Sgwatwyr
Tudalen 2 o 9
Pryd ga'i wneud cais am orchymyn meddiannu interim?
Cewch wneud cais am orchymyn meddiannu interim os byddwch yn darganfod fod person (neu bobl) wedi bod yn dal eich eiddo heb eich caniatâd, ac y gallwch gwrdd â nifer o ofynion eraill.
Beth ydy'r gofynion eraill hynny?
Y gofynion eraill ydy bod yr eiddo sy'n cael ei ddal yn:
- adeilad; neu
- rhan o adeilad, sy'n ystafell hunangynhaliol neu fflat oddi mewn iddo; neu
- tir ategol i adeilad.
Nid yw'r drefn yn berthnasol i dir agored.
a bod: - gennych hawl i feddiannu'r eiddo sy'n cael ei ddal ar unwaith;
- eich hawl gennych chi drwy gydol y cyfnod yr oedd yr eiddo'n cael ei ddal yn anghyfreithlon;
- eich bod yn gwneud eich hawliad meddiannu o fewn 28 niwrnod i'r dyddiad pryd y bu i chi ddarganfod gyntaf fod yr adeilad yn cael ei ddal heb eich caniatâd;
Os bu i'ch eiddo gael ei ddal am gyfnod cyn i chi ddod yn ymwybodol o hynny, bydd y barnwr yn ystyried a ddylech fod wedi gwybod amdano ynghynt nag y gwnaethoch. - nid yw'r diffynyddion yn bobl sydd wedi derbyn hawl i ddal yr eiddo gan denant neu ddeiliad cyfreithlon y brydles; ac
- rydych yn gwneud hawliad i feddiannu yn erbyn sgwatwyr ar gyfer adfer yr eiddo yn unig.
Mae effeithiau gorchymyn meddiannu interim yn ddifrifol. Oherwydd hyn, bydd y llys yn ystyried amddiffyn buddiannau'r diffynnydd os bydd y gorchymyn yn cael ei osod o'r naill du yn nes ymlaen o ganlyniad i wrthwynebiad llwyddiannus iddo.
Gofynnir i chi ddweud pa un ai a ydych chi'n fodlon rhoi addewidion penodol i'r llys (o'r enw 'ymgymeriadau') sydd yn gwneud hyn. Bydd yn rhaid i chi nodi a ydych chi wedi rhoi'r ymgymeriadau canlynol neu a ydych chi'n fodlon gwneud hynny:
- caniatáu i'r diffynyddion ddychwelyd i'r eiddo a thalu iawndal iddynt os caiff gorchymyn meddiannu interim ei wneud ond fod y llys wedyn yn penderfynu nad oedd gennych hawl i'r gorchymyn; a
- pheidio â gosod yr eiddo i unrhyw un arall na'i ddifrodi, na chael gwared ar eiddo'r diffynyddion nes bod y llys yn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch eich hawl i feddiannu.
Nid oes yn rhaid i chi roi'r ymgymeriadau hyn, ond bydd llys yn ystyried eich parodrwydd i wneud hynny wrth benderfynu a ddylid rhoi gorchymyn meddiannu interim i chi ai peidio.
