English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Llys Sirol Ffioedd

Adnoddau pellach

Canolfan Cyngor ar Bopeth Y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol

Sgwatwyr


Tudalen 1 o 9

Mae'r canllawiau hyn ar gael ar ffurf pdf hefyd.

Beth yw'r drefn gynt?

Mae'n drefn sy'n eich galluogi i wneud cais i'r llys am 'orchymyn meddiannu interim'. Os bydd y llys yn gwneud y gorchymyn, rhaid i unrhyw un sy'n dal eich eiddo heb eich caniatâd, hynny yw, yn sgwatio, adael cyn pen 24 awr ar ôl iddynt dderbyn copi o'r gorchymyn (ar ôl 'cyflwyno'r' gorchymyn). Fe'ch gelwir chi'n 'hawlydd'. Y 'diffynnydd' yw'r person (neu'r bobl) y dywedir eu bod yn dal yr eiddo'n anghyfreithlon. Oni fydd y diffynyddion yn gadael cyn pen 24 awr, byddant yn euog o drosedd. Gallwch ofyn i'r heddlu eu harestio. Os bydd llys yn cael y diffynyddion yn euog, gellir eu carcharu, eu dirwyo neu'r ddau. Fel rheol, bydd y llys yn penderfynu ar eich cais cyn pen ychydig o ddyddiau ar ôl i chi ei gychwyn. Nid yw gorchymyn meddiannu interim yn orchymyn terfynol sy'n rhoi hawl i chi feddiannu'r eiddo. Rhaid i chi felly hefyd wneud cais meddiannu pan fyddwch yn gwneud cais am orchymyn meddiannu interim. Fel rheol bydd gorchymyn meddiannu terfynol yn cael ei wneud mewn gwrandawiad yn fuan ar ôl gwneud y gorchymyn meddiannu interim.



Nesaf


Tudalen Flaenorol


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 02 November 2006 16:05. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .