Adran Sifil y Llys Apêl
Cymorth Cyfreithiol, Ymarferol a Phersonol
Cyngor Ar Bopeth
Elusen gofrestredig yw Cyngor Ar Bopeth (CAB). Mae'n dibynnu ar wirfoddolwyr sy'n rhoi cyngor cyfreithiol annibynnol a chyfrinachol, am ddim, i bobl sydd ag achosion yn y Llys Apêl.
Mae'r swyddfa CAB wedi ei lleoli ym mhrif neuadd y Llysoedd Barn Brenhinol ar y Strand yn Llundain. Mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 10.00am tan 1.00pm ac o 2.00pm tan 5.00pm. Mae'n cynnig llinell gymorth dros y ffôn ar 0845 120 3715, sydd ar gael ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 11.00am a 12.00 hanner dydd.
Cyfeiriad gwefan CAB y Llysoedd Barn Brenhinol yw http://www.rcjadvice.org.uk/
Bydd y cymorth a gewch yn dibynnu ar ffeithiau penodol eich achos ond yn gyffredinol mae'r help a'r cyngor canlynol ar gael:
- Cyngor cyfreithiol mewn amrywiaeth eang o feysydd
- Help i baratoi papurau. Mae hyn yn cynnwys egluro a llenwi ffurflenni megis yr hysbysiad apelydd. Mae hefyd yn golygu paratoi bwndeli o ddogfennau at sylw'r Llys yn unol â'r gofynion cyfreithiol a bennwyd gan y Rheolau Trefn Sifil
- Help i gael y dogfennau angenrheidiol megis trawsgript o ddyfarniad y llys is yr ydych yn apelio yn erbyn ei benderfyniad
- Help i ysgrifennu gohebiaeth. Gall CAB, gyda chaniatâd cleientiaid, ohebu â'r Llys, yr atebydd a chynrychiolwyr yr atebydd ar ran cleient
- Help i gywiro camgymeriadau. Gallai achos gael ei wrthod/ei derfynu os yw'r bwndeli a gofnodir yn ddiffygiol. Fel arfer bydd y Swyddfa Apeliadau Sifil yn pennu dyddiad terfyn a rhaid cywiro diffygion erbyn y dyddiad hwnnw. Gall CAB helpu ymgyfreithiwr i baratoi'r dogfennau angenrheidiol a phriodol
- Lle mae angen help ar wahân i help cyfreithiol, bydd CAB yn cyfeirio at yr Uned Cymorth Personol
- Paratoi bwndeli ychwanegol o ddogfennau
- O dan amgylchiadau priodol, gall CAB gyfeirio achosion at Uned Pro Bono'r Bar
"Mae Uned Pro Bono'r Bar wedi bod yn gweithio'n agos gyda swyddfa CAB y Llysoedd Barn Brenhinol. Rhyngddynt, maent yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i ymgyfreithwyr drostynt eu hunain". Y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Phillips, Meistr y Rholiau.
O dan gynllun y Llys Apeliadau, mae'r Swyddfa Apeliadau Sifil yn hysbysu pob ymgyfreithiwr nad yw'n cael ei gynrychioli, sydd wedi cael caniatâd i apelio, y gall gael cymorth drwy gysylltu â CAB. Nid yw'r cynllun hwn yn ymestyn i'r rhai sy'n ceisio caniatâd i apelio ond, lle bo angen help yn y cyfnod hwn, gall CAB y Llysoedd Barn Brenhinol gynnig cymorth.
Ni all CAB gynrychioli unigolyn gerbron y llys na llofnodi dogfennau ar ran rhywun.
Mae gan CAB wefan ddefnyddiol iawn "Advice Guide" (http://www.adviceguide.org.uk/) sy'n darparu gwybodaeth gyfredol ac ymarferol am amrywiaeth eang o bynciau a hynny mewn nifer o ieithoedd megis Cymraeg, Bengaleg, Pwnjabeg, Gwjarati, Wrdw a Tsieinëeg.
Mae'r Uned Cymorth Personol wedi'i lleoli yn ystafell M 104 o flaen Llys 5 ym mloc canol y Llysoedd Barn Brenhinol yn Llundain. Gallwch ffonio'r uned yn uniongyrchol ar 020 7947 7701/7703. Ei rhif ffacs yw 020 7947 7702. Gallwch gysylltu â hi dros yr e-bost, neu ymweld â'i gwefan: http://www.thepsu.co.uk/.
Mae'r Uned Cymorth Personol yn helpu apelyddion gydag agweddau ymarferol eu hachos, ond nid yw'n darparu cymorth cyfreithiol. Mae'n cynnig arweiniad ymarferol a chefnogaeth emosiynol. Mae'n cynnig y gwasanaethau isod i bob ymgyfreithiwr:
- Gall gynnig rhywle lle mae modd ichi ddisgwyl neu drafod eich achos
- Gall fynd gydag ymgyfreithwyr i swyddfeydd yn yr adeilad
- Gall gyfeirio ymgyfreithwyr at CAB os oes materion cyfreithiol y mae ar yr ymgyfreithiwr angen help mewn cysylltiad â nhw
- Gall fynd ag apelyddion i weld ystafell y llys ymlaen llaw a bydd yn mynd gyda nhw i'w gwrandawiad
- Ar ôl i wrandawiad orffen, gall yr Uned Cymorth Personol fynd gydag apelyddion i gasglu bwndeli yn y llys neu fynd i'r Gofrestrfa Apeliadau Sifil i gasglu papurau.
