Trefn ar gyfer meddiannu cyflymedig
Tudalen 1 o 2
Mae yna hefyd ddull cyflymach i landlordiaid gymryd meddiant o'u heiddo, a elwir yn Drefn ar Gyfer Meddiannu Cyflymedig, all eich cynorthwyo i gael meddiant o'ch eiddo o bosibl heb yr angen am wrandawiad llys.
Gallwch ddefnyddio'r drefn hon os yw'r denantiaeth yn denantiaeth byrddaliad sicredig. Os defnyddiwch y drefn hon, chewch chi ond hawlio meddiant a'ch costau am wneud y cais. Allwch chi ddim, er enghraifft, gynnwys hawliad am ôl-ddyledion rhent. Bydd y llys fel arfer yn gwneud ei benderfyniad drwy edrych ar y dogfennau ('tystiolaeth ysgrifenedig') a ddarperir gennych chi a'ch tenant. Oherwydd yr ymdrinnir â'ch cais yn y modd hwn, rhaid i chi roi i'r llys ar y cychwyn yr holl dystiolaeth ysgrifenedig y mae ei angen i wneud ei benderfyniad.
Bydd angen i chi lenwi'r Ffurflen N5B hawliad am feddiant (trefn gyflymedig). Am gymorth ar sut i lenwi'r ffurflen hon dylech ddarllen y Nodiadau i'r hawlydd (Taflen N5C) ar y dudalen nesaf. Bydd angen i chi hefyd ddarparu ar gyfer y llys gopïau o'r cytundeb tenantiaeth, rhybudd(ion) a anfonwyd i'r deiliad, ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill (megis llythyrau).
