Grant Profiant
A oes angen grant ym mhob achos?
Nac oes.
- Mae'n bosib na fydd angen cael grant lle bo cartref ym meddiant enwau ar y cyd a'i fod yn trosglwyddo, fel mater o drefn, i'r cydberchennog arall sy'n goroesi.
- Mewn sefyllfa lle ceir cyfrif ar y cyd mewn banc neu gymdeithas adeiladu, gall dangos tystysgrif farwolaeth fod yn ddigon i drosglwyddo'r arian i'r cyd-ddeiliad.
- Mae'n bosib y bydd rhai sefydliadau'n rhyddhau arian heb ddangos grant, os nad oedd llawer o arian gan yr ymadawedig. Gofynnwch i'r sefydliadau a fyddent yn rhyddhau arian heb grant.
Os nad yw'r amgylchiadau uchod yn berthnasol neu os yw'r sefydliadau dan sylw yn eich hysbysu bod angen grant, yna cysylltwch ag un o'r cyfeiriadau dros y dudalen am wybodaeth bellach. Gall staff y Cofrestrfeydd Profiant gynnig cyfarwyddyd ynglyn â'r drefn ar gyfer cael grant; dydyn nhw ddim yn gallu rhoi cyngor cyfreithiol.
Sylwch: Mae'r cyfarwyddyd Sut i gael profiant - Ffurflen PA2 yn rhan o'r pecyn a roddir i ymgeiswyr pan fyddant yn gwneud cais am brofiant.
Beth yw ei bwrpas?
Mae'r grant yn brawf bod gan y person neu bersonau a enwir ynddo'r hawl i gasglu a dosbarthu arian neu asedion eraill yr ymadawedig ac y gellir ei ddangos i'r sefydliadau hynny (banciau, cymdeithasau adeiladu ayb) sy'n dal yr asedau hynny.
Beth yw grant profiant/llythyrau gweinyddu?
Dogfen gyfreithiol sy'n rhoi hawl i'r person neu'r personau a enwir ynddi i gasglu a dosbarthu ystâd (eiddo, arian, meddiannau ayb) yr ymadawedig.
Profiant yw'r broses o brofi dilysrwydd ewyllys yn swyddogol, ond mae'r wybodaeth yn y daflen hon yr un mor berthnasol i sefyllfa lle bo'r ymadawedig wedi marw heb adael ewyllys. Mewn sefyllfa o'r fath gelwir y grant yn 'llythyrau gweinyddu'.
