Gwybodaeth i Ddeiliaid
Os byddwch yn derbyn Gwŷs Meddiannu, mae hyn oherwydd bod yr hawlydd (eich landlord neu fenthyciwr morgais) yn hawlio meddiant ar yr eiddo. Bydd y rheswm am hyn wedi'i nodi ym Manylion yr Hawliad sy'n dod gyda'r ffurflen wysio. Gall y wŷs hefyd gynnwys hawliad ariannol am ôl-ddyledion.
Gellir cychwyn achosion ailfeddiannu mewn perthynas â gwahanol fathau o faterion:
Eiddo ar forgais
Os oes gennych forgais ar eich eiddo a'ch bod ar ôl gyda'ch taliadau.
Adeilad preswyl ar rent
Os ydych chi'n rhentu eiddo gan landlord preifat neu'ch awdurdod lleol.
Trefn ar gyfer meddiannu cyflymedig
Pan fo gennych denantiaeth byrddaliad sicredig a bod eich landlord yn gofyn am feddiant.
Sgwatwyr
Pan fyddwch yn dal eiddo heb unrhyw hawl i wneud hynny.
Diogelu Blaendaliadau Tenantiaeth
Cyflwynwyd Cynlluniau Blaendaliadau Tenantiaeth gan Ddeddf Tai 2004. Dan y ddeddf, o 6 Ebrill 2007 ymlaen, mae'n rhaid i flaendaliadau a gymerir gan landlordiaid ac asiantau gosod ar gyfer Tenantiaeth Byrddaliad Sicr yng Nghymru a Lloegr gael eu diogelu gan gynllun diogelu blaendaliadau tenantiaeth.
Lle nad yw landlord yn gosod y blaendal mewn cynllun, ceir darpariaeth dan adran 214 Deddf 2004 i denant wneud cais i'r llys sirol i orfodi'r landlord i ad-dalu'r blaendal neu ei osod mewn cynllun cymeradwy.
Mae'r canllaw cysylltiedig yn esbonio'r drefn briodol i'w dilyn yn y llys wrth gychwyn hawliad dan adran 214.
