English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Adneuo dogfennau i'w cadw'n ddiogel Ail-selio Amdanom Ni Apwyntiadau Cafeatau Canllawiau Ceisiadau am brofiant Chwiliadau ac Ymchwil Cofrestrfeydd Profiant Cynnal chwiliad sefydlog Cysylltu â Ni Deddf Partneriaeth Sifil 2004 Ffioedd Profiant Ffurflenni a taflenni Grantiau Cynrychiolaeth Gweithdrefnau profiant yn yr Alban a Gogledd Iwerddon Llinell Gymorth Profiant a'r Dreth Etifeddu Pam gwneud ewyllys? Rheolau Profiant Tynnu Ewyllysiau o fannau cadw diogel

Adnoddau pellach

Age Concern Canolfan Cyngor ar Bopeth Cofrestrydd Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau Cyllid a Thollau EM Cymdeithas y Gyfraith Gofal Galaru Cruse Help the Aged Llysoedd Gogledd Iwerddon Llysoedd Ynys Manaw Llysoedd yr Alban Swyddfa Gwarchodaeth y Cyhoedd

Cofnodion Profiant a Hanes Teuluol


Gall gwybodaeth mewn cofnodion Profiant lenwi bylchau hollbwysig yn eich coeden deulu. Er eu bod o bosibl yn llai defnyddiol na chofnodion genedigaethau, priodasau a marwolaethau, cofnodion a all fod yn dystiolaeth o ddolenni cyswllt hanfodol gyda chenedlaethau blaenorol, gall cofnodion Profiant roi tystiolaeth o'r berthynas rhwng pobl a'i gilydd o fewn cenedlaethau, ac maent yn aml yn rhoi golwg ddiddorol iawn ar faterion ariannol pobl o'r gorffennol.

Proses yw Profiant pan gaiff rhywun neu rywrai, ysgutor(ion) Ewyllys fel arfer os oedd Ewyllys, neu un neu ragor o'r perthnasau agosaf os nad oedd Ewyllys, eu penodi yn gyfreithiol i weinyddu ystâd rhywun sydd wedi marw. Fel arfer, nid yw hyn ond yn angenrheidiol os gadawodd yr ymadawedig asedau eithaf sylweddol, felly peidiwch â disgwyl dod o hyd i unrhyw gofnodion Profiant ar gyfer ystâd rhywun a oedd ag ond ychydig neu ddim ystâd o gwbl i'w enw. O safbwynt Profiant mae'r cysyniad o 'ystâd' yn cyfeirio at asedau a ddaliwyd dim ond yn enw unigol y sawl a fu farw, felly nid yw Profiant yn angenrheidiol er mwyn rhyddhau asedau a ddaliwyd ar y cyd gyda pherson arall. Pan wneir cais am Brofiant, rhaid i unrhyw Ewyllys a adawodd yr ymadawedig gael ei chyflwyno i'r Gofrestra Brofiant. Wedi hynny, os bernir bod yr Ewyllys yn ddilys, caiff ei chadw ar ffeil, ac fel arfer mae'n bosib i unrhyw un gael copi ohoni. Ceir rhai eithriadau, fodd bynnag, megis Ewyllysiau aelodau'r teulu Brenhinol. Y pwynt pwysig yw bod Ewyllysiau ar gael oddi wrth y Cofrestrfeydd Profiant dim ond fel sgîl-gynnych o'r broses Brofiant: os nad oedd angen Profiant, yna ni fydd gan y Cofrestrfeydd Profiant unrhyw fath o gofnod o'r ystâd.

^Brig

Dylech gofio y bydd cofnod Profiant, os bydd cofnod, wedi ei ddyddio gryn amser ar ôl dyddiad marwolaeth y sawl dan sylw, felly dechreuwch chwilio o flwyddyn y farwolaeth ymlaen, neu o'r flwyddyn y credwch y bu i'r person dan sylw farw. Fel arfer, dylech ddisgwyl dod o hyd i'r cofnod Profiant o fewn y flwyddyn neu ddwy gyntaf ar ôl dyddiad y farwolaeth, ac, os na ddewch o hyd iddo cyn pen tair blynedd, gallech fel arfer dybio nad oedd Profiant yn angenrheidiol. Fodd bynnag, mewn nifer fechan iawn o achosion, caniateir Profiant nifer o flynyddoedd ar ôl i'r sawl dan sylw farw. Dyma gyngor i chi oddi wrth y bobl broffesiynol: os na ddewch o hyd i gofnod profiant o fewn yr ychydig flynyddoedd cyntaf, yr amser mwyaf tebygol nesaf i chwilio yw'r flwyddyn y bu etifedd(ion) yr ymadawedig farw. Y rheswm am hyn yw mai bryd hynny mae ystâd sydd heb ei gweinyddu fwyaf tebygol o ddod i'r amlwg. Mae'n debyg y bydd pa mor bell yr ydych am fynd gyda'r gwaith chwilio yn dibynnu ar ba mor hanfodol y mae'r sawl dan sylw i'ch gwaith ymchwil, ond hyd yma nid oes unrhyw lwybr carlam: bydd yn rhaid i chi chwilio drwy fynegai pob blwyddyn yn unigol.

Trosglwyddwyd y rheolaeth dros gadw cofnodion Profiant o ddwylo'r Eglwys i ddwylo'r wladwriaeth ym 1858, a phryd hynny, cafodd y cofnodion eu huno mewn un mynegai Calendr. Mae'r mynegeion hyn, sy'n crynhoi'r holl grantiau Profiant yng Nghymru a Lloegr yn ystod blwyddyn benodol, yn gweithredu fel tabl cynnwys i'r ystorfa helaeth o gofnodion a ddelir gan y Cofrestrfeydd Profiant. Os bu testun eich ymchwil farw cyn 1858, bydd yn anos olrhain eu Hewyllys. Fodd bynnag, os oeddent yn gyfoethog iawn neu'n berchen ar lawer o dir, trowch at fynegai Llys Uchelfraint Caergaint (PCC) yn gyntaf, ac yna at fynegeion llysoedd eglwysig llai yr ardal lle'r oedd y person yn byw. Delir cofnodion PCC gan y Ganolfan Cofnodion Teulu yn Llundain (Ffôn: (020) 8392 5300), ond mae cofnodion y llysoedd Profiant eglwysig llai yn wasgaredig iawn. Rhowch gynnig ar archifau'r awdurdod lleol, megis llyfrgelloedd cyhoeddus a Swyddfeydd Cofnodion Sirol yr ardal briodol, a hefyd unrhyw sefydliadau ymchwil hanesyddol lleol. Mae canolfannau eglwysig blaenllaw hefyd yn debygol o fod â'u harchifau eu hunain.

Mae Cyfeirlyfr y Cofrestrfeydd Profiant yn rhestru'r mynegeion Calendr a ddelir gan yr amrywiol Gofrestrfeydd Profiant yng Nghymru a Lloegr. Fel arfer, gallwch alw i mewn i weld y mynegeion, ond holwch y Gofrestrfa dan sylw i ddechrau, yn enwedig os bwriadwch deithio cryn bellter. Caiff y grantiau Profiant ar gyfer pob blwyddyn eu rhestru yn nhrefn yr wyddor, yn ôl cyfenw. Rhannau hanfodol y cofnod Profiant yw'r math o Grant, sef 'Profiant', 'Gweinyddiaeth' neu 'Gweinyddiaeth gydag Ewyllys', y Gofrestrfa sy'n cyflwyno'r grant, a'r dyddiad cyflwyno. Cânt eu hysgrifennu, fel arfer, yn eu trefn tuag at ddiwedd cofnod y mynegai, ond rhydd y llyfrau hyn ddyddiad y grant yn gyntaf gan dynnu sylw at y Gofrestrfa sy'n cyflwyno'r grant yn nhestun y cofnod. Gellir casglu pa fath o grant oedd hwn o'r testun, ond sylwch fod mynegeion cyn 1871 yn rhestru'r grantiau 'Gweinyddiaeth' mewn rhan ar wahân o'r llyfr i'r grantiau 'Profiant' a 'Gweinyddiaeth gydag Ewyllys', felly cofiwch chwilio yn y ddau le gyda blynyddoedd cyn hyn. Hefyd, mae'n bosib y ceir rhif wedi ei ysgrifennu â llaw wrth ymyl cofnodion ar gyfer Ewyllysiau a brofwyd yn y Brif Gofrestrfa Brofiant (Llundain) rhwng 1858 a 1930. Hwn yw'r rhif Ffolio a ddefnyddir gan y Cofrestrfeydd Profiant wrth gael copïau o'r Ewyllys. Cadwch nodyn o hwn bob amser os yw'n berthnasol.

^Brig

Os mai 'Gweinyddiaeth' yw'r math o grant, mae hyn yn dweud wrthych nad adawodd y sawl sydd dan sylw Ewyllys ddilys. Fodd bynnag, mae'n dal yn bosib i'r Cofrestrfeydd Profiant gyflwyno copi o'r grant, sef y ddogfen sy'n enwi'r person a benodwyd yn gyfreithiol i weinyddu'r ystâd. Gall y ddogfen hon gynnwys gwybodaeth am achau, yn enwedig mewn grantiau hyn lle nodwyd y berthynas rhwng yr ymgeisydd a'r ymadawedig. Mae hefyd yn rhoi gwerth yr ystâd, er bod hyn yn y rhan fwyaf o achosion yn cael ei nodi fel 'heb fod dros' ffigur penodol yn hytrach na dyfynnu'r union swm. Yn wir, ychydig iawn o wybodaeth sydd yn y cofnod Profiant am yr ystâd, ac nid oes unrhyw wybodaeth am ei chyfansoddiad. Peidiwch â disgwyl dod o hyd i restr ar ffeil ar gyfer cofnodion ar ôl 1858, er eu bod ambell dro yn ffurfio rhan o'r cofnod Profiant cyn hyn.

Mewn nifer o achosion, gallwch arbed llawer o amser ac arian drwy wneud y gwaith chwilio eich hun, ond mae yna wasanaeth post y gallwch ei ddefnyddio i wneud y gwaith chwilio drwy gyfnod o bedair blynedd ar eich rhan. Codir ffi o £5 am hyn, ond mae'n cynnwys copïau o'r Ewyllys a/neu'r grant os deuir o hyd i gofnod. Mae hefyd yn rhoi i chi fantais profiad y staff Profiant, oherwydd y byddant yn gwybod, er enghraifft, pa bryd i chwilio ac o dan ba enw y mae'r cofnod yn debygol o gael ei restru. Os hoffech i'r Gofrestrfa Brofiant chwilio drwy gyfnod hwy na'r pedair blynedd safonol, codir ffi ychwanegol o £3 am bob cyfnod 4 blynedd ar ôl y pedair gyntaf. Felly, bydd chwilio drwy gyfnod o 8 mlynedd yn costio £8, 12 mlynedd £11, ac yn y blaen.

Os hoffech ddefnyddio'r gwasanaeth hwn, cysylltwch â:
The Postal Searches and Copies Department
The Probate Registry
1st Floor
Castle Chambers
Clifford Street
Caerefrog YO1 9RG
Ffôn: +44 (1904) 666777
Ffacs: +44 (1904) 666776

^Brig

Rhaid gwneud ceisiadau yn ysgrifenedig, gan roi enw llawn, cyfeiriad diwethaf hysbys a dyddiad marwolaeth y sawl sydd dan sylw. Fel arfer, gellir gwneud y gwaith chwilio gan ddefnyddio llai o fanylion, ond os na wyddoch ddyddiad y farwolaeth, rhaid i chi nodi'r flwyddyn lle'r hoffech i'r gwaith chwilio ddechrau, neu roi rhyw dystiolaeth arall a fyddai'n rhoi arwydd posib o ba bryd y bu farw'r unigolyn. Os oes gennych wybodaeth am achosion cyfreithiol sy'n ymwneud â'r Profiant neu drefniad yr asedau, dylech gynnwys honno gyda'ch cais. Mae llawer o bobl yn credu bod archebu copïau fel hyn yn hwylus hyd yn oed os ydynt eisoes wedi chwilio drwy'r mynegeion Profiant ac wedi canfod cofnod yn ymwneud â thestun eu hymchwil, ond os felly, cofiwch gynnwys y math o grant, y Gofrestrfa sy'n cyflwyno'r grant a'r dyddiad cyflwyno ar eich cais, yn ogystal â'r rhif Ffolio os yn berthnasol (gweler uchod) oherwydd gallech gael eich copïau yn llawer cynt fel hyn. Dylai'r ffi fod yn daladwy i "GLlEM neu Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi", ac os ydych yn talu dramor, rhaid i chi ddefnyddio Archeb Arian Ryngwladol neu ddrafft banc, yn daladwy drwy fanc yn y Deyrnas Unedig ac wedi eu hysgrifennu mewn punnoedd sterling. Os ydych yn gwneud cais am wasanaeth chwilio hefyd, gallwch wneud cais am chwilio drwy unrhyw gyfnod, ac mae'r ffioedd ar gyfer hyn wedi eu hamlinellu uchod.

Mae'r cofnodion y cyfeirir atynt yma yn cyfeirio'n unig at ystadau yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r cyswllt i gyfeiriadau y Swyddfeydd Profiant yn dangos pa fynegai sydd gan yr amrywiol Gofrestrfeydd Profiant. Bydd gan y rhan fwyaf o'r Cofrestrfeydd fynegeion sy'n dyddio'n ôl i 1858, ond nid oes yn rhaid iddynt eu cadw am ragor na hanner can mlynedd. Fel arfer, bydd y mynegeion hyn wedi cael eu rhoddi i archifau awdurdodau lleol. Cysylltwch â'ch llyfrgell gyhoeddus leol neu Swyddfa Gofnodion y Sir/Dinas i weld pa gofnodion Profiant sydd ganddynt. Os gwyddoch am unrhyw sefydliad ymchwil hanesyddol yn eich ardal, holwch a oes ganddynt unrhyw gofnodion Profiant. Sylwer, oherwydd bod Cofrestrfa Brofiant Caerefrog yn ganolfan genedlaethol ar gyfer ceisiadau post am wasanaeth chwilio a chopïau, nid oes modd archwilio'r mynegeion Profiant yn bersonol yno.

Bu'r gwasanaeth drwy broses o roi'r cofnodion ar gyfrifiadur, ond hyd yma grantiau a gyflwynwyd yn ddiweddar yn unig a gynhwysir; ychydig o unigolion sy'n casglu achau a fydd â diddordeb yn y rhain. Fodd bynnag, gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn archwilio'r grantiau ers 1996 chwilio cronfa ddata'r Gwasanaeth Profiant eu hunain. Hyd yma, gosodwyd gweithfannau i'r cyhoedd yn y Brif Gofrestrfa Brofiant a Chofrestrfa Brofiant Ardal Manceinion. Mae'r adran gwasanaeth Chwilio a Chopïau drwy'r Post yng Nghaerefrog hefyd yn cwblhau cyfnod maith o roi'r cofnodion ar gyfrifiadur, a dylai hyn sicrhau gwasanaeth llawer gwell i bobl sy'n ymchwilio i hanes eu teuluoedd. Bydd y wybodaeth a geir yn gliriach ac yn fwy cynhwysfawr a chaiff dogfennau eu cyflwyno ynghynt.

Mae'r wybodaeth hon yn seiliedig ar fanylion a gafwyd gan y Gwasanaeth Profiant. Gall y manylion newid heb unrhyw rybudd. Cofiwch ffonio'r Gofrestrfa bob tro cyn mynd draw, er mwyn cael yr amseroedd agor ac i holi a yw'r cofnodion ar gael. Tra gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y manylion hyn, ni ellir dal y Gwasanaeth Profiant yn gyfrifol am ganlyniad unrhyw gamgymeriadau.

 


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 31 October 2005 11:20. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .