English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Achosion a bennwyd ar gyfer gwrandawiad Adolygiadau Blynyddol Canllawiau Adran Droseddol y Llys Apêl Cwestiynau ac Atebion Cwynion Cyfarwyddiadau Ymarfer Cysylltu ag Adran Droseddol y Llys Apêl Ffurflenni Rhestr Ddyddiol Ystadegau

Adran Droseddol y Llys Apêl


Cwestiynau ac Atebion

Sut ydw i'n apelio?

Faint o amser fydd fy apêl yn ei gymryd?

Pa gamau mae'n rhaid i'm hapêl fynd drwyddynt?

Rydw i am roi'r gorau i'm hapêl. Sut ydw i'n gwneud hyn?

Sut ydw i'n cwyno? 

 

Sut ydw i'n apelio?

I ba lys y dylwn i apelio?

Mae angen ichi wneud yn siŵr, yn gyntaf, mai i'r Llys Apêl y dylech chi fod yn apelio ac nid i ryw lys arall.
Apelio yn erbyn dedfryd. Os cawsoch eich dedfrydu yn Llys y Goron – gallwch apelio yn erbyn eich dedfryd i'r Llys Apêl (hyd yn oes os cawsoch eich euogfarnu yn y Llys Ynadon).

Apelio yn erbyn euogfarn. Dim ond os cawsoch eich euogfarn yn Llys y Goron y gallwch apelio yn erbyn euogfarn i'r Llys Apêl. Os cawsoch eich euogfarn yn y Llys Ynadon, mae angen ichi apelio i Lys y Goron (neu o bosibl i Swyddfa'r Llys Gweinyddol) a dylech siarad â'r Llys Ynadon i gael cyngor ar sut i apelio.

Pa ffurflenni mae angen imi eu defnyddio?

Gwneir apêl drwy lenwi ffurflen NG, gan roi'r rhesymau pam eich bod o'r farn fod yr euogfarn neu'r ddedfryd yn anghywir (h.y. yn rhoi seiliau'r apêl) ac anfon y ffurflen wedyn i Lys y Goron lle rhoddwyd yr euogfarn. Bydd Llys y Goron yn gwneud copi o'r holl ddogfennau a ddefnyddiwyd yn y treial ac yn eu hanfon, gyda ffurflen NG, i'r Swyddfa Apeliadau Troseddol, sy'n darparu cymorth gweinyddol i'r Llys Apêl.

^Brig

O ble gallaf fi gael y ffurflenni?

Gallwch gael ffurflen NG (Hysbysiad a Seiliau'r Apêl), ffurflen B (gofyn am fechnïaeth) a ffurflen W (gofyn am i dyst ymddangos yn y llys) o unrhyw Lys y Goron; o'r wefan hon (yr adran ffurflenni a chanllawiau) (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg); oddi wrth Gymorth Cyfreithiol y Carchardai neu Swyddog Personél.

Gallwch gael ffurflen A (rhoi'r gorau i'ch apêl neu ran o'ch apêl), ffurflen HL (gofyn am ganiatâd i apelio i Dŷ'r Arglwyddi) neu unrhyw ffurflenni apelio eraill o adran ffurflenni a chanllawiau'r  (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg) wefan hon neu o'r swyddfa hon. Gweler y manylion isod:

Y Swyddfa Apeliadau Troseddol, y Llysoedd Barn Brenhinol, y Strand, Llundain WC2A 2LL
Y Swyddfa Apeliadau Troseddol, DX 44450, y Strand
Rhif ffôn: 020 7947 6011
Ffacs: 020 7947 6900
E bost: Y Swyddfa Apeliadau Troseddol

Pwy sy'n gorfod llenwi'r ffurflenni?

Gallwch chi lenwi ffurflen NG eich hun a'i hanfon i Lys y Goron lle cawsoch eich euogfarn neu efallai y bydd eich twrnai neu fargyfreithiwr yn barod i wneud hyn ar eich rhan (edrychwch ar Sut gallaf fi gael cyngor cyfreithiol am wneud apêl)

Beth yw'r terfynau amser ar gyfer cyflwyno fy apêl?

Rhaid i ffurflen NG gael ei hanfon i Lys y Goron neu, os ydych yn y ddalfa, gael ei rhoi i Swyddog Carchardai, o fewn 28 diwrnod i'r dyddiad y cawsoch eich euogfarn (i apeliadau yn erbyn euogfarn) neu o fewn 28 diwrnod i ddyddiad eich dedfryd (i apeliadau yn erbyn dedfryd).

Os ydych yn mynd i fod y tu allan i'r terfynau amser hynny, mae angen ichi ofyn am estyniad amser (h.y. caniatâd i gyflwyno'r ffurflen yn hwyr). Mae angen ichi anfon ffurflen NG i mewn yn cynnwys seiliau eich apêl a hefyd y rhesymau pam eich bod yn hwyr yn anfon y ffurflen i mewn. Ni allwn dderbyn rhesymau am estyniad amser ar eu pen eu hunain heb seiliau'r apêl (Rheol 2 o Reolau Apeliadau Troseddol 1968).

^Brig

Sut gallaf fi gael cyngor cyfreithiol am wneud apêl?

Os oedd gennych dwrnai neu fargyfreithiwr yn eich cynrychioli yn rhad ac am ddim yn y llys drwy arian cyhoeddus (o dan Orchymyn Cynrychioli) rhaid iddynt roi cyngor ichi (yn ysgrifenedig os gofynnwch am hynny) i ddweud a oes seiliau da ichi apelio arnynt ai peidio. Os ydynt yn credu bod seiliau da, byddant yn llenwi'r ffurflen ar eich rhan ac yn ei hanfon i Lys y Goron. Bydd y Gorchymyn Cynrychioli yn cynnwys unrhyw gamau pellach angenrheidiol a gymerir gan eich twrneiod neu fargyfreithiwr ar eich rhan hyd at y cam pan gaiff eich cais ei anfon at farnwr.

Os ydych eisoes wedi cael cyngor gan eich bargyfreithiwr yn dweud nad oes seiliau i apelio, nid oes gennych hawl i gael arian cyhoeddus i gael cyngor pellach gan fargyfreithiwr arall. Mae modd wrth gwrs ichi dalu eich hun i gael cyngor gan gwmni arall o dwrneiod neu fargyfreithiwr arall.

O dan rai amgylchiadau efallai y bydd yn bosibl ichi gael arian cyhoeddus pellach i gael cyngor gan gynrychiolwyr cyfreithiol newydd neu iddynt wneud ymholiadau ar eich rhan. Fodd bynnag, efallai y bydd gofyn ichi wneud ymholiadau am hyn gyda'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol. Gellir cysylltu â'r gwasanaeth ar (details being obtained)

Os nad ydych yn y ddalfa gallech geisio cyngor cyfreithiol pellach oddi wrth Ganolfan Ar Bopeth

^Brig

Faint o amser fydd fy apêl yn ei gymryd?

Faint o amser fydd fy apêl yn ei gymryd drwyddi draw?

Mae nifer o ffactorau gwahanol sy'n effeithio ar faint o amser y bydd apêl yn ei gymryd (gweler Pa ffactorau all effeithio ar faint o amser y mae fy apêl yn ei gymryd?) Mae ein targedau wrthi'n cael eu hadolygu ond ar hyn o bryd maent fel a ganlyn:

Fodd bynnag, mae dau gam cyffredinol i'r broses apelio:

Pa ffactorau sy'n gallu effeithio ar faint o amser y mae fy apêl yn ei gymryd?

^Brig

Pa mor hir fydd fy apêl yn ei gymryd i fynd at Farnwr unigol?

Yn amodol ar y ffactorau sydd wedi eu nodi uchod (yn Pa ffactorau sy'n gallu effeithio ar faint o amser y mae fy apêl yn ei gymryd?) rydym yn ceisio sicrhau bod achosion dedfryd syml yn cael eu hanfon i'n Swyddfa Gyffredinol, er mwyn i'r swyddfa eu hanfon at Farnwr Unigol o fewn 5 i 6 wythnos iddynt ddod i law'r swyddfa. Rydym yn ceisio anfon achosion euogfarn syml i'n Swyddfa Gyffredinol o fewn 3 i 4 mis iddynt ddod i law.

Ein Swyddfa Gyffredinol sy'n gyfrifol am anfon papurau at farnwyr ac mae ei staff yn ceisio anfon papurau at farnwr o fewn ychydig ddyddiau iddynt ddod i law. Fodd bynnag, ar wahanol adegau (yn arbennig y Nadolig, y Pasg ac ym mis Awst a mis Medi) nid oes cynifer o farnwyr ar gael. Mae hyn yn golygu oedi nad oes modd ei osgoi weithiau cyn i'r Swyddfa Gyffredinol anfon y papurau at farnwr.

Fel arfer mae barnwyr yn gwneud eu penderfyniad ac yn dychwelyd y papurau i'r Swyddfa Gyffredinol o fewn mis fan bellaf.

^Brig

Drwy ba gamau y mae'n rhaid i'm hapêl fynd?

Mae ffurflen NG yn dod i law'r Swyddfa Apeliadau Troseddol

Byddwn yn rhoi cyfeirnod i'ch achos ac yn anfon cadarnhad fod yr apêl wedi dod i law. Byddwn yn rhoi manylion yr achos ar ein cronfa ddata ac yn creu ffeil. Fel arfer mae'r ffeil hon yn cael ei hanfon o fewn 2 ddiwrnod i un o'n hadrannau gwaith achosion (a elwir yn adrannau A, B, C neu D).

Mae'r adran gwaith achosion yn paratoi'r papurau i'w hanfon at Farnwr

Bydd yr adran gwaith achosion yn gwneud yn siŵr fod ganddi'r holl bapurau y bydd eu hangen ar y barnwr i benderfynu pa un i roi caniatâd i apelio ai peidio. Gallai hyn gymryd peth amser. Efallai y bydd angen cael rhagor o bapurau oddi wrth Lys y Goron neu eich twrneiod neu'ch bargyfreithiwr. Bydd rhaid hefyd i'r adran gael cofnod wedi ei deipio (trawsgript) o'r hyn a ddigwyddodd ar yr adeg berthnasol yn Llys y Goron. Os mai apêl yn erbyn euogfarn yw'r apêl efallai y bydd yn rhaid anfon copi o'r trawsgript at eich bargyfreithiwr er mwyn iddo ef/iddi hi berffeithio seiliau'r apêl drwy gyfeirio at y trawsgript.

Caiff y papurau eu hanfon at Farnwr

Bydd y grŵp gwaith achosion yn anfon y papurau i'n Swyddfa Gyffredinol, sy'n delio â dyrannu'r holl bapurau i farnwyr. (Gweler Pa mor hir fydd fy apêl yn ei gymryd i fynd at Farnwr unigol?) Unwaith y mae'r barnwr wedi gwneud penderfyniad, caiff y papurau eu dychwelyd i'r Swyddfa Gyffredinol ac oddi yno i'r adran gwaith achosion. Gall y barnwr roi neu wrthod caniatâd i apelio neu, weithiau er nid yn aml, gall gyfeirio'r achos i'r Llys Apêl Llawn heb benderfynu'r naill ffordd na'r llall.

^Brig

Os rhoddir hawl i apelio / os cyfeirir yr achos

Os yw'r barnwr yn rhoi hawl i apelio neu os yw'r achos yn cael ei gyfeirio i'r Llys Apêl Llawn, bydd yr adran gwaith achosion yn creu Gorchymyn Cynrychioli fel arfer yn rhoi arian cyhoeddus ichi ar gyfer bargyfreithiwr i'ch cynrychioli tra'r ydych yn parhau â'r apêl (oni bai fod apelydd yn talu'n breifat). Byddant yn anfon copi atoch chi a'ch bargyfreithiwr.

Bydd crynodeb o'r achos yn cael ei ysgrifennu (gan aelod o staff gweinyddol neu gyfreithiol y Swyddfa Apeliadau Troseddol fel arfer) i gynorthwyo'r barnwyr yng ngwrandawiad llawn yr apêl. Os yw eich achos yn gymhleth iawn gall gymryd peth amser i gwblhau'r crynodeb. Bydd copi o grynodeb yr achos yn cael ei anfon at eich bargyfreithiwr neu atoch chi os nad oes gennych fargyfreithiwr yn gweithredu ar eich rhan.

Unwaith y mae'r crynodeb wedi cael ei ysgrifennu bydd copïau o'r holl bapurau yn cael eu gwneud ar gyfer y barnwyr a bydd manylion yr achos yn cael eu hanfon i'n Swyddfa Restru ar gyfer gosod dyddiad ar gyfer y gwrandawiad.

Os gwrthodir caniatad i apelio

Os gwrthodir caniatad i apelio, bydd copi o benderfyniad y barnwr yn cael ei anfon atoch a bydd angen ichi lofnodi'r ffurflen a'i rhoi i swyddog carchar neu ei dychwelyd atom o fewn 14 diwrnod ichi ei derbyn os ydych am adnewyddu eich cais (h.y. os ydych yn anghytuno â phenderfyniad y Barnwr Unigol ac am i'r Llys Apêl Llawn ystyried eich achos).
Nid oes gennych hawl i gael arian cyhoeddus i gael bargyfreithiwr i'ch cynrychioli os yw eich cais yn cael ei adnewyddu. Efallai y gallwch ddod o hyd i fargyfreithiwr a fydd yn barod i'ch cynrychioli am ddim (pro bono) neu efallai y gallwch dalu bargyfreithiwr yn breifat i'ch cynrychioli. Os ydych yn y carchar nid oes gennych hawl i fod yn bresennol yng ngwrandawiad eich cais adnewyddedig.

Megis uchod (os rhoddir ganiatad i apelio / os cyfeirir yr apêl) bydd crynodeb yn cael ei ysgrifennu a chopïau'n cael eu gwneud o'r papurau cyn i fanylion yr achos gael eu hanfon i'n Swyddfa Restru er mwyn iddi osod dyddiad ar gyfer y gwrandawiad.

Os nad ydych yn adnewyddu eich cais byddwn yn trefnu i'r achos gael ei gau gyda hynny. Os caiff eich achos ei gau, byddwn yn anfon llythyr yn cadarnhau hyn.

^Brig

Gosod dyddiad i'r gwrandawiad

Bydd y Swyddfa Restru yn cysylltu â'ch bargyfreithiwr os ydych yn cael eich cynrychioli yn y gwrandawiad. Bydd yn ceisio gosod dyddiad ar gyfer y gwrandawiad cyn gynted â phosibl ac, yn amodol ar hynny, bydd yn ceisio gosod dyddiad sy'n hwylus i'ch bargyfreithiwr.
Bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn dweud pa ddyddiad sydd wedi cael ei osod. Os ydych yn y carchar a'ch bod wedi cael caniatâd i apelio mae gennych hawl i gael eich dwyn i'r llys i wrando ar eich apêl. Fodd bynnag, os nad ydych am fod yn bresennol, gallwch lofnodi papur yn dweud hynny (h.y. yn hepgor eich hawl).

Y gwrandawiad

Fel arfer caiff y gwrandawiad ei gynnal yn y Llysoedd Barn Brenhinol yn Llundain mewn ystafell llys sy'n agored i'r cyhoedd. Fel arfer bydd 3 barnwr i benderfynu ar eich apêl.

Os oedd y Barnwr Unigol wedi gwrthod caniatâd i apelio a bod y Llys Llawn yn cadarnhau hyn, mae eich apêl ar ben.

Os oedd y Barnwr Unigol wedi gwrthod caniatâd i apelio a bod y Llys Llawn yn rhoi caniatâd, fel arfer bydd yn caniatáu arian cyhoeddus ichi i gael bargyfreithiwr i'ch cynrychioli a bydd yn gofyn am i ddyddiad arall gael ei osod ar gyfer y gwrandawiad. Weithiau, efallai y gwnaiff y Llys Llawn benderfynu ar eich achos yn y fan a'r lle os mai apelio yn erbyn dedfryd yr ydych a bod y barnwyr yn teimlo y dylai'r ddedfryd gael ei lleihau. (Pan ddywedir wrthych am y canlyniad, byddai gennych hawl o hyd i wrandawiad llawn, gyda bargyfreithiwr yn eich cynrychioli, pe baech yn dymuno.)

^Brig

Ar ôl y gwrandawiad

Bydd copi o orchymyn y barnwyr yn cael ei anfon atoch. Bydd cofnod wedi ei deipio o'r hyn a ddywedodd y barnwyr wrth wneud y penderfyniad a'u rhesymau (y dyfarniad) yn dod i law'r Swyddfa Apeliadau Troseddol o fewn 6 wythnos i ddyddiad y gwrandawiad.

Os yw'r Llys Llawn wedi gwrthod eich apêl neu wedi gwrthod caniatâd i apelio, mae eich apêl ar ben. Os ydych yn teimlo nad yw'r llys wedi ystyried eich achos yn iawn gallwch wneud cais i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol, gan ofyn am i'ch achos gael ei gyfeirio'n ôl i'r Llys Apêl. Cyfeiriad y Comisiwn yw: Alpha Tower, Suffolk Street, Queensway, Birmingham, B1 1TT. Y rhif ffôn yw: 0121 633 1800.

Os yw eich apêl wedi cael ei gwrthod (ond nid os gwrthodwyd caniatad i apelio) gallwch ofyn i'r Llys Apêl ardystio bod pwynt o bwys cyffredinol i'r cyhoedd ymhlyg yn y penderfyniad. Mae angen ichi wneud y cais hwn gan ddefnyddio ffurflen HL (gweler ffurflenni). Os yw'r Llys Apêl yn ardystio bod pwynt o bwys cyffredinol i'r cyhoedd ymhlyg yn y penderfyniad, efallai y gallwch apelio wedyn i Dŷ'r Arglwyddi.

Os caiff eich euogfarn ei dileu a'ch bod eisoes wedi talu dirwy yr ydych am ei hawlio'n ôl, neu os yw'ch euogfarn yn dal i sefyll a bod angen yn awr ichi dalu'r ddirwy, dylech siarad â'r Llys Ynadon a fu'n delio â chi.

^Brig

Rwyf am roi'r gorau i'm hapêl. Sut ydw i'n gwneud hyn?

Os penderfynwch ar unrhyw adeg nad ydych am barhau â'ch apêl neu eich bod am roi'r gorau i ran o'ch apêl, rhaid ichi gadarnhau hyn yn ysgrifenedig drwy lenwi ffurflen A a'i hanfon atom (gweler O ble gallaf fi gael y ffurflenni?).

Sut ydw i'n cwyno?

Mae gan Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi daflen Rydw i eisiau cwyno sy'n rhoi'r holl fanylion am hyn. Cewch gopi drwy ofyn am un i un o'n Swyddogion Gwasanaeth Cwsmeriaid (020 7947 6011) neu ysgrifennu at y Rheolwr Gwasanaeth Cwsmeriaid, y Swyddfa Apeliadau Troseddol, y Llysoedd Barn Brenhinol, y Strand, Llundain WC2A 2LL neu wneud cais drwy e-bostio at: y Swyddfa Apeliadau Troseddol.

Os ydych am gwyno, bydd y staff sy'n delio â'ch problem yn ceisio eich helpu yn y fan a'r lle. Os ydych yn dal yn anfodlon gallwch ysgrifennu neu anfon e-bost at y Rheolwr Gwasanaeth Cwsmeriaid (gweler y manylion uchod) neu at y Rheolwr Llys (yn yr un cyfeiriad). Os nad ydych yn fodlon â'r ymateb a gewch gan y Rheolwr Llys, gallwch ysgrifennu at y Rheolwr Ardal (yn yr un cyfeiriad). Os ydych yn dal yn anfodlon gallwch gysylltu ag Uned Gwasanaeth Cwsmeriaid Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi fel y nodir isod:

Uned Gwasanaeth Cwsmeriaid, 5ed Llawr, Clive House, 70 Petty France, Llundain, SW1H 9HD
Rhif ffôn: 020 7189 2000
Ffacs: 020 7189 2732
Llinell gymorth i'r anabl: 0800 358 3506 (rhadffon)


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 15 December 2005 14:53. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .