English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Achosion Arweiniol Adolygiadau Blynyddol Meistr y Rholiau Calendr Rhestru Canllawiau ar gyfer ffeilio Rhybuddion Apelwyr, Rhybuddion Atebwyr a Rhybuddion Cyflwyno Cais drwy ebost Cwestiynau ac Atebion Cyfarwyddiadau Ymarfer Cyfryngu Cyhoeddiadau Cymorth Cyfreithiol, Ymarferol a Phersonol Cynadledda Fideo Cynorthwywyr Barnwrol Cyswllt Adran Sifil y Llys Apêl Dyddiadau Gwrando Erbyn Dyfarniadau Diweddaraf Geirfa Llwybrau Apelio Mewnfudo a Lloches - Llyfr y Fainc Mynychu'r Llys Rhestrau Dyddiol Y Llys Apêl - Barnwyr ac Uwch staff Y Swyddfa Apeliadau Sifil

Adnoddau pellach

Cyfiawnder Sifil yng Nghymru a Lloegr Rheolau'r Drefn Sifil - Yn gyflawn Rheolau'r Drefn Sifil Rhan 52 Sefydliad Gwybodaeth Gyfreithiol Prydain ac Iwerddon

Y Swyddfa Apeliadau Sifil


Cofrestrfa | Rheoli Achosion | Rhestru | Cymdeithaswyr | Cysylltu

Y Swyddfa Apeliadau Sifil sy'n gyfrifol am weinyddu Adran Sifil y Llys Apêl.

Tan 1982, roedd apeliadau'n cael eu cyflwyno i Adran berthnasol yr Uchel Lys. Roedd y papurau'n cael eu trosglwyddo i glerc yr aelod o'r Llys Apêl a oedd yn arbenigo yn y maes arbennig hwnnw. Bryd hynny, yr oedd 19 Arglwydd Ustus, union hanner y nifer a geir heddiw. Roedd y system yn anhyblyg ac roedd gwaith sylweddol yn cronni yno.

Ym 1978, comisiynodd yr Arglwydd Denning, Meistr y Rholiau ar y pryd, yr Arglwydd Scarman i gadeirio gweithgor a fyddai'n ystyried sut y gallai gwaith y Llys gael ei wneud mewn ffordd fwy effeithiol.

Argymhelliad sylfaenol yr Arglwydd Scarman oedd penodi uwch gyfreithiwr, â statws Meistr, i fod â rheolaeth farnwrol a gweinyddol dros y broses rhwng gosod i lawr a gwrando. Byddai'r unigolyn hwn yn atebol i Feistr y Rholiau. Yn sgîl hynny, sefydlwyd swyddfa'r Cofrestrydd Apeliadau Sifil gan Ddeddf Goruchaf Lys 1981: roedd yn swydd farnwrol, ond â swyddogaethau gweinyddol. Sefydlwyd y Swyddfa Apeliadau Sifil yr un pryd, gydag 19 aelod o staff ar y pryd.

Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, gwahoddwyd Syr Jeffrey Bowman, unwaith eto yn wyneb nifer gynyddol o geisiadau ac apeliadau, a'r oedi dilynol, gan yr Arglwydd Woolf, Meistr y Rholiau ar y pryd, i gadeirio gweithgor pellach gyda chylch gorchwyl tebyg i un yr Arglwydd Scarman.

Dywedodd Bowman bod diffyg cyfrifoldeb rheoli y Cofrestrydd, fel deilydd swydd farnwrol, dros staff y Swyddfa yn broblem. Roedd ef o'r farn nad oedd y system a sefydlwyd ym 1982 yn briodol mwyach. Yr ateb oedd gwyrdroi'r pwyslais: dylid cael pennaeth gweinyddol yn y Swyddfa a fyddai, pe bai ef neu hi yn gyfreithiwr, yn parhau i gyflawni'r swyddogaethau barnwrol a berfformiwyd gan y Cofrestrydd, ond ei deitl yn awr fyddai 'Meistr yn y Llys Apêl, Adran Sifil.'

Gwnaed y penodiad cyntaf i'r swydd newydd hon ym 1999, a phenodwyd y deilydd presennol yn 2003. Mae gan y Swyddfa yn awr 78 o staff parhaol, sy'n cynnwys 10 cyfreithiwr, a 10 Cynorthwy-ydd Barnwrol pellach, cyfreithwyr sydd newydd gymhwyso sy'n gwasanaethu am un Tymor.

---

Ar gyfer pwy mae'r Swyddfa? Mae'n bodoli, yng ngeiriau Bowman, 'i ysgwyddo cyfrifoldeb ymarferol, dyddiol dros gyflymu achosion', o'r adeg y cyflwynir cais tan yr adeg y penderfynnir ynghylch yr apêl, yr union bwrpas a bennwyd gan yr Arglwydd Scarman bron i 30 o flynyddoedd yn ôl.

Mae'r Swyddfa'n cefnogi'r Llys i wneud y defnydd gorau o'r adnodd barnwrol. I'r perwyl hwnnw -

Mae Rheolau'r Drefniadaeth Sifil, Rhan 52.16 (2), yn darparu y gall y Meistr a'r Dirprwy Feistri ymarfer awdurdodaeth y Llys cyn belled ag y bo'n ymwneud ag -

  1. unrhyw fater sy'n berthnasol i unrhyw achos yn y Llys Apêl;
  2. unrhyw fater arall lle nad oes anghydfod o bwys rhwng y partïon; a
  3. gwrthod apêl neu gais pan fydd parti wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw orchymyn, rheol neu gyfarwyddyd ymarfer.

Yn ymarferol, delir â'r rhan fwyaf o'r busnes hwn ar bapur, er bod y Meistr neu'r Diprwyon yn derbyn 'rhestri gwrthod' wythnosol mewn llys agored. Mae'r Llys yn gallu adolygu'r Gorchmynion hynny.

Rhennir y Swyddfa yn 4 prif adran. Y rhain yw Y Gofrestrfa, Y Timau Rheoli Achosion, Y Swyddfa Restru a'r Cymdeithaswyr.

^Brig

Y Gofrestrfa

Mae'r Gofrestrfa yn anfon pecynnau apêl at ymgyfreithwyr sy'n dymuno ffeilio apêl gerbron Adran Sifil y Llys Apêl.

Mae'r Swyddfa hon yn derbyn achosion newydd ynghyd â bwndeli ychwanegol o ddogfennau wrth y cownter, ac mae'n gwneud yn siwr bod pob dogfen wedi ei ffeilio o fewn y terfyn amser perthnasol. Mae pob achos a dogfen newydd yn cael eu cofnodi ar system gyfrifadurol, a rhoddir un cyfeirnod penodol i'r apelydd/atebydd. Bydd y cyfeirnod a roddir (e.e. A1 2003/1456) yn dilyn yr achos gydol ei gyfnod yn Adran Sifil y Llys Apêl.

Mae'r cownter ar agor i'r cyhoedd rhwng 10.00am a 4.30pm ac mae staff yn ateb ymholiadau ffôn ynghylch llwybrau apêl, cwblhau Hysbysiad Apelydd a pharatoi bwndel o ddogfennau gydol y diwrnod. Noder na dderbynnir ffioedd ar ôl 4.00pm.

Mae'r Gofrestrfa hefyd yn delio â gohebiaeth bersonol gydag ymgyfreithwyr ac ymholiadau ynglyn â chychwyn achosion newydd.

Cysylltu â'r Gofrestrfa

^ Brig

Y Timau Rheoli Achosion

Mae'r Timau Rheoli Achosion yn gwneud yn siwr bod yr holl ddogfennau a gyflwynir yn cydymffurfio â gofynion y Llys a sicrhau bod yr achos yn barod i'w wrando. Maent yn monitro cynnydd achosion a phan fydd angen, maent yn gohebu gyda thwrneiod a phartïon. Maent hefyd yn trefnu bod Clercod Arglwydd/Arglwyddes Ustusiaid yn casglu dogfennau ac maent yn dychwelyd papurau ar ôl gwrandawiad.

Ceir tair adran rheoli achosion, ac fe'u trefnir yn ôl y Llys o ble deillia'r apêl, un yn delio â'r Uchel Lys, un arall â Llysoedd Sirol, gan gynnwys Teulu, a'r trydydd yn delio â'r Llys Gweinyddol.

Cysylltu â Rheoli Achosion

^Brig

Y Swyddfa Restru

Mae'r Swyddfa Restru yn rhestru ceisiadau am ganiatâd i apelio, prif apeliadau ar gyfer gwrandawiad ac mae'n paratoi'r Rhestr Achosion Dyddiol, sef rhestr o achosion a glywir yn Adran Sifil y Llys Apêl bob dydd.

Mae'r swyddfa hon hefyd yn gyfrifol am gyfeirio ceisiadau y delir â hwy ar bapur gan Arglwydd/Arglwyddes Ustusiaid.

Ceir cownter cyhoeddus yno sydd ar agor o 10.00am i 4.30pm ac fe'i defnyddir ar gyfer ymholiadau cyffredinol am restru ac ar gyfer trefnu achosion â Chlercod Cwnsler.

Cysylltu â Rhestru

^Brig

Y Cymdeithaswyr

Mae'r Swyddfa Cymdeithaswyr yn cynnwys Clercod Llys sy'n mynychu gwrandawiadau, galw achosion ymlaen yn y llys a pharatoi Gorchmynion Llys. Mae'r Cymdeithaswyr yn eistedd mewn hyd at 13 llys yn y Llysoedd Barn Brenhinol.

Maent hefyd yn delio ag ymholiadau cyffredinol ar ôl llys.

Cysylltu â Chymdeithaswyr

^ Brig

Manylion cysylltu:

Gellir cyfeirio gohebiaeth i unrhyw adran o fewn y Swyddfa Apeliadau Sifil at:

Swyddfa Apeliadau Sifil
Ystafell E307
Llysoedd Barn Brenhinol
The Strand
Llundain WC2A 2LL

DX 44450 Strand

Sut i gyrraedd yno - map

Neu fel arall, gallwch gysylltu â'r adran benodol:

Y Gofrestrfa gydag ymholiadau am gychwyn achosion newydd

Ffôn: 020 7947 7882/6533
Ffacs: 020 7947 6740

Dylid cyfeirio ymholiadau sy'n ymwneud ag apeliadau a cheisiadau at Feistr y Rholiau dan Ddeddf Cyfreithwyr 1974 a Rheoliadau Meistr y Rholiau (Apeliadau a Cheisiadau) 2001, at:

Clerc Meistr y Rholiau
Swyddfa Breifat Meistr y Rholiau
Ystafell E214
Y Llysoedd Barn Brenhinol
The Strand
WC2A 2LL

Rhaid ffeilio Ceisiadau ac Apeliadau gyda'r Clerc yn y cyfeiriad hwn naill ai yn bersonol, trwy drefniant ymlaen llaw, neu drwy'r post. Ni ellir eu ffeilio trwy'r ffacs neu'r e-bost.

Ceir arweiniad ynghylch ffeilio apêl neu gais trwy'r ebost yn y canllawiau ffeilio electronig ac ebost

E-bost y Gofrestrfa (gweler canllawiau)

Grwp Rheoli Achosion A gydag ymholiadau am gyflwyno papurau llys ar gyfer achosion apêl mewn Uchel Lys a Thribiwnlysoedd Cyflogaeth a chynnydd cyffredinol achosion ar ôl eu cychwyn

Ffôn: 020 7947 6910/6139
Ffacs: 020 7947 6736
E-bost Grwp Rheoli Achosion A (gweler canllawiau)

Grwp Rheoli Achosion B gydag ymholiadau am gyflwyno papurau llys ar gyfer achosion apêl mewn Llys Sirol a Llys Teulu a chynnydd cyffredinol achosion ar ôl eu cychwyn

Ffôn: 020 7947 6184
Ffacs: 020 7947 6810
E-bost Grwp Rheoli Achosion B (gweler canllawiau)

Grwp Rheoli Achosion C gydag ymholiadau am gyflwyno papurau llys ar gyfer achosion apêl mewn Tribiwnlys Mewnfudo, Adolygiad Barnwrol a Chyfraith Gyhoeddus, a chynnydd cyffredinol achosion ar ôl eu cychwyn

Ffôn: 020 7947 7215
Ffacs: 020 7947 7679
E-bost Grwp Rheoli Achosion C (gweler canllawiau)

^ Brig

Y Swyddfa Restru ar gyfer ymholiadau am restru achosion ar gyfer gwrandawiad, ac ymholiadau eraill ynglyn â dyddiadau gwrandawiadau a dylid defnyddio'r un manylion cyswllt ar gyfer ymholiadau am setlo achosion

Ffôn: 020 7947 6195/6917
Ffacs: 020 7947 6621
E-bost y Swyddfa Restru (gweler canllawiau)

Mae Cymdeithaswyr yn ymwneud â'r Cymdeithaswyr neu Glercod Llys a dylid ei ddefnyddio ar gyfer ymholiadau am Orchmynion Llys ac unrhyw fater arall yn dilyn dyfarniad

Ffôn: 020 7947 6284/6646
Ffacs: 020 7947 6751
E-bost Cymdeithaswyr (gweler canllawiau)

Ymholiadau a Sylwadau am y Wefan - dylid anfon unrhyw ymholiadau neu sylwadau am gynnwys y wefan hon, neu awgrymiadau ar gyfer ei gwella i'r dyfodol, at Dîm y Wefan (gweler canllawiau)

^Brig

Canllawiau ynglyn â defnyddio'r E-bost

Mae Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yn gosod terfyn o 2Mb ar atodiadau i negeseuon e-bost, ac nid yw'r Swyddfa Apeliadau Sifil yn gallu derbyn dogfennau sy'n fwy na hyn. Ni wnaiff y Swyddfa Apeliadau Sifil dderbyn cyfrifoldeb dros argraffu dogfennau sy'n fwy nag ugain tudalen neu sy'n cynnwys elfennau lliw. Dylid darparu'r rhain ar ffurf copi caled. Dim ond dogfennau Word neu PDF/Adobe Acrobat a dderbynnir.

Eir trwy'r negeseuon e-bost ddwywaith y dydd, am 9.30am ac am 2.00pm. At ddibenion glynu wrth amserlenni a bennir gan reolau gweithdrefn, delir â negeseuon e-bost a dderbynnir ar ôl 4.30pm fel rhai a dderbyniwyd y diwrnod gwaith canlynol.

Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995

Llysoedd Barn Brenhinol - Cyfleusterau a Gwasanaethau (PDF 955kb)
(mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 22 January 2008 10:49. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .