Adeilad preswyl ar rent
Tudalen 1 o 2
Os ydych yn dymuno cael meddiant o eiddo ar rent, bydd angen i chi lenwi'r Ffurflen Hawlio ar gyfer meddiannu eiddo (Ffurflen N5) a hefyd Manylion yr Hawliad (adeilad preswyl ar rent) N119. Os ydych eisiau hawlio ôl-ddyledion rhent hefyd gallwch roi'r manylion ar y ffurflen fanylion.
Wedi cwblhau'r ffurflenni, dylech eu hanfon i swyddfa'r llys, neu fynd â hwy yno'n bersonol. Unwaith y derbynnir eich ffurflenni yn swyddfa'r llys, pennir dyddiad ar gyfer gwrandawiad eich achos. Am arweiniad ar sut i lenwi'r ffurflen, dylech ddarllen y Nodiadau i'r hawlydd (eiddo preswyl ar rent) ar y dudalen nesaf.
|
|
^ Brig
|
