English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Adnoddau pellach

Cofrestr Genedlaethol Dehonglwyr a Chyfieithwyr ar y Pryd-Gwasanaeth Cyhoeddus

Dehonglwyr a Chyfieithwyr ar y Pryd


Achosion Troseddol | Achosion Sifil a Theulu | Yr Iaith Gymraeg

Cyfieithwyr mewn Achosion ac Ymchwiliadau Troseddol

Mae'r Swyddfa dros Ddiwygio Cyfiawnder Troseddol, trwy ymgynghori ag asiantaethau System Cyfiawnder Troseddol, wedi cynhyrchu Cytundeb Cenedlaethol newydd ar gyfer Defnyddio Cyfieithwyr. Mae'r ddogfen sydd ar wefan y Swyddfa Gartref isod, yn rhoi canllawiau clir a manwl i bob asiantaeth ynglŷn â'r drefn i'w dilyn ar bob cam o'r broses cyfiawnder troseddol lle gellid bod angen cyfieithydd.

Cytundeb Cenedlaethol ar gyfer Defnyddio Cyfieithwyr

^Brig

Cyfieithwyr mewn Achosion Sifil a Theulu

Ymgyfreithwyr Byddar a Rhai â Nam ar eu Clyw

Bydd Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yn cwrdd â chostau rhesymol dehonglwyr ar gyfer ymgyfreithwyr sydd yn fyddar neu sydd â nam ar eu clyw mewn gwrandawiadau achosion sifil a theuluol.

Mae gan nifer o bobl ffrind neu berthynas sy'n dehongli ar eu rhan, fel arfer. Os bydd person byddar eisiau i berson o'r fath ddehongli ar eu rhan, bydd angen iddynt ofyn caniatâd y Barnwr. Rhaid i'r Barnwr fod yn sicr y gall y ffrind neu berthynas ddehongli'n union beth sy'n cael ei ddweud wrth y llys a beth mae'r llys yn ei ddweud wrth y person byddar.

Onid oes gan y ffrind neu'r perthynas gymhwyster ffurfiol ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth rhwng pobl fyddar a phobl sy'n clywed, efallai y byddai'n well defnyddio dehonglydd cymwysedig. Ni fyddai hynny'n rhwystro'r ffrind neu berthynas rhag bod yno hefyd i roi eu cefnogaeth, ond dylid cael caniatâd y Barnwr gyntaf.

Os oes angen dehonglydd, bydd y llys yn trefnu bod dehonglydd yn bresennol.

Cyfieithwyr ar y Pryd iaith dramor

Bydd staff y llys hefyd yn trefnu bod cyfieithwyr ar y pryd ar gael mewn gwrandawiadau sifil a theuluol dan amgylchiadau penodol pan fydd achosion yn cynnwys:

Os yw'r llys yn cael ei ariannu'n gyhoeddus, mae'n bosib y bydd arian Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol ar gael. Os yw'r achos yn cael ei ariannu'n breifat, rhaid i'r partïon ddarparu eu cyfieithwyr ar y pryd eu hunain.

Mae GLlEM yn trefnu ac yn talu cyfieithwyr iaith-dramor yn unol â set safonol o delerau ac amodau.

Telerau ac Amodau

^Brig

Cyfieithwyr ar y Pryd Cymraeg

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Chynllun Iaith Gymraeg Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yn caniatáu y defnydd o'r iaith Gymraeg mewn unrhyw achosion cyfreithiol yng Nghymru. Gellir defnyddio'r iaith Gymraeg mewn gwrandawiadau yn y llysoedd yng Nghymru. Unwaith mae'n hysbys bod yr iaith Gymraeg i'w defnyddio mewn gwrandawiad gwneir trefniadau i gael cyfieithydd Cymraeg yn y llys. Darperir cyfieithu ar y pryd. Mae gan Wasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi restr o gyfieithwyr cymeradwy sydd wedi mynychu seminarau ymwybyddiaeth. Barnwr Cyswllt yr Iaith Gymraeg sydd yn cadeirio'r seminarau hyn.Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi sy'n gyfrifol am unrhyw gostau cyfieithu.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 13 March 2007 13:03. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .