English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Cyfreithiol/ Proffesiynnol
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Rhanbarth Cymru a Swydd Gaer

Protocol ar gyfer Rhestru Achosion lle defnyddir y Gymraeg


Dylid defnyddio'r canllawiau canlynol pan hysbysir y llys fod parti neu unrhyw un o'r tystion yn dymuno defnyddio'r Gymraeg yn ystod unrhyw ran o'r achos. Dylid nodi, yn unol ag Adran 22(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993

“ Mewn unrhyw achosion cyfreithiol yng Nghymru gellir siarad Cymraeg gan unrhyw barti, tyst neu berson arall sy'n dymuno'i defnyddio, yn ddarostyngedig mewn achosion mewn llys heblaw llys ynadon i'r cyfryw rybudd ymlaen llaw ag a fydd yn ofynnol yn ôl rheolau'r llys; a gwneir unrhyw ddarpariaeth angenrheidiol ar gyfer cyfieithu yn unol â hyn.”

Yn unol â hynny, mae gan yr unigolyn sy'n defnyddio'r Gymraeg yn yr achos yr hawl i wneud hynny ac ni ddylai fod gofyn iddo gyfiawnhau na chyfyngu ar i ba raddau y mae'n gwneud hynny. Nid yw'r ffaith fod yr unigolyn yn ddwyieithog ac yn gymwys yn y Saesneg yn effeithio nac yn cyfyngu ar ei hawl i ddefnyddio'r Gymraeg. Gyda golwg ar egwyddor cydraddoldeb, mae'n hanfodol nad yw defnyddio'r Gymraeg yn arwain at unrhyw anfantais i unrhyw un o'r partïon na'r tystion oherwydd oedi cyn rhestru neu ddiffygion yn y trefniadau a wneir i gael cyfieithu.

Protocol i'w ddilyn:

1. Pan dderbynnir gwybodaeth fod achos yn debygol o gynnwys defnydd o'r Gymraeg, dylai'r swyddog rhestru gysylltu ar unwaith ag un o'r ddau Farnwr Cyswllt.

2. Yn Llys y Goron dylai'r gwrandawiad Pledio a Rheoli Achos gael ei restru gerbron un o'r barnwyr Cyswllt neu farnwr Cymraeg ei iaith. Os nad yw'n hysbys, cyn y gwrandawiad Pledio a Rheoli Achos, fod y diffynnydd yn dymuno siarad Cymraeg, dylai'r achos un ai gael ei restru ar gyfer dedfrydu neu grybwylliad (cyn gynted ag sy'n ymarferol) gerbron barnwr Cymraeg ei iaith.

3. Yn y Gwrandawiad Pledio a Rheoli Achos neu'r crybwylliad, bydd angen i'r barnwr roi cyfarwyddiadau ynghylch y trefniadau cyfieithu. Mae'n hanfodol felly cael gwybodaeth gywir, cyn gynted â phosibl, am enwau a nifer y diffynyddion a/neu'r tystion (yn enwedig unrhyw blentyn neu dyst sy'n agored i niwed) sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg. Mae'n dda o beth hefyd canfod a yw cwnsleriaid y treial yn Gymraeg eu hiaith. (Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cytuno i sicrhau y bydd cwnsler yr erlyniad yn Gymraeg ei iaith mewn achosion o'r fath).

4. Dylai'r swyddog rhestru sicrhau bod barnwr Cymraeg ei iaith ar gael cyn pennu dyddiad y treial neu'r dedfrydu. Rhaid rhoi gwybod i Farnwr Cyswllt ar unwaith os oes anhawster i sicrhau hynny.

5. Yn y Llys Sirol, pan ddaw hysbysiad i law fod achos yn debygol o gynnwys defnydd o'r Gymraeg, dylai'r swyddog rhestr gysylltu ar unwaith ag un o'r ddau Farnwr Cyswllt.

6. Pan dderbynnir unrhyw Holiadur Dyrannu a /neu Holiadur Rhestru (Rhestr gyfeirio cyn treial) rhaid i'r clerc rhestru sicrhau bod y cwestiwn am yr iaith a ffafrir wedi cael ei ateb a bod y camau priodol wedi cael eu cymryd os yw'r Gymraeg i gael ei defnyddio yn ystod yr achos. Mae'n dda o beth hefyd canfod a yw cwnsleriaid y treial yn Gymraeg eu hiaith – os nad ydynt neu os mai dim ond un ohonynt sy'n siarad Cymraeg bydd angen cyfieithu'r ddwy ffordd.

7. Dylai'r achos gael ei restru gerbron barnwr Cymraeg ei iaith. Os oes unrhyw anhawster i wneud hynny rhaid hysbysu Barnwr Cyswllt ar unwaith.

8. Dylai'r Barnwr ystyried (yn enwedig lle mabwysiadir yr angen am Fesurau Arbennig)  a oes angen tywysydd / clerc Cymraeg ei iaith ar gyfer y gwrandawiad.

^Brig

Cyfieithwyr

9. Pan fydd unrhyw unigolyn yn dewis rhoi tystiolaeth yn Gymraeg rhaid i unrhyw gwestiynau, sy'n cael eu holi yn y Saesneg, gael eu cyfieithu i'r Gymraeg er ei fudd. Lle bo angen cyfieithu i'r Saesneg a'r Gymraeg, mae'n hanfodol fod dau gyfieithydd yn bresennol. Hyd yn oed yn yr achosion hynny lle nad oes angen cyfieithu ond i un iaith yn yr achos (e.e. lle bo'r ddau gwnsler yn Gymraeg eu hiaith), mae angen dau gyfieithydd ar gyfer unrhyw wrandawiad lle byddai rhaid i'r cyfieithydd gyfieithu am unrhyw gyfnod o amser er mwyn i'r cyfieithwyr gael saib yn rheolaidd ac yn aml heb achosi oedi nac ymestyn hyd y gwrandawiad yn ddianghenraid.

10. Dim ond cyfieithwyr ar y rhestr gymeradwy y ceir eu defnyddio. Dylent gael eu dethol, lle bynnag y mae hynny'n bosibl, ar sail gylchdro, er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyfle cyfartal i fagu profiad a chynnal eu sgiliau ystafelloedd llys. Mewn rhai achosion eithriadol lle mae plant yn dystion neu lle ceir materion anarferol o gymhleth, er enghraifft, ac y byddai'n dda o beth cael cyfieithwyr arbennig o fedrus a phrofiadol, dylid ymgynghori â Margaret Davies neu un o'r Barnwyr Cyswllt ynglyˆ n â pha gyfieithwyr i'w dewis.

11. Dylid rhoi pob cymorth i'r cyfieithwyr i baratoi ar gyfer y gwrandawiad a dylid caniatáu iddynt weld, neu roi copïau iddynt o ddatganiadau'r tystion a chopïau o'r ditiad cyn y gwrandawiad er mewn rhoi amser iddynt i baratoi a nodi unrhyw derminoleg anarferol neu arbenigol a allai gael ei defnyddio yn ystod y gwrandawiad.

12. Rhaid i'r llys sicrhau bod fersiwn Cymraeg llw/ cadarnhad y cyfieithwyr ar gael yn ystafell y llys.

Tystiolaeth fideo wedi ei recordio ymlaen llaw a chyswllt fideo

13. Pan fydd plentyn neu dyst sy'n agored i niwed wedi cael ei gyfweld ar fideo yn Gymraeg, rhaid i'r llys roi cyfarwyddiadau i ychwanegu is-deitlau Saesneg at y fideo. Mae'n hanfodol fod y cyfarwyddiadau hyn yn cael eu rhoi cyn gynted â phosibl i osgoi oedi.

Offer Cyfieithu

14. Rhaid i'r offer a ddefnyddir ar gyfer cyfieithu gael ei brofi o leiaf 7 diwrnod cyn y gwrandawiad i ganiatáu amser i gael offer ychwanegol neu, os oes raid, wasanaeth peiriannydd. Yn arbennig, rhaid i'r llys sicrhau bod digon o bensetiau (bydd angen 40 fel arfer ar gyfer treial gerbron rheithgor). Rhaid cael penset amgaeedig arbennig ar gyfer tystion fydd yn cael eu holi gan gwnsler Saesneg ei iaith neu ar gyswllt fideo.

15. Rhaid i'r offer gael ei wirio i wneud yn siwˆ r bod dwy sianel wahanol yn gweithio gyda'r pensetiau a bod y naill iaith a'r llall yn cael ei recordio ar wahân.

16. Rhaid bod yn arbennig o ofalus gydag unrhyw blentyn neu dyst diymgeledd sy’n  rhoi tystiolaeth drwy gyswllt fideo e.e  ni ddylid disgwyl i’r tyst wisgo penset swmpus. Rhaid fod offer priodol wedi cael ei osod yn ystafell y cyswllt fideo na fydd ond yn trawsyrru’r cyfieithiad Cymraeg o unrhyw gwestiwn sy’n cael ei ofyn i’r tyst. Mae’n rhaid sicrhau nad yw’r tyst yn clywed swn cefndir na fersiwn Saesneg y cwestiwn.

Rhagfyr 2005

Yr Anrhydeddus Mr Ustus Pitchford
Yr Anrhydeddus Mr Ustus Roderick Evans

< Dychwelwch i Dudalen Gartref Y Cyfarwyddiadau Ymarfer


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 25 April 2006 13:08. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .