English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Adneuo dogfennau i'w cadw'n ddiogel Ail-selio Amdanom Ni Apwyntiadau Cafeatau Canllawiau Ceisiadau am brofiant Chwiliadau ac Ymchwil Cofrestrfeydd Profiant Cynnal chwiliad sefydlog Cysylltu â Ni Deddf Partneriaeth Sifil 2004 Ffioedd Profiant Ffurflenni a taflenni Grantiau Cynrychiolaeth Gweithdrefnau profiant yn yr Alban a Gogledd Iwerddon Llinell Gymorth Profiant a'r Dreth Etifeddu Pam gwneud ewyllys? Rheolau Profiant Tynnu Ewyllysiau o fannau cadw diogel

Adnoddau pellach

Age Concern Canolfan Cyngor ar Bopeth Cofrestrydd Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau Cyllid a Thollau EM Cymdeithas y Gyfraith Gofal Galaru Cruse Help the Aged Llysoedd Gogledd Iwerddon Llysoedd Ynys Manaw Llysoedd yr Alban Swyddfa Gwarchodaeth y Cyhoedd

Canllawiau ar gael copïau o gofnodion profiant ac ewyllysiau


Beth yw Grant Cynrychiolaeth?

Sut ydw i'n darganfod a gymrwyd Grant ai peidio?

Ym mhle y cedwir y Calendrau?

Beth os nad oes modd i mi fynd i First Avenue House neu i Gofrestrfa?

Beth os nad oes gen i'r wybodaeth gyflawn?

Beth os na allaf ddod o hyd i gofnod yn y Calendr?

Beth yw Chwiliad Sefydlog?

Rwy'n gwybod manylion y Grant a'r ewyllys - sut alla' i gael y copïau a ddymunaf?

Faint o amser mae'n cymryd i gael copïau?

Faint mae'n ei gostio?

Beth am Gofnodion Profiant cyn 1858?

Cyfeiriadau

Rhagor o Wybodaeth

Beth yw Grant Cynrychiolaeth?

Grant Cynrychiolaeth yw dogfen a gyhoeddir gan y Llys sy'n galluogi'r person(au) a enwir ynddi i ymdrin ag asedion ac eiddo ['ystâd'] yr ymadawedig. Mae'n caniatáu casglu'r arian sydd mewn banciau, cymdeithasau adeiladu ayb., i eiddo gael ei werthu neu ei drosglwyddo, ac i ddyledion gael eu talu. Ceir tri math o grant cynrychiolaeth:

Mae'r holl ddogfennau hyn yn rhoi'r un awdurdod i weinyddu'r ystâd. Drwy'r canllawiau hyn, defnyddir y gair 'grant' i ddisgrifio pob un o'r tri.

^Brig

Sut ydw i'n darganfod a gymrwyd Grant ai peidio?

Nid oes unrhyw gyfyngiad amser, erbyn pryd y mae'n rhaid cael Grant. Gellir gweld drwy chwilio'r Calendr Profiant [Mynegai Cenedlaethol] a oes grant wedi'i roi ai peidio. Ceir calendr ar gyfer pob blwyddyn o 1858 i'r presennol. Cyn 1973, yr oedd y calendrau ar ffurf llyfrau, ond ar ôl hynny cofnodwyd hwy ar microfiche. Ers 1998, cedwir y calendr o 1996 ymlaen ar gyfrifiadur. Gwneir cofnod yn y calendr yn y flwyddyn pryd y rhoddwyd grant [nid o angenrheidrwydd y flwyddyn y bu'r ymadawedig farw] ac fe'u trefnir yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw'r ymadawedig. Mae'r wybodaeth a roddir yn y calendrau wedi newid ychydig dros y blynyddoedd, ond bydd pob cofnod yn cynnwys y manylion canlynol:

Mae'r calendrau'n cynnwys yr holl grantiau a roddwyd yng Nghymru a Lloegr.

Ni chodir unrhyw dâl arnoch am chwilio'r calendrau eich hun. Os byddwch angen unrhyw help, gall y staff egluro i chi sut i wneud hyn.

^Brig

Ym mhle y cedwir y Calendrau?

Yr unig le lle ceir cyfres gyflawn o galendrau [o 1858] sydd ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd yw First Avenue House yn Llundain. Mae gan y rhan fwyaf o Gofrestrfeydd Profiant Dosbarth galendrau ar gyfer yr hanner can mlynedd diwethaf. Os ydych yn bwriadu ymweld â Chofrestrfa'n benodol ar gyfer edrych ar y cofnodion, argymhellir eich bod yn cysylltu â'r Gofrestrfa ymlaen llaw [ceir rhestr o gyfeiriadau a rhifau ffôn dros y dudalen], i holi beth sydd ar gael.

Beth os nad oes modd i mi fynd i First Avenue House neu i Gofrestrfa?

Fe wnaiff swyddogion y Gofrestrfa gynnal chwiliad ar eich rhan. Codir tâl am hyn, ond os deuir o hyd i grant, bydd y ffi chwilio'n cynnwys darparu copi o'r grant a'r Ewyllys [os oes un].

Rhaid i chi ysgrifennu at yr Adran Chwiliadau a Chopïau drwy'r Post yng Nghaerefrog (Yr Adran Chwiliadau a Chopïau drwy'r Post, Is-Gofrestrfa Brofiant Caerefrog, Llawr Cyntaf, Siambrau'r Castell, Stryd Clifford, Caerefrog YO1 9RG) gan roi enw llawn, cyfeiriad a dyddiad marwolaeth yr ymadawedig, gan ddatgan yr hyn yr ydych ei eisiau ac amgáu'r ffi briodol.

Ni ellir derbyn ceisiadau dros y ffôn.

^Brig

Beth os nad oes gen i'r wybodaeth gyflawn?

Os ydych yn barod i dreulio amser ar y mater, efallai y bydd modd i chi ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano gydag ychydig iawn o wybodaeth ar wahân i gyfenw'r ymadawedig.

Os gofynnwch i'r Gofrestrfa wneud chwiliad ar eich rhan, fe wnawn ein gorau gyda pha wybodaeth bynnag a roddir gennych, ond heb yr enw llawn cywir o leiaf, ac o ba flwyddyn y dymunwch i'r chwiliad gychwyn, ni fydd modd i ni ganfod y cofnod cywir.

Beth os na allaf ddod o hyd i gofnod yn y Calendr?

Os digwyddodd y farwolaeth amser maith yn ôl [blynyddoedd], mae'n debyg ei fod yn golygu nad oedd angen grant, ac o'r herwydd, ni fydd modd i ni eich cynorthwyo ymhellach. Os oedd y farwolaeth yn fwy diweddar, gallai olygu un ai nad oedd angen grant, neu nad oes grant wedi'i gael hyd yma. Os ydych o'r farn ei bod yn debygol y gwneir grant, gallwch aros am ychydig amser cyn gwneud chwiliad pellach, neu ofyn am 'chwiliad sefydlog' o'r ystâd.

^Brig

Beth yw Chwiliad Sefydlog?

Mae chwiliad sefydlog yn ddilys am chwe mis, ac os cyhoeddir grant o fewn y cyfnod hwnnw, byddwch yn derbyn copi o'r grant a chopi o'r Ewyllys yn awtomatig.

Mae modd i chi ymestyn chwiliad sefydlog am gyfnodau pellach o chwe mis hyd nes eich bod un ai'n derbyn copi neu'n dod i'r casgliad ei bod yn annhebygol y cymrwyd grant.

Rwy'n gwybod manylion y Grant - sut alla' i gael y copïau a ddymunaf?

Unwaith eich bod yn gwybod pryd a ble y cyhoeddwyd grant, mae modd i chi gael copïau o'r Grant a'r Ewyllys [os oes un]. Cewch archebu copïau yn First Avenue House neu yn unrhyw Gofrestrfa Brofiant Ddosbarth. Dylech nodi enw llawn yr ymadawedig, dyddiad y grant, y Gofrestrfa ble y cyhoeddwyd ef, pa gopïau yr ydych eu heisiau, a thalu'r ffi briodol. Mae modd i chi archebu copïau drwy'r post neu drwy fynd i unrhyw Gofrestrfa. Ni ellir derbyn archebion dros y ffôn.

^Brig

Faint o amser mae'n cymryd i gael copïau?

Mae'r amser a gymerir i gyflenwi copïau'n amrywio, gan ddibynnu ar ble y cedwir y dogfennau gwreiddiol. Mewn rhai achosion, efallai y bydd modd i ni roi copi i chi 'yn y fan a'r lle', ond yn gyffredinol mae'n rhaid i ni eu harchebu o'r fan lle cedwir y dogfennau gwreiddiol.

Nod y Gwasanaeth Profiant yw cyflenwi copïau o fewn 21 diwrnod gwaith i dderbyn eich cais.

Faint mae'n ei gostio?

Dylid talu gyda siec neu archeb bost, yn daladwy i Wasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi ("HMCS").

Os ydych yn gwneud cais o'r tu allan i'r DU, dylid talu gydag archeb arian rhyngwladol mewn punnoedd sterling. Os byddwch yn mynd i swyddfa'n bersonol, yna wrth gwrs gallwch dalu mewn arian parod.

^Brig

Beth am Gofnodion Profiant cyn 1858?

Nid yw'r Gwasanaeth Profiant yn dal unrhyw gofnodion na dogfennau cyn 1858. Os ydych angen gwybodaeth am y rhain, argymhellir i chi gysylltu â:

Y Ganolfan Cofnodion Teuluol,
1 Myddelton Street,
Llundain EC1R 1UW

Rhif ffôn 020 8392 5300

neu archifydd eich awdurdod lleol am gyfarwyddyd.

Cyfeiriadau

Gellir archwilio calendrau ac archebu copïau yn unrhyw un o'r swyddfeydd a nodir isod:

Birmingham: The Priory Courts, 33 Bull Street, B4 6DU
Ffôn 0121 681 3400

Brighton: William Street, BN2 2LG
Ffôn 01273 573510

Bryste: The Crescent Centre, Temple Back,BS1 6EP
Ffôn 0117 927 3915

Caerdydd: 2 Heol y Parc, CF10 1TB
Ffôn 029 2037 6467

Ipswich: Llawr Daear, 8 Arcade Street, Ipswich, IP1 1EJ
Ffôn 01473 284 260

Leeds: 3ydd Llawr, Coronet House, Queen Street, LS1 2B4
Ffôn 0113 386 3540

Lerpwl: Queen Elizabeth II Law Courts, Derby Square, L2 1XA
Ffôn 0151 236 8264

Llundain: Y Ceidwad Cofnodion, Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu, First Avenue House, 42 - 49 High Holborn, Llundain WC1V 6NP
Ffôn 020 7947 7000

Manceinion: 9fed Llawr, Astley House, Quay Street, M3 4AT
Ffôn 0161 834 4319

Newcastle-Upon-Tyne: 2il Lawr, Plummer House, Croft St, NE1 6NP
Ffôn 0191 261 8383

Rhydychen: Oxford Combined Court Building, St. Aldates, Oxford. OX1 1LY Ffôn 01865 793055

Caerwynt : 4ydd Llawr, Cromwell House, Andover Road, SO23 7EW
Ffôn 01962 897024

^Brig

Mwy o Wybodaeth

Mae'r cyfarwyddyd hwn yn esbonio'r drefn ar gyfer cael copïau pan fo grantiau wedi'u cyhoeddi yng Nghymru a Lloegr, am wybodaeth ynglyn â grantiau a gyhoeddwyd mewn rhannau eraill o'r DU ac yng Ngweriniaeth Iwerddon dylech gysylltu â'r canlynol:

Yr Alban: H M General Register Office

Hyd at 1985: H M Register Office, H M Register House Princes Street, Caeredin EH1 3YY
Ffôn 0131 535 1352

Ar ôl 1985: H M Commissary Office, 27 Chambers St, Caeredin EH1 1LB
Ffôn 0131 247 2850

Gogledd Iwerddon: Probate & Matrimonial Office, Royal Courts of Justice [Ulster], Chichester Street, Belfast BT1 3JF
Ffôn 028 9023 5111

Gweriniaeth Iwerddon: Probate Office, Four Courts, Dulyn
Ffôn Dulyn 725555

Os ydych angen mwy o wybodaeth cewch gysylltu ag unrhyw Gofrestrfa Brofiant.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 01 November 2005 16:37. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .