Cyfryngu
Ar anogaeth yr Arglwydd Woolf (Meistr y Rholiau ar y pryd), sefydlwyd cynllun Datrys Anghydfod drwy Ddull Amgen ar gyfer y Llys Apêl. Mae cynllun cyfryngu'r Llys Apêl, i waith ar wahân i waith teulu, yn cael ei weinyddu gan CEDR Solve (y Ganolfan er Datrys Anghydfod yn Effeithiol). Nid oes rhaid i'r partïon gymryd rhan yn y cynllun ac maent yn rhydd i ddod â'r cyfryngu i ben drwy hysbysu'r Swyddfa Apeliadau Sifil neu CEDR ar unrhyw adeg heb roi rheswm. CEDR sy'n gyfrifol am enwebu cyfryngwyr, paratoi cytundeb cyfryngu a chysylltu â'r partïon ynglŷn â'r trefniadau cyfryngu. Y Llys sy'n dal i fod yn gyfrifol am gyfansoddiad y Panel ac am unrhyw addasiad i'r ffioedd sy'n daladwy. Mae'r Panel yn cynnwys cyfryngwyr o ystod amrywiol o ddisgyblaethau yn cynnwys Masnachol, Anafiadau Personol, Yswiriant, Llongau, Cyflogaeth, Eiddo Deallusol ac ati. Yn ystod blwyddyn weithredol gyntaf y cynllun o fis Mai 2003, cyrhaeddodd gyfradd setlo drwy ganoli o 68%.
Mae cyfryngu teulu yn cael ei weinyddu a'i fonitro gan y Swyddfa Apeliadau Sifil a fydd yn penodi cyfryngwr addas oddi ar banelau cyfryngu a ddarperir gan Gymdeithas y Gyfraith, Coleg Cyfryngwyr y DU neu Gymdeithas Cyfraith Teulu Twrneiod.
Yn dilyn argymhellion yr Athro Genn yn ei phapur, "Court based initiatives for non family civil disputes", mae gofyn yn benodol i Arglwydd/Arglwyddes Ustus sy'n ystyried cais am ganiatâd i apelio ystyried pa un a yw'r mater yn addas ar gyfer cyfryngu. Os yw, bydd Pennaeth y Swyddfa Apeliadau Sifil, Meistr Gladwell, yn anfon manylion yr achos at CEDR, a fydd yn ysgrifennu'n uniongyrchol at y partïon yn ceisio eu cytundeb i drefnu gwrandawiad cyfryngu. Gall y Llys llawn hefyd gynnig cyfryngu lle mae materion sy'n dal heb eu datrys a phosibilrwydd o cyfreitha pellach.
Mae'r ffi gyfredol ar gyfer cyfryngu dan y cynllun, i dalu am waith gweinyddol CEDR Solve a 4 awr o waith paratoi a hyd at 5 awr o bresenoldeb y cyfryngwr yn £850 a TAW fesul parti, oni bai bod y Llys yn hepgor hynny. Mae cyllid y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol ar gael pan ddaw achosion dan ei gwmpas. Gellir cyfryngu unrhyw le yng Nghymru neu yn Lloegr sy'n gyfleus i'r partïon a chânt eu cwblhau cyn pen 3 mis o'u cyfeirio at CEDR bron bob tro, gan osgoi unrhyw angen i ohirio'r apêl.
