English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Adneuo dogfennau i'w cadw'n ddiogel Ail-selio Amdanom Ni Apwyntiadau Cafeatau Canllawiau Ceisiadau am brofiant Chwiliadau ac Ymchwil Cofrestrfeydd Profiant Cynnal chwiliad sefydlog Cysylltu â Ni Deddf Partneriaeth Sifil 2004 Ffioedd Profiant Ffurflenni a taflenni Grantiau Cynrychiolaeth Gweithdrefnau profiant yn yr Alban a Gogledd Iwerddon Llinell Gymorth Profiant a'r Dreth Etifeddu Pam gwneud ewyllys? Rheolau Profiant Tynnu Ewyllysiau o fannau cadw diogel

Adnoddau pellach

Age Concern Canolfan Cyngor ar Bopeth Cofrestrydd Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau Cyllid a Thollau EM Cymdeithas y Gyfraith Gofal Galaru Cruse Help the Aged Llysoedd Gogledd Iwerddon Llysoedd Ynys Manaw Llysoedd yr Alban Swyddfa Gwarchodaeth y Cyhoedd

Cynnal chwiliad sefydlog


Beth yw chwiliad sefydlog?

Beth yw grant cynrychiolaeth?

A roddir grant mewn perthynas â phob ystâd?

Sut ydw i'n trefnu chwiliad sefydlog?

Beth sy'n digwydd nesaf?

Beth os nad wyf yn derbyn copi o grant drwy'r post?

Beth ddylwn i ei wneud os gwelaf fy mod wedi rhoi'r manylion anghywir?

Alla' i adnewyddu fy chwiliad sefydlog?

Beth yw oriau agor y Cofrestrfeydd Profiant?

Rwyf eisiau chwiliad cyffredinol yn hytrach na chwiliad sefydlog, beth ddylwn i ei wneud?


Beth yw chwiliad sefydlog?

I'r rhan fwyaf o ddibenion, mae chwiliad cyffredinol yn fwy addas na chwiliad sefydlog. Fodd bynnag, gall chwiliad sefydlog fod yn ddefnyddiol yn yr amgylchiadau canlynol:

Mae dwy swyddogaeth i chwiliad sefydlog:

Mae chwiliad sefydlog yn rhoi hawl i chi gael copi o'r grant cynrychiolaeth a'r ewyllys (os oes un). Os ydych eisiau cynnal chwiliad cyffredinol yn hytrach na chwiliad sefydlog, rhoddir manylion yn ddiweddarach yn y ffurflen hon.

^Brig


Beth yw grant cynrychiolaeth?

Grant cynrychiolaeth yw dogfen a roddir gan yr Uchel Lys i ysgutorion neu weinyddwyr ystâd sy'n rhoi awdurdod iddynt gasglu a gweinyddu'r ystâd. Ceir tri phrif fath o grant:

A roddir grant mewn perthynas â phob ystâd?

Na. Mewn rhai achosion caiff yr ysgutorion neu'r gweinyddwyr ryddhau'r holl asedion yn yr ystâd heb fod angen iddynt gael grant cynrychiolaeth. Mae hyn yn berthnasol i'r rhan fwyaf o ystadau bychain (h.y. lle bo'r ymadawedig wedi gadael llai na £5000) ac yn aml i ystadau lle'r oedd yr holl asedau ym meddiant enwau ar y cyd. Os na roddwyd grant, nid oes gennym unrhyw fanylion am yr ystâd honno ac felly nid oes modd i ni roi unrhyw fanylion i chi.

^Brig

Sut ydw i'n trefnu chwiliad sefydlog?

Er mwyn trefnu chwiliad sefydlog rhaid i chi lenwi ffurflen chwiliad sefydlog. Mae modd i chi gael ffurflen o unrhyw Gofrestrfa Brofiant Ddosbarth, Is-Gofrestrfa Ddosbarth, neu'r Brif Gofrestrfa. Os ydych chi'n dwrnai, mae manylion am y ffurflen chwiliad sefydlog ar gael yn y Tristram and Cootes cyfredol, sef "Probate Practice". Rhaid i chi gwblhau'r holl fanylion y gofynnir amdanynt ar y ffurflen:

Enwau llawn yr ymadawedig (enwau cyntaf a chyfenw), gan gynnwys unrhyw enwau yr oedd yr ymadawedig yn cael ei adnabod wrthynt, a'r enw y cofrestrwyd y farwolaeth dano.

Rhaid i chi ddarparu manylion llawn a chywir am yr ymadawedig i ni. Gwneir y chwiliad drwy wirio'r manylion a roddwyd gennych chi yn erbyn ein cofnodion ni. Os rhoddwch fanylion anghywir, mae'n annhebygol y bydd eich chwiliad yn llwyddiannus.

Gallwch un ai ddanfon y ffurflen yn bersonol neu ei hanfon i mewn ynghyd â'r ffi o £5.00 at un ai:

a) Yr Adran Brofiant

Adran y Ceidwad Cofnodion
Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu
First Avenue House
42 -49 High Holborn
Llundain WC1V 6NP

neu b) Unrhyw Gofrestrfa Brofiant neu Is-Gofrestrfa Brofiant

Dylai sieciau/archebion post fod wedi eu gwneud yn daladwy i "HMCS" (Rhaid i sieciau a gyflwynir yn bersonol gael eu cefnogi gan gerdyn gwarantu siec).

^Brig

Beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwch yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig fod y chwiliad sefydlog wedi'i drefnu. Bydd y llythyr hwnnw'n rhoi i chi'r cyfeirnod a roddwyd i'ch chwiliad sefydlog, a rhaid ei ddyfynnu ar bob gohebiaeth.

Ar yr amod eich bod wedi rhoi manylion llawn a chywir yr ymadawedig, pe digwydd i grant gael ei roddi cyn i'ch chwiliad sefydlog ddod i ben, anfonir copi i chi drwy'r post.

Beth os nad wyf yn derbyn copi o grant drwy'r post?

Os na fyddwch yn derbyn copi o grant cynrychiolaeth drwy'r post, mae'n golygu na roddwyd grant sy'n cyfateb i'r manylion a ddarparwyd gennych.

Beth ddylwn i ei wneud os gwelaf fy mod wedi rhoi'r manylion anghywir?

Hysbysu'r Gofrestrfa ble y bu i chi drefnu'ch chwiliad sefydlog yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl, gan ddarparu'r manylion cywir ar eu cyfer.

^Brig

Alla' i adnewyddu fy chwiliad sefydlog?

Gallwch. Gellir adnewyddu'r chwiliad sefydlog yn y mis olaf (h.y. y chweched), e.e. os dechreuodd eich chwiliad sefydlog ar 1 Ionawr byddai'n dod i ben ar 1 Gorffennaf. Felly gellir ei adnewyddu rhwng 2 Mehefin a 30 Mehefin.

Ysgrifennwch lythyr yn gwneud cais i adnewyddu chwiliad sefydlog, gan ddyfynnu rhif y chwiliad sefydlog ac enw'r ymadawedig. Un ai anfonwch y llythyr, neu ewch ag ef yn bersonol i'r Gofrestrfa lle trefnoch chi eich chwiliad sefydlog. Rhaid i chi hefyd amgáu'r ffi adnewyddu o £5.00. Os ydych yn gwneud cais drwy'r post, sicrhewch eich bod yn gadael digon o amser iddo gael ei adnewyddu cyn y dyddiad terfynu.

Os yw'ch chwiliad sefydlog wedi dod i ben, rhaid i chi drefnu chwiliad sefydlog arall.

Beth yw oriau agor y Cofrestrfeydd Profiant?

Gall yr amseroedd agor amrywio, felly argymhellwn eich bod bob amser yn ffonio cyn mynd yno. Os nad oes modd i chi gael y rhif ffôn neu'r cyfeiriad o'ch cyfeirlyfr ffôn lleol, gallwch gael y manylion o Adran y Ceidwad Cofnodion, Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu, First Avenue House, 42-49 High Holborn, Llundain WC1V 6NP (Ffôn: 020 7947 6000) Minicom 020 7947 7602. I ddod o hyd i'ch cofrestrfa agosaf, cyfeirier at y Cyfeiriadur Cofrestrfeydd Profiant.

^Brig

Rwyf eisiau chwiliad cyffredinol yn hytrach na chwiliad sefydlog, beth ddylwn i ei wneud?

Dylech un ai

Gweler y sylwadau uchod os gwelwch yn dda ynglyn â darparu'r wybodaeth lawnaf bosibl i alluogi gwneud y chwiliad.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 07 August 2007 11:48. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .