwybrau Apelio i gael rhagor o wybodaeth

Beth yw trac sifil?

Mae achosion sifil yn yr Uchel Lys a'r llysoedd sirol yn cael eu dyrannu i drac. Gallai'r trac bennu i ba lys y dylech apelio. Gall apêl o lys sirol gael ei gwneud i'r Uchel Lys neu'r Llys Apêl.

^Brig

Pam mae'r trac yn bwysig?

Bydd angen ichi bennu yn adran 5 o'r Hysbysiad Apelydd i ba drac y cafodd eich hawliad ei ddyrannu. Os cafodd y mater ei ddyrannu i drac mewn llys sirol, bydd gofyn i'r Swyddfa Apeliadau Sifil gael copi o'r gorchymyn a ddyrannodd eich achos i drac. Gellir cael rhagor o fanylion o'n taflen Llwybrau Apelio sydd ar gael ar y wefan hon yn yr adran Ffurflenni a Chanllawiau.

Beth os nad ydw i'n gwybod y trac?

Os nad ydych yn gwybod i ba drac y cafodd eich hawliad ei ddyrannu, gall swyddfa'r llys lle gwnaed y gorchymyn eich helpu. Os ydych yn apelio o dribiwnlys, ni fydd y tribiwnlys wedi dyrannu eich achos i drac.

Beth yw'r trac hawliadau bychain?

Y trac hawliadau bychain yw'r trac i unrhyw hawliadau am anafiadau personol lle nad yw gwerth ariannol yr hawliad yn fwy na £ 5000 ac nad yw gwerth ariannol yr hawliad am iawndal yn fwy na £ 1000. Mae'n cynnwys unrhyw hawliad gan denant mewn eiddo preswyl sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r landlord wneud gwaith atgyweirio, lle'r amcangyfrifir nad yw cost y gwaith hwnnw yn fwy na £ 1000. Mae hefyd yn cynnwys unrhyw hawliad arall sydd â gwerth o ddim mwy na £ 5000.

Beth yw'r trac cyflym?

Y trac cyflym yw'r trac arferol i unrhyw hawliad nad yw wedi ei ddyrannu i'r trac hawliadau bychain. Mae'n cynnwys achosion lle:

Beth yw'r amldrac?

Yr amldrac yw'r trac i hawliadau nad ydynt yn hawliadau bychain ac nad ydynt ychwaith wedi cael eu dyrannu i'r trac cyflym.

^Brig

Rheolau yn ymwneud ag Apeliadau

Ble medraf fi weld y rheolau sy'n ymdrin ag apeliadau i'r Llys Apêl?

Mae'r Rheolau sy'n llywodraethu apeliadau i'r Llys Apêl i'w gweld yn Adran 52 o'r Rheolau Trefn Sifil a'r Cyfarwyddyd Ymarfer sy'n ategu Rhan 52 o'r Rheolau Trefn Sifil.

Beth yw Cyfarwyddyd Ymarfer?

Mae Cyfarwyddyd Ymarfer yn darparu canllawiau ychwanegol fel atodiad at reolau'r drefn.

Sawl gwaith y caf fi apelio?

Yn gyffredinol, dim ond unwaith y cewch chi apelio yn erbyn penderfyniad llys is. Dim ond o dan amgylchiadau cyfyngedig iawn y caniateir ail apêl. Gydag apêl gyntaf rhaid fod tebygrwydd/gobaith gwirioneddol o lwyddiant neu rhaid fod rheswm grymus pam y dylai'r apêl gael ei chlywed. Dim ond os yw eich apêl yn codi pwynt pwysig o egwyddor neu ymarfer y caniateir ichi ddod ag ail apêl neu os oes rhyw reswm grymus arall pam y dylai ail apêl gael ei chlywed.

Pwy sy'n penderfynu a ydw i'n cael caniatâd i apelio?

Unwaith y bydd eich dogfennau wedi cael eu cyflwyno'n briodol i'r Swyddfa Apeliadau Sifil, bydd barnwr yn y Llys Apêl (Arglwydd/Arglwyddes Ustus) yn penderfynu a ddylech gael caniatâd i apelio.

Nid oes gennyf gyfreithiwr i'm cynrychioli. Ble gallaf fi ddod o hyd i un?

Nid yw Staff y Swyddfa Apeliadau Sifil yn cynnig cyngor cyfreithiol. Gall swyddfa Cyngor Ar Bopeth (CAB) sydd wedi ei lleoli ym mhrif neuadd y Llysoedd Barn Brenhinol eich helpu gyda'ch achos cyhyd â'ch bod yn bodloni rhai gofynion. Ni fyddant yn gallu eich helpu os ydych yn cael cymorth cyfreithiol. Gall CAB gynnig cyngor cyfreithiol, eich helpu i baratoi bwndeli a llenwi ffurflenni. Os hoffech gael cymorth cyfreithiol gan CAB, mae'n well ichi ddod i'r swyddfa yn bersonol os ydych yn byw yn Llundain Fwyaf neu anfon eich ymholiad yn ysgrifenedig os ydych yn byw y tu allan i Lundain.

^Brig

A allaf apelio yn erbyn penderfyniad gan y Llys Apêl?

Dim ond o dan amgylchiadau cyfyngedig iawn. Mae apeliadau o'r Llys Apêl yn mynd i Dŷ'r Arglwyddi sef y Llys Apêl uchaf i achosion sifil yng Nghymru a Lloegr. Dim ond rhyw 85 o apeliadau'r flwyddyn y mae'n eu gwrando. Rhaid cael caniatâd i apelio gan y Llys y Apêl neu, yn fwy arferol, gan Dŷ'r Arglwyddi ei hun.

Os collaf yn y Llys Apêl, a allaf apelio at Lys Hawliau Dynol Ewrop?

I wneud cais i Lys Hawliau Dynol Ewrop, rhaid ichi fod wedi ymgeisio drwy bob rhwymedi gwladwriaethol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid ichi fod wedi defnyddio pob trefn sydd ar gael ichi yn eich gwlad eich hun i geisio amddiffyn eich hawliau neu i geisio cyfiawnder mewn cysylltiad â thrais yn erbyn eich hawliau yn y gorffennol. Mewn achosion lle mai'r Llys Apêl yw'r llys olaf i benderfynu ar yr achos, gellir gwneud cais i Lys Hawliau Dynol Ewrop.

Ymgyfreithiwr drosof fy hun ydw i. Fyddaf fi'n gallu cael fy mwndel yn ôl pan fydd fy apêl wedi gorffen?

Unwaith y bydd eich apêl i'r Llys Apêl wedi gorffen, bydd eich bwndel yn cael ei anfon yn ôl ichi. Os ydych am ddod i'r llys i gasglu eich bwndel, mae angen ichi gysylltu â swyddfa'r Cymdeithaswyr i roi gwybod iddynt. Byddant yn anfon llythyr atoch yn gofyn ichi ddod i swyddfa'r Gofrestrfa o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad yr anfonwyd y llythyr atoch. Os na ewch chi i'r swyddfa, bydd eich bwndeli yn cael ei dinistrio gan nad oes digon o le storio gan y Swyddfa Apeliadau Sifil iddi allu storio bwndeli.

Twrnai ydw i. Fyddaf fi'n gallu cael fy mwndel yn ôl?

Mae angen ichi ddod i swyddfa'r Gofrestrfa o fewn 21 diwrnod i ddyddiad y gwrandawiad i hawlio eich bwndel. Os na ewch chi i'r swyddfa o fewn y terfyn amser hwn, bydd eich bwndel yn cael ei ddinistrio gan nad oes digon o le storio gan y Swyddfa Apeliadau Sifil iddi allu storio bwndeli.

^Brig

Costau

Ble medraf fi weld y rheolau manwl am gostau?

Mae'r rheolau am gostau i'w gweld yn Rhannau 43-48 Rheolau'r Drefn Sifil.

Beth yw'r rheolau ynglŷn â chostau?

Mae gan y llys ddisgresiwn i orchymyn y dylai costau gael eu talu gan un parti i barti arall. Yn ôl y Rheolau Trefn Sifil, os yw'r llys yn penderfynu gwneud unrhyw orchymyn, y rheol gyffredinol yw y bydd y parti aflwyddiannus yn talu costau'r parti llwyddiannus. Dylech fod yn ymwybodol, o dan rai amgylchiadau cyfyngedig, y gellir gwrthod ei gostau i barti llwyddiannus, er enghraifft os yw, yn afresymol, yn gwrthod cyfryngu fel dewis amgenach na chyfreitha.

Gall gorchymyn am gostau a wnaed gan lys is gael ei herio ar apêl.

Y Llys Apêl

Beth yw'r Llys Apêl?

Y Llys Apêl yw'r prif lys apêl yng Nghymru a Lloegr. Yn ymarferol, dyma'r llys olaf y gellir troi ato yn aml. Mae Adran Sifil y Llys Apêl yn gwrando ar apeliadau o'r llysoedd Sirol, yr Uchel Lys a rhai tribiwnlysoedd. Ar hyn o bryd mae gan y Llys Apêl 41 o Farnwyr: y 4 Pennaeth Adran a'r 37 barnwr a elwir yn Arglwydd/Arglwyddes Ustusiaid (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg).

Beth yw amser targed y llysoedd ar gyfer delio ag apeliadau? Pa mor hir yw dyddiadau 'gwrando erbyn' apeliadau?

Mae'r dyddiadau 'gwrando erbyn' (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg) i wahanol ddosbarthiadau o apêl i'w gweld ar y wefan hon o dan Dyddiadau Gwrando Erbyn. Mae'r dyddiadau 'gwrando erbyn' i wahanol ddosbarthiadau o apêl wedi gostwng yn sylweddol er 1999 gan adlewyrchu'r cynnydd sylweddol a wnaed gan y Llys yn gwella'r gwasanaeth y mae'n ei gynnig i ymgyfreithwyr. Erbyn hyn tua 10 mis yw'r dyddiad 'gwrando erbyn' hiraf ac mae'r rhan fwyaf gryn lawer yn llai.

Bydd y Llys yn ymdrechu i sicrhau bod apeliadau'n cael eu gwrando yn gyffredinol o fewn eu ffenestri rhestru. Mae llawer o'r ffenestri hyn wedi cael eu hehangu erbyn hyn.

^Brig

Oes modd ymdrin ag achos yn gyflymach?

Penderfynir ar geisiadau am wrandawiad cyflymach gan un Arglwydd/Arglwyddes Ustus neu'r Meistr yn unol â'r egwyddorion a nodwyd yn Unilever PLC v Chefaro Proprietaries Ltd (Nodyn Ymarfer) [1995] 1 WLR 243.

Oes modd pennu achos y tu hwnt i'r dyddiad 'gwrando erbyn'?

Penderfynir ar geisiadau am ganiatâd i ddyddiad gwrandawiad gael ei bennu y tu hwnt i ddyddiad 'gwrando erbyn' gan un Arglwydd/Arglwyddes Ustus, ond dim ond am y rhesymau mwyaf grymus y byddant yn cael eu caniatáu.

Pwy fydd yn gwrando ar fy apêl?

Fel arfer ymdrinnir â chais am ganiatâd i apelio gan un Barnwr (sydd hefyd yn cael ei alw'n Arglwydd/Arglwyddes Ustus). Caiff apêl lawn ei gwrando gan lys sydd fel arfer yn cynnwys tri Arglwydd/Arglwyddes Ustus.

Pryd y gallaf ddisgwyl i ddyfarniad gael ei roi yn fy achos?

Mae llawer o ddyfarniadau yn cael eu rhoi yn y llys agored ar ddiwrnod y gwrandawiad. Fodd bynnag, mewn nifer o achosion, mae'r dyfarniad yn cael ei "ohirio". Ystyr hyn yw na fydd y Barnwyr yn rhoi eu penderfyniad ar ddiwrnod y gwrandawiad. Bydd angen amser arnynt i bwyso a mesur y cyflwyniadau a wnaed yn y llys. Mae hyn yn digwydd fel arfer mewn apeliadau cymhleth a hir.

Beth yw trawsgript?

Mae trawsgript o ddyfarniad yn rhoi'r rhesymau pam y gwnaeth y llys ei orchymyn.

^Brig

O ble y gallaf fi gael trawsgript o'm hapêl?

Os hoffech chi gael trawsgrif o ddyfarniad, cyhoeddir nifer o ddyfarniadau apeliadau ar wefan BAILII. Neu, gallwch gysylltu â thrawsgrifwyr swyddogol y llys, WordWave International, ar 020 7404 1400 neu 190 Fleet Street, Llundain, EC4A 2AG. Codir ffi am y gwasanaeth hwn.

Ble gallaf fi ddod o hyd i'r penderfyniadau pwysig a wnaed yn ystod y flwyddyn?

Mae pob un o'n dyfarniadau lle penderfynir ar apeliadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Bailii. Mae crynodeb o'r dyfarniadau pwysig a wnaed yn ystod y flwyddyn gyfreithiol i'w weld hefyd yn Adolygiad Blynyddol Adran Sifil y Llys Apêl ac yn yr adran Achosion Arweiniol. Fe welwch adolygiadau blynyddol yn dyddio'n ôl i 1997 hefyd.

Rydw i'n fyddar ac mae angen imi fynd i'r llys. Oes modd gwneud trefniadau ar fy nghyfer?

Mae cyfarpar dolenni sain parhaol wedi cael ei osod yn un o'n llysoedd. Os ydych am i'r Llys wneud trefniadau arbennig ar eich cyfer, dylech gysylltu â'r swyddfa Restru.

Ni allaf fod yn bresennol yn fy ngwrandawiad yn y Llys Apêl. Beth ddylwn i ei wneud?

Erbyn hyn mae technoleg cyswllt fideo symudol ar gael mewn ystafelloedd llys. Rhaid cael caniatâd y Llysoedd i wrando ar achos drwy fideo-gynadledda. Dylai partïon gysylltu'n gyntaf â'r Swyddfa Restru. Edrychwch ar y wybodaeth Fideo-gynadledda a Chynadledda dros y Ffôn o dan Adran Sifil y Llys Apêl.

Rydw i am fod yn bresennol mewn gwrandawiad llys ar ddiwrnod penodol. Ble gallaf fi weld pa achosion fydd yn cael eu gwrando ar y diwrnod hwnnw?

Mae'r gwrandawiadau am y diwrnod i'w gweld yn y Rhestr Achosion Ddyddiol, sydd ar gael yn Neuadd Fawr y Llysoedd ac i'w gweld ar y wefan hon o dan Rhestr Ddyddiol (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg).

^Brig

Y Swyddfa Apeliadau Sifil

Ni allaf ddod i'r Swyddfa Apeliadau Sifil i gasglu'r ffurflenni. Sut medraf fi eu cael?

Mae rhai o'r ffurflenni i'w gweld ar y wefan hon o dan Ffurflenni a Chanllawiau ac mae modd eu llawrlwytho i lawr o'r fan honno. Neu, dylech gysylltu â swyddfa'r Gofrestrfa.

Sut gallaf fi gysylltu â'r Swyddfa Apeliadau Sifil?

Mae manylion cyswllt llawn y Swyddfa Apeliadau Sifil i'w gweld ar y wefan hon o dan Cysylltu â Ni.

A gaf fi wneud llungopïau yn y Swyddfa Apeliadau Sifil?

Nid yw'r staff yn y Swyddfa Apeliadau Sifil yn darparu gwasanaeth llungopïo. Mae cyfleusterau llungopïo ar gael yn yr Adran Reprograffeg yn Ystafell C22, y Bloc Canol, y Llysoedd Barn Brenhinol. Rhaid talu'r ffi o 20c yr ochr yn y Swyddfa Ffioedd (Ystafell E.01, Bloc y Dwyrain) cyn y cewch chi wneud copïau.

A all y swyddfa fy helpu i wneud fy apêl?

Ni all y staff Apeliadau Sifil roi cyngor cyfreithiol ichi. Ni allant eich helpu i baratoi eich achos, trefnu eich bwndeli na'ch cynrychioli gerbron y llys. Gallwch gael cymorth cyfreithiol gan swyddfa Cyngor Ar Bopeth y Llysoedd Barn Brenhinol neu asiantaethau cyfreithiol eraill fel eich CAB leol/canolfannau lleol. Mae canllawiau defnyddiol yn ymwneud â'ch apêl a ffurflenni wedi eu cynnwys ar y wefan hon o dan Ffurflenni a Chanllawiau.

Cyfryngu

(Gweler hefyd y wybodaeth o dan Cyfryngu) (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg).

Beth yw cyfryngu?

Trefn yw cyfryngu sy'n galluogi'r partïon, drwy gonsensws, i ddatrys eu gwahaniaethau gerbron trydydd parti annibynnol, niwtral a diduedd a hynny'n aml am gost is a thrwy broses gyflymach nag a geir yn y llys. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar y Linell Gymorth Genedlaethol ar Gyfryngu a gwefannau CEDR Solve. Mae'r Cyngor Cyfryngu Sifil yn cynnig cyngor i bawb sydd â diddordeb proffesiynol mewn cyfryngu. Os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â Jonathan Dingle (Ysgrifennydd y Cyngor) ar 0845 0833000, neu dros yr e-bost ar wig@clara.net.

^Brig

Pwy sy'n cael bod yn gyfryngwr Llys Apêl?

Rhaid i gyfryngwr fodloni'r amodau canlynol. Rhaid iddo ef/iddi hi fod:

Rhaid iddo ef/iddi hi fod â digon o brofiad addas hefyd o gyfryngu ymarferol fel cyfryngwr.

Ble gallaf fi ddod o hyd i gyfryngwr?

Mae gan y Llys Apêl gynllun Datrys Anghydfod drwy Ddull Amgen sy'n cael ei redeg gan CEDR Solve. CEDR, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel y Ganolfan er Datrys Anghydfod yn Effeithiol, sy'n gyfrifol am enwebu cyfryngwyr oddi ar y panel cyfryngu i fynd i'r Llys. Mae hefyd yn paratoi cytundeb cyfryngu ym mhob achos ac mae'n cysylltu â'r partïon ynghylch cyfnewid gwybodaeth a dyddiadau. Y Llys sy'n gyfrifol am gyfansoddiad y panel o gyfryngwyr ac am addasu'r ffioedd.

Pa mor hir yw cyfryngu?

Mae llawer yn dibynnu ar barodrwydd y partïon i gyfaddawdu a pha mor gymhleth yw'r achos. Fodd bynnag, derbynnir yn gyffredinol fod canoli yn broses fyrrach na chyfreitha.

Faint mae yn ei gostio?

Y ffi benodedig i bob parti ym mhob mater, ond materion teulu, yw £ 850 ynghyd â TAW, sy'n rhoi cyfanswm o £ 998.75. Bydd pob parti yn ysgwyddo ei gostau cyfryngu ei hun oni chytunir fel arall gan y partïon. Mae cyllid ar gael drwy'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol i bartïon sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus.

Bydd ffioedd cyfryngu mewn achosion teulu yn cael eu negodi rhwng y cyfryngwr a'r partïon. Mewn achosion priodol, bydd y Llys yn penodi cyfryngwr sy'n barod i gynnig gwasanaethau am bris is neu ar sail pro bono.

Gall partïon wneud cais am hepgor ffioedd yn uniongyrchol i'r llys neu drwy CEDR Solve, a fydd yn trosglwyddo'r cais i'r Swyddfa Apeliadau Sifil. Bydd y Llys (nid CEDR Solve) yn dod i'w benderfyniadau ar sail amgylchiadau unigol yr achos.

^Brig

A all y llys orchymyn cyfryngu?

Yn gyffredinol, rhaid i'r ddau barti gytuno i gyfryngu cyn setlo tu allan i'r Llys. Fodd bynnag, gall Arglwydd/Arglwyddes Ustus, wrth roi caniatâd i apelio, annog y partïon yn gryf i ystyried cyfryngu mewn achosion lle mae ef/hi o'r farn fod hynny'n briodol.

Beth os nad ydw i am gyfryngu?

Gall y Llys gosbi mewn costau unrhyw barti sydd yn afresymol yn gwrthod cyfryngu pan fydd yn cael ei annog i wneud hynny gan y llys.

Cwestiynau Eraill

Nid ydw i'n deall termau cyfreithiol. Ble gallaf fi gael esboniad?

Mae diffiniadau o dermau cyfreithiol ar y wefan hon i'w gweld yn yr Eirfa (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg).

Beth yw hawlydd/diffynnydd?

Hawlydd yw'r person sy'n cychwyn/ddeilio'r hawliad/yn dechrau achos yn y llys is. Roedd ef/hi hefyd yn arfer cael ei alw'n bleintydd.

Diffynnydd yw'r person sy'n cael ei siwio gan yr hawlydd.

Beth yw apelydd/atebydd?

Apelydd yw'r person sy'n gwneud cais/apêl i lys apêl. Gall yr apelydd fod yn un ai'r hawlydd neu'r diffynnydd yn y llys is.

Yr atebydd yw'r person y mae'r Hysbysiad Apelydd yn cael ei gyflwyno iddo.

Cwynion

Gallwch gwyno i Reolwr Llys y Swyddfa Apeliadau Sifil os ydych yn anhapus â'r gwasanaeth yr ydych wedi ei gael gan y Swyddfa Apeliadau Sifil. Dylid cyfeirio cwynion at:

Rheolwr y Llys
Y Swyddfa Apeliadau Sifil (Civil Appeals Office)
Ystafell E307
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Strand,
Llundain WC2A 2LL

Yn eich llythyr dylech:

" Roi eich enw a'ch cyfeiriad
" Rhoi enw a chyfeirnod eich achos
" Dweud am beth yr ydych yn cwyno
" Dweud beth yr hoffech i ni ei wneud i geisio gwneud pethau'n iawn

Bydd eich llythyr yn cael ei gydnabod gan Reolwr y Llys neu swyddog enwebedig a fydd yn ymchwilio i'r gŵyn. O fewn 10 diwrnod byddwch yn cael ateb llawn a fydd yn:

" Nodi eich cwyn er mwyn i chi fod yn siŵr ein bod wedi ei deall
" Disgrifio'r digwyddiadau sy'n berthnasol i'r sefyllfa
" Datgan a yw'r staff wedi gwneud camgymeriad ai peidio, a rhoi rhesymau am y penderfyniad hwn.

Ni all Rheolwr y Llys ystyried cwynion am ymddygiad Barnwyr y Llys. Dylid cyfeirio cwynion felly at:

Y Weinyddiaeth Cyfiawnder
Yr Uned Gohebiaeth Farnwrol (Judicial Correspodence Unit)
2il Lawr
Selborne House
54-60 Victoria Street
Llundain SW1E 6QW

Mae manylion pellach am drefn gwyno Gwasanaeth Llysoedd EM ar gael yma.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 08 May 2007 14:52. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .