Adran Mainc y Frenhines
Uned Cefnogi Meistri a Llysoedd Barn Brenhinol y Broses Dramor
Amdanom ni | Ein gwaith | Sut i ddod o hyd i ni | Safonau a Thargedau | Adborth
Croeso i Adran Gweithredu Adran Mainc y Frenhines, Uned Cefnogi Meistri a Phroses Dramor sydd wedi'u lleoli yn y Llysoedd Barn Brenhinol (LlBB).
Yma, fe welwch fanylion y gwaith a wneir ym mhob adran ynghyd â nodiadau cyfarwyddyd perthnasol, ffurflenni a ddefnyddir yn aml, rotâu, rhestri a manylion cysylltu. Gobeithiwn y gallwch ganfod unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn gyflym.
Er cysondeb, mae'r gair "llys" yn cyfeirio at "Adran Gweithredu Adran Mainc y Frenhines, Uned Cefnogi Meistri a Phroses Dramor" oni nodir fel arall.
Un o dair adran yr Uchel Lys yw Adran Mainc y Frenhines, ynghyd â'r Adran Siawnsri a'r Adran Deulu. Yr Arglwydd Brif Ustus yw Llywydd Adran Mainc y Frenhines, a chlustnodir rhai Barnwyr a Meistri Uchel Lys iddi. Mae Arglwydd Ustus Apêl wedi'i benodi gan yr Arglwydd Brif Ustus i fod yn Is-lywydd yr Adran; penodir Barnwr Uchel Lys yn Farnwr â gofal am y Rhestr Rheithgor; a phenodir un arall yn Farnwr â gofal am y Rhestr Treialon.
Y tu allan i Lundain, gweinyddir gwaith Adran Mainc y Frenhines gan swyddfeydd taleithiol a elwir yn Gofrestrfeydd Dosbarth. Yn Llundain, gweinyddir y gwaith fel arfer yn Swyddfa Ganolog y Llysoedd Barn Brenhinol. Cyfrifoldeb yr Uwch Feistr yw'r gwaith yn Swyddfa Ganolog Adran Mainc y Frenhines, dan awdurdod yr Arglwydd Brif Ustus.
Mae gwaith Adran Mainc y Frenhines (gyda rhai eithriadau) yn cael ei lywodraethu gan y Rheolau Trefniadaeth Sifil (RhTS). Mae'r Llys Adrannol, y Llys Morlys, y Llys Masnachol a'r Llys Technoleg ac Adeiladwaith i gyd yn rhan o Adran Mainc y Frenhines. Er hynny, mae pob un yn gwneud gwaith arbenigol sy'n gofyn bod ganddynt eu trefn neilltuol sydd, i raddau, yn diwygio'r Rheolau Trefniadaeth Sifil. Am y rheswm hwn, mae pob un yn cyhoeddi ei Ganllawiau neu ei Gyfarwyddyd Ymarfer ei hun, a dylai partïon sydd am fynd â'u hachosion i'r llysoedd arbenigol hyn eu darllen.
Mae gwaith Adran Mainc y Frenhines yn cynnwys hawliadau am y canlynol gan mwyaf:
1. iawndal ar gyfer
- anaf personol
- esgeulustod,
- torri contract, a
- enllib ac athrod (difenwi),
2. peidio â thalu dyled, a
3. meddiant tir neu eiddo.
Bydd achosion a gedwir yn Swyddfa Ganolog Adran Mainc y Frenhines bron bob tro'n hawliadau amldrac.
Mewn sawl math o achos - er enghraifft, hawliadau o esgeulustod gan dwrneiod, cyfrifwyr, ayb. neu hawliadau am feddiant tir - mae gan yr hawlydd ddewis cyflwyno'r achos yn Adran Mainc y Frenhines neu yn yr Adran Siawnsri. Fodd bynnag, mae rhai hawliadau penodol sy'n gorfod cael eu cyflwyno yn Adran Mainc y Frenhines, sef:
- Achosion rhyngbledio'r siryf, (gweler Rheol 17 Rheolau'r Goruchaf Lys am wybodaeth bellach)
- Cofrestru gweithredoedd,
- Cofrestru dyfarniadau tramor dan Ddeddf Dyfarniadau ac Awdurdodaeth Sifil 1982,
- Ceisiadau am fechnïaeth mewn achosion troseddol,
- Ceisiadau dan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1920 a Deddf Dyfarniadau Tramor (Gorfodaeth Bob-ffordd) 1933,
- Cofrestru a bodloni Biliau Gwerthiant,
- Deisebau Etholiadol,
- Cael tystiolaeth ar gyfer llysoedd tramor.
Am eglurhad cyffredinol o waith ac ymarfer Adran Mainc y Frenhines, ac achosion a gychwynnir yn y Swyddfa Ganolog yn benodol, darllenwch Ganllawiau Mainc y Frenhines (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg) a baratoir gan yr Uwch Feistr.
Cyhoeddi a'r Gofrestrfa | Uned Cefnogi Meistri | Dyfarniadau a Gorchmynion | Proses Dramor | Gwaith Arall
Y Llys hwn sy'n gweinyddu'r gwaith yr ymdrinnir ag ef gan Feistri Adran Mainc y Frenhines. Rhennir y gwaith a wnawn yn wahanol adrannau o fewn y Llys. Dyma grynodeb byr o waith pob adran
-
Cyhoeddi a'r Gofrestrfa
- Cyflwyno Ffurflenni Hawlio
- Datgelu Cyn Gweithredu
- Tystysgrifau Cyflwyno
- Ffeilio Cydnabyddiaethau
- Addefiadau
- Addefiad Rhannol
- Amddiffyniadau
- Amddiffyn a Gwrth-hawliadau
- Holiaduron Dyrannu
- Gwysion i Dystio
- Ffeilio Tystysgrifau'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol
- Hysbysiadau
- Chwiliadau Cyhoeddus a cheisiadau am Gopïau Swyddfa
-
Uned Cefnogi Meistri
- Cyflwyno a rhestru Ceisiadau cyffredinol gerbron Meistri Mainc y Frenhines
- Rheoli Achosion
- Cefnogaeth weinyddol i Feistri Mainc y Frenhines
-
Dyfarniadau a Gorchmynion
- Selio gorchmynion Meistri a Barnwyr
- Gorfodi Dyfarniadau
- Cofrestru Dyfarniadau Tramor
- Gweithredoedd Newid Enw
- Dyledion Llyfr
- Cofrestru Biliau Gwerthiant
- Dyfarniadau Iawndal Amodol a Chyflafareddu
- Rhestru gwrandawiadau Dyledwyr Dyfarniad
- Trosglwyddo i mewn ac allan o achosion
- Tyngu Llwon a Chadarnhadau
-
Proses Dramor
- Prosesu ceisiadau ar gyfer cyflwyno dogfennau barnwrol i wledydd tramor ac ohonynt
- Ceisiadau am dystiolaeth gan dystion yn y Wlad hon o Lysoedd tramor
- Prosesu ceisiadau am dystiolaeth o Lysoedd tramor y mae eu hangen mewn achosion
- Cymryd ceisiadau am brofion gwaed a ddaw o dramor sy'n ymwneud ag achosion Tadogaeth, a cheisiadau am adroddiadau lles a ddaw o dramor sy'n ymwneud ag achosion mabwysiadu
-
Gwaith arall
- Gorchmynion Cyfreitha Grŵp (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
- Cronfeydd Plant
- Deisebau Etholiadol
- Uwch Feistr a Chofiadur Dyledion y Frenhines (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
- Lawrlwythwch gopi o'n Taflen i Gwsmeriaid (PDF, 230Kb) (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg), sy'n amlinellu mwy o wybodaeth am y Llys hwn.
Map o'r Llysoedd Barn Brenhinol (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Map o'r Llawr Gwaelod, Bloc Dwyrain, LlBB (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Mae'r Llys wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i'w holl gwsmeriaid. I'n cynorthwyo ni i gyflawni hyn, mae gennym restr gynhwysfawr o safonau a thargedau yr ydym yn ei defnyddio i fonitro ein perfformiad
| Hawliadau | Cychwynnir 95% o fewn 24 awr o'u derbyn Adroddiadau Achos yn barod y diwrnod canlynol. |
| Cwynion | Cydnabyddir cwynion ysgrifenedig o fewn 2 ddiwrnod gwaith 95% o ymatebion o fewn 5 diwrnod gwaith. |
| Gohebiaeth | Ateb neu ymateb dros y ffôn o fewn 5 diwrnod gwaith. |
| Cownteri |
Ar agor 10.00am tan 4.30pm Cwrtais a helpgar wrth gynorthwyo cwsmeriaid. Amser ciwio'n 10 munud ar y mwyaf, ar gais cwsmer, gellir cynnal busnes yn breifat. |
| Hysbysfyrddau Cwsmeriaid | Cânt eu diweddaru'n rheolaidd. |
| Gwrandawiadau gerbron Meistri |
Apwyntiadau hyd at 30 munud o fewn 4 wythnos. |
| Taflenni Gwybodaeth | Wedi'u harddangos, neu ar gael ar gais. |
| Bathodynnau Enw/Cardiau Diogelwch | Rhaid eu gwisgo am resymau Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Diogelwch o fewn LlBB. |
| Llw/Cadarnhau | Rhaid trin a storio llyfrau sanctaidd yn briodol, a defnyddio'r llw/cadarnhad cywir. |
| Ceisiadau am Gopi Swyddfa | Barod o fewn 48 awr i'w derbyn. |
| Gorchmynion | Wedi'u selio o fewn 2 ddiwrnod gwaith i dderbyn yr holl wybodaeth ofynnol. |
| Cyflwyno Proses Dramor |
Anfonir at Lysoedd Sirol o fewn 2 ddiwrnod gwaith i'w derbyn. Anfonir at asiantaeth drosglwyddo o fewn 2 ddiwrnod gwaith i'w dychwelyd gan y Llys Sirol. |
| Ffonau |
Atebir o fewn 30 eiliad rhwng 9am a 5pm Rhoddir Enw ac Adran, ac ateb clir a defnyddiol |
| Gwritiau Fi Fa | Wedi'u selio ac yn barod i'w casglu o fewn 24 awr i'w derbyn. |
Cytundeb Gwasanaeth Cyhoeddus (CGC) - CGC4
Gwelliannau fesul blwyddyn mewn Boddhad Cwsmeriaid mewn pedwar maes allweddol a fesurir drwy'r Arolwg Cwsmeriaid Blynyddol. Y meysydd allweddol yw:
| Prif Darged |
Meincnod % |
Targed % |
||
| Canran lefel boddhad cwsmeriaid mewn perthynas â: | Mawrth 2003 | 2004 | 2005 | 2006 |
| 1. Gwybodaeth staff y Llys wrth y cownter cyhoeddus. | 79 | 80 | 82 | 85 |
| 2. Gwybodaeth y staff ar y gwasanaeth ffôn. | 75 | 76 | 78 | 80 |
| 3. Cyflymder datrys cwynion. | 36 | 40 | 50 | 60 |
| 4. Faint o gymorth yw'r cyfathrebu ysgrifenedig. | 70 | 72 | 75 | 80 |
Targedau ategol CGC 4, sy'n effeithio ar y Llys hwn yn uniongyrchol, yw: -
77% o achosion yn cael gwrandawiad Barnwr o fewn 50 wythnos i'w dyrannu i'r trac.
Gorchymyn Arwystlo: -
O'r Cais tan y Gorchymyn Interim: 70% mewn 2 wythnos.
O'r Gorchymyn Interim i'r Gorchymyn Terfynol: 70% mewn 10 wythnos.
Gorchymyn Dyled Trydydd Parti: -
O'r Cais tan y Gorchymyn Interim: 70% mewn 2 wythnos.
O'r Gorchymyn Interim i'r Gorchymyn Terfynol: 70% mewn 10 wythnos.
Nod Siarter: -
Cyflawnodd y LlBB achrediad Nod Siarter.
Mae'r Llys hwn wedi ymrwymo i ddarparu lefel uchel o wasanaeth i gwsmeriaid ac mae ganddo ddiddordeb bob amser mewn derbyn adborth gan ein cwsmeriaid. Os oes gennych chi sylw i'w wneud, yn gadarnhaol neu'n negyddol, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ysgrifennu at y Rheolwr Llys yn y cyfeiriad ar waelod y dudalen. Hefyd, mae croeso i chi ein ffonio neu ffacsio eich sylwadau atom. Noder nad yw'r gallu gan y Llys ar hyn o bryd i brosesu gohebiaeth e-bost reolaidd.
Cyfeiriad ar gyfer gohebiaeth
Rheolwr Llys
Ystafell E08
Llysoedd Barn Brenhinol
Strand
Llundain
WC2A 2LL
Ffôn: 020 7947 7309 (Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid)
Ffacs: 020 7947 7339 (Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid)
