Gaf i gasglu dogfennau sydd wedi eu cadw'n ddiogel?
Pa ddogfennau y gellir eu hadneuo er mwyn eu cadw'n ddiogel?
A godir tâl am dynnu allan ewyllys neu godisil sy'n cael eu cadw'n ddiogel?
Pwy gaiff dynnu allan ewyllys sydd wedi ei chadw'n ddiogel?
Sut mae gwneud cais i dynnu allan ewyllys sydd wedi ei chadw'n ddiogel?
Pa ddogfennau y gellir eu hadneuo er mwyn eu cadw'n ddiogel?
Gellir cyflwyno ewyllys, neu godisil (dogfen destament yn addasu ewyllys), neu'r ddau ynghyd, i'r Uchel Lys Barn, er mwyn eu cadw'n ddiogel. Y ffi ar gyfer adneuo ewyllys yw £15 - os carech chi gael mwy o fanylion am adneuo ewyllys (neu godisil), gofynnwch am y daflen 'Rwyf eisiau adneuo fy ewyllys er mwyn ei chadw'n ddiogel ym Mhrif Gofrestrfa'r Adran Deulu'. Adneuir pob ewyllys/codisil gyda'r Uchel Lys yn unol ag Adran 126 Deddf Goruchel Lys 1981, ac unwaith iddynt gael eu hadneuo, dônt dan reolaeth a chyfarwyddyd yr Uchel Lys. Pennir y trefniadau ar gyfer adneuo a chasglu'r dogfennau hynny a gedwir yn ddiogel trwy statud ac, o'r herwydd, rhaid glynu'n gaeth wrth y trefniadau hynny. Dylech gofio hyn os ydych chi'n gwneud cais i dynnu dogfen allan.
A godir tâl am dynnu allan ewyllys neu godisil sy'n cael eu cadw'n ddiogel?
Na. Ni chodir unrhyw dâl am dynnu allan ewyllys neu godisil sy'n cael eu cadw'n ddiogel.
Yng ngweddill y ffurflen hon, defnyddir y term 'ewyllys', ond mae'r un drefn yn berthnasol os ydych chi'n tynnu allan ewyllys, a/neu godisil.
Pwy gaiff dynnu allan ewyllys sydd wedi ei chadw'n ddiogel?
Yn ystod oes yr ewyllysiwr (h.y. y person a wnaeth yr ewyllys) dim ond yr ewyllysiwr a gaiff wneud cais i dynnu'r ewyllys allan. Ar ôl i'r ewyllysiwr farw, caiff un (neu fwy) o'r ysgutorion wneud cais. Mae ysgutor yn berson a benodwyd yn yr ewyllys i gyflawni telerau'r ewyllys. Dan amgylchiadau eithriadol, os nad oes ysgutorion, gall eraill wneud cais, ond mewn sefyllfa o'r fath, rhaid cael caniatâd Barnwr Rhanbarth i sicrhau bod yr ewyllys yn cael ei rhoi i'r person cywir.
Rhaid i'r Ceidwad Cofnodion sicrhau bod yr ewyllys yn cael ei rhoi i'r person cywir. Ar ôl derbyn prawf o farwolaeth, agorir yr amlen adneuo sy'n cynnwys yr ewyllys. Yn ddieithriad, cyn i ewyllys gael ei chasglu o gael ei chadw'n ddiogel, rhaid sefydlu mai'r person sy'n gwneud y cais yw'r union berson (neu un o'r bobl) sydd â hawl i dderbyn yr ewyllys yn unol â'r rheolau a'r statudau sy'n llywodraethu arferion profiant.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y rheolau a'r statudau sy'n llywodraethu arferion profiant, gellir cael manylion yn y llyfr canlynol a ddylai fod ar gael yn eich llyfrgell gyfeirio leol - Tristram and Cootes, 'Probate Practice', 28ain Rhifyn.
Sut ydw i'n gwneud cais i dynnu allan ewyllys sydd wedi ei chadw'n ddiogel?
Mae'r tabl isod yn cynnwys manylion llawn am sut i dynnu allan ewyllys sydd wedi ei chadw'n ddiogel naill ai yn ystod oes yr ewyllysiwr neu ar ôl iddo/iddi farw.
Sut i dynnu allan eich ewyllys eich hun, a honno wedi ei chadw'n ddiogel
- Os nad oes gennych chi ffurflen dynnu allan yn barod, gallwch gael un o Adran y Ceidwad Cofnodion, Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu (rhoddir y cyfeiriad a'r rhif ffôn ar ddiwedd y tabl hwn).
- Llenwch y ffurflen dynnu allan yn gyflawn.
- Anfonwch y ffurflen dynnu allan a'ch tystysgrif adneuo wreiddiol at:
Adran y Ceidwad Cofnodion
Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu
First Avenue House
42 - 49 High Holborn
Llundain WC1V 6NP
(Ffôn: 020 7947 6948)
Textphone 18001 020 7947 7389 - Os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i'ch tystysgrif adneuo wreiddiol, rhaid i chi ysgrifennu llythyr at y Ceidwad Cofnodion yn esbonio eich bod wedi chwilio'n ddyfal, ond eich bod wedi methu â chanfod y dystysgrif adneuo wreiddiol A HEFYD pe baech yn canfod y dystysgrif wreiddiol yn ddiweddarach, y byddech yn ei hanfon ymlaen ar unwaith. Dylid anfon y llythyr hwnnw wedyn i Adran y Ceidwad Cofnodion.
- Yn amodol ar i'r ffurflenni cywir gael eu derbyn, dychwelir eich ewyllys i chi trwy'r post cofrestredig neu gofnodedig.
- Rhaid i chi lenwi'r ffurflen cydnabyddiad derbyn a'i dychwelyd i Adran y Ceidwad Cofnodion (rhoddir y cyfeiriad uchod).
- Mae'r broses tynnu allan wedi ei chwblhau.
Sut i dynnu allan ewyllys ar ôl i'r ewyllysiwr farw
- Os nad oes gennych ffurflen dynnu allan eisoes, gellir cael ffurflen o Adran y Ceidwad Cofnodion, Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu.
- Rhaid i chi wneud yn siŵr bod gennych chi hawl i wneud cais i dynnu'r ewyllys allan.
- Ydych chi'n un o'r ysgutorion?
- Os nad ydych chi, mae'n bosib na chewch chi gasglu'r ewyllys sydd wedi ei chadw'n ddiogel, ac fe allai fod yn well i chi wneud yn siwr, cyn gwneud y cais, rhag i chi gael eich siomi.
- Llenwch y ffurflen dynnu allan yn gyflawn
- Anfonwch y ffurflen dynnu allan, gyda chopi swyddogol o'r dystysgrif farwolaeth (ni dderbynnir llungopïau heblaw bod twrnai wedi tystio eu bod yn wir ac yn gywir) a'r dystysgrif adneuo wreiddiol i:
Adran y Ceidwad Cofnodion
Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu
First Avenue House
42 - 49 High Holborn
Llundain WC1V 6NP
(Ffôn: 020 7947 6000)
Minicom 020 7947 7602 - Os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i'r dystysgrif adneuo wreiddiol, rhaid i chi ysgrifennu llythyr at y Ceidwad Cofnodion yn esbonio eich bod wedi chwilio'n ddyfal, ond eich bod wedi methu â chanfod y dystysgrif adneuo wreiddiol A HEFYD pe baech yn canfod y dystysgrif wreiddiol yn ddiweddarach, y byddech yn ei hanfon ymlaen ar unwaith. Dylid anfon y llythyr hwnnw wedyn i Adran y Ceidwad Cofnodion.
- Yn amodol ar i'r ffurflenni cywir gael eu derbyn a bod eich hawl i dynnu'r ewyllys allan yn cael ei gadarnhau (gweler paragraff 2 y tabl hwn), dychwelir yr ewyllys i chi trwy'r post cofrestredig neu gofnodedig.
- Rhaid i chi lenwi'r ffurflen cydnabyddiad derbyn a'i dychwelyd i Adran y Ceidwad Cofnodion.
- Mae'r broses tynnu allan wedi ei chwblhau.
Credaf y gallai'r ymadawedig fod wedi gadael ewyllys gyda'r Uchel Lys, i'w chadw'n ddiogel. Oes modd i mi chwilio, a gwirio hynny?
Oes. Anfonwch gopi swyddogol o'r dystysgrif farwolaeth (neu lungopi y mae twrnai wedi tystio ei fod yn wir ac yn gywir) gyda llythyr yn gofyn am archwiliad o gofrestr yr ewyllysiau sy'n cael eu cadw'n ddiogel. Cyfeiriwch eich llythyr at y Clerc Cadw'n Ddiogel, Adran y Ceidwad Cofnodion, First Avenue House, 42-49 High Holborn, Llundain, WC1V 6NP
