English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saeseng

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Llys Sirol Ffioedd

Adnoddau pellach

Canolfan Cyngor ar Bopeth Y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol

Gwybodaeth i Landlordiaid


Os ydych chi'n landlord gallwch ddefnyddio llys sirol i adennill eich tir neu'ch eiddo (ac arian am ôl-ddyledion rhent neu ddifrod i eiddo, os yn berthnasol). Cyn i chi gychwyn eich hawliad, dylech siarad â thwrnai neu ganolfan gynghori. I gael gwybod ymhle mae'ch twrnai agosaf neu eich asiantaeth gynghori agosaf, chwiliwch yng nghyfeiriadur y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol.

Rhaid i chi gychwyn achos yn y llys sy'n ymdrin â'r ardal lle saif yr eiddo. Gall staff y llys eich helpu chi i lenwi'r ffurflenni ond ni allant roi cyngor cyfreithiol. Bydd yn rhaid i chi dalu ffi i gychwyn cais – gofynnwch i staff y llys faint fydd yn rhaid i chi ei dalu.

Mae'r llys yn ymdrin â gwahanol fathau o achosion meddiannu. Dylech ddewis y drefn sydd fwyaf addas ar gyfer eich achos:



Adeilad preswyl ar rent
Dyma'r drefn safonol ar gyfer ailfeddiannu eiddo a hefyd i hawlio ôl-ddyledion rhent os yn berthnasol. Bydd yn rhaid i chi fynd i wrandawiad llys.

Trefn ar gyfer meddiannu cyflymedig
Dyma ddull cyflymach o gael meddiant ar eiddo, ac efallai na fydd angen gwrandawiad llys.

Sgwatwyr

Cewch wneud cais am Orchymyn Meddiannu Interim os byddwch yn canfod bod pobl wedi bod yn dal eich eiddo heb eich caniatâd.




Diogelu Blaendaliadau Tenantiaeth

Cyflwynwyd Cynlluniau Blaendaliadau Tenantiaeth gan Ddeddf Tai 2004. Dan y ddeddf, o 6 Ebrill 2007 ymlaen, mae'n rhaid i flaendaliadau a gymerir gan landlordiaid ac asiantau gosod ar gyfer Tenantiaeth Byrddaliad Sicr yng Nghymru a Lloegr gael eu diogelu gan gynllun diogelu blaendaliadau tenantiaeth.

Lle nad yw landlord yn gosod y blaendal mewn cynllun, ceir darpariaeth dan adran 214 Deddf 2004 i denant wneud cais i'r llys sirol i orfodi'r landlord i ad-dalu'r blaendal neu ei osod mewn cynllun cymeradwy.

Mae'r canllaw cysylltiedig yn esbonio'r drefn briodol i'w dilyn yn y llys wrth gychwyn hawliad dan adran 214.

 

^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 05 August 2008 15:56. Uned Iaith Gymraeg GLlEM.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .