English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Achosion Arweiniol Adolygiadau Blynyddol Meistr y Rholiau Calendr Rhestru Canllawiau ar gyfer ffeilio Rhybuddion Apelwyr, Rhybuddion Atebwyr a Rhybuddion Cyflwyno Cais drwy ebost Cwestiynau ac Atebion Cyfarwyddiadau Ymarfer Cyfryngu Cyhoeddiadau Cymorth Cyfreithiol, Ymarferol a Phersonol Cynadledda Fideo Cynorthwywyr Barnwrol Cyswllt Adran Sifil y Llys Apêl Dyddiadau Gwrando Erbyn Dyfarniadau Diweddaraf Geirfa Llwybrau Apelio Mewnfudo a Lloches - Llyfr y Fainc Mynychu'r Llys Rhestrau Dyddiol Y Llys Apêl - Barnwyr ac Uwch staff Y Swyddfa Apeliadau Sifil

Adnoddau pellach

Cyfiawnder Sifil yng Nghymru a Lloegr Rheolau'r Drefn Sifil - Yn gyflawn Rheolau'r Drefn Sifil Rhan 52 Sefydliad Gwybodaeth Gyfreithiol Prydain ac Iwerddon

Fideo-gynadledda yn Adran Sifil y Llys Apêl

Cyfleusterau ar gael i wrando achosion o bell drwy gyswllt fideo


Y System

Mae gan Adran Sifil y Llys Apêl gamerâu a sgriniau symudol y mae modd eu gosod yn y rhan fwyaf o'i hystafelloedd llys. Mae'r rhain yn caniatáu i'r Barnwyr a'r cyfreithwyr weld a siarad â phartïon mewn canolfannau pell. Fel arfer bydd gofyn i ymgyfreithwyr nad ydynt yn cael eu cynrychioli ddefnyddio canolfan bell sydd wedi'i lleoli yn eu Llys lleol, ond efallai y bydd gan dwrneiod eu cyfleusterau fideo-gynadledda eu hunain.

Mae'r cyfarpar yn ystafell y llys yn cael ei reoli gan glerc sy'n symud o gamera i gamera ac yn sicrhau bod pob parti dan sylw yn gallu gweld pwy bynnag sy'n siarad ar unrhyw adeg.

Achosion sy'n Addas ar gyfer Fideo-gynadledda

Y Drefn er mwyn Gwneud Cais am Fideo-gynadledda

Rhaid i'r Llys gael caniatâd i wrando achos drwy fideo-gynadledda. Dylai partïon gysylltu â'r Swyddfa Restru Apeliadau Sifil yn gyntaf. Dylent wneud yn siŵr fod cyfarpar fideo-gynadledda ar gael ar gyfer diwrnod neu ddiwrnodau eu gwrandawiad.

Wedyn dylid gwneud cais ysgrifenedig i'r Swyddfa Restru. Caiff hwn ei gyfeirio at y Barnwr Llywyddol sydd i fod i wrando'r achos, neu at Arglwydd/Arglwyddes Ustus Goruchwylio'r achos os nad oes gwrandawiad wedi cael ei ddyrannu eto.

Os bydd pob parti i'r achos yn cytuno i fideo-gynadledda bydd y cais ysgrifenedig yn ddigonol. Os bydd unrhyw barti yn gwrthwynebu fideo-gynadledda, efallai y bydd yn rhaid cynnal gwrandawiad byr.

^Brig

Y Drefn er mwyn Trefnu Fideo-gynadledda

Unwaith y bydd y Llys wedi cyfarwyddo y dylai achos gael ei wrando drwy fideo-gynadledda, cyfrifoldeb y parti sydd wedi gofyn am fideo-gynadledda yw ei drefnu.

Cyfrifoldeb y parti sy'n trefnu'r cyfleusterau fydd holl gostau'r trawsyrru, yn cynnwys llogi'r cyfarpar a chostau'r rhai sy'n ei weithredu mewn safleoedd pell, yn y lle cyntaf. Dylid gwneud pob ymdrech resymol i gadw'r costau i lawr.

Bydd partïon sy'n defnyddio cyfleusterau yn eu llys lleol hefyd yn gyfrifol yn y lle cyntaf am dalu costau'r trawsyrru, a'r gyfradd a godir fydd £21.60 yr hanner awr.

Bydd pob cost o'r fath yn rhan o gostau'r achos a bydd y Llys yn gorchymyn pa bartïon ddylai eu talu ac ym mha gyfrannau.

Bydd Adran Sifil y Llys Apêl yn eistedd mewn ystafell llys yn y Llysoedd Barn Brenhinol, a dyma fydd y safle lleol at ddibenion fideo-gynadledda. Rhaid i'r parti sy'n gyfrifol am drefnu'r fideo-gynhadledd gysylltu â'r Swyddfa Restru Apeliadau Sifil yn y mannau cyswllt uchod a gwneud trefniadau trawsyrru. Bydd angen y wybodaeth dechnegol ganlynol ar y Swyddfa Restru:

Bydd angen bodloni'r Llys fod y cyfarpar ar y safle pell yn briodol. Rhaid i'r cyfarpar sydd ar gael yn y lleoliad pell gyfateb i chwe llinell ffôn o leiaf.

Rhaid i'r sawl sy'n trefnu'r fideo-gynhadledd sicrhau bod gweithredwr ar gael ar y safle pell drwy gydol y gwrandawiad i ddelio ag agweddau technegol.

Mae dewis fideo-gynhadledd yn golygu nad oes modd cyflwyno na newid dogfennau ar y funud olaf. Cyfrifoldeb y partïon neu eu cynrychiolwyr yw gwneud y cyfryw gyflwyniadau neu newidiadau mewn da bryd cyn y gwrandawiad.

^Brig

Y Drefn yn y Gwrandawiad

Atodiad Technegol

Ar gyfer Fideo-gynadledda mewn Achosion Sifil, cysylltwch os gwelwch yn dda â'r Swyddfa Restru Apeliadau Sifil.

Rhagor o wybodaeth

Arweiniad yw'r wybodaeth hon i bartïon sy'n ystyried defnyddio fideo-gynadledda mewn achos o dan yr Adran Sifil yn y Llys Apêl. Mae manylion llawn y drefn fideo-gynadledda i'w gweld hefyd yn y Cyfarwyddyd Ymarfer at y Rheolau Trefn Sifil Rhan 32.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 08 May 2007 14:52. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .