Rhestr Wirio Cyn-treial (Holiadur Rhestru)
Hysbysiad Pwysig
Y Llysoedd Barn Brenhinol
Yr Adran Siawnsri ac Adran Mainc y Frenhines
O ddechrau Tymor y Pasg ymlaen, sy'n dechrau ar 29ain Ebrill 2003, bydd angen Rhestr Wirio Cyn-treial ar gyfer pob achos a restrir am dreial ar y dyddiad hwnnw neu wedi hynny. Bydd angen Rhestr Wirio Cyn-treial gan bob parti yn yr achos heb ystyried unrhyw oddefebau a wnaed gynt boed hynny gan Feistr y naill Adran neu'r llall neu gan Glerc y Swyddfa Restru. Yn y dyfodol ni chaiff Rhestr Wirio Cyn-treial (Holiadur Rhestru) ei hesgusodi ac eithrio mewn amgylchiadau neilltuol.
Mae'r Rhestr Wirio Cyn-treial, fel y'i gelwir, yn deillio o'r Holiadur Rhestru a addaswyd yn sylweddol. Mae fersiwn talfyredig o'r Rhestr Wirio Cyn-treial (Ffurflen N170) yn cael ei gyflwyno yn y naill Adran a'r llall a dim ond adrannau A, E ac F y ffurflen y bydd angen eu llenwi.
O ddyddiad yr hysbysiad hwn ymlaen wrth i Swyddogion Rhestru drefnu dyddiadau treialon byddant yn nodi y bydd angen dychwelyd y Rhestr Wirio Cyn-treial o leiaf wyth wythnos cyn y dyddiad a drefnwyd neu ddiwrnod cyntaf y cyfnod treial [Gweler Rhan 29.2 (3) (b) y Rheolau Trefniadaeth Sifil].
Un wythnos ar ddeg cyn dyddiad y treial bydd y Swyddfa Restru'n anfon copi o'r ffurflen Rhestr Wirio Cyn-treial at bob parti yn yr achos i'w llenwi. Rhaid dychwelyd y ffurflen hon o leiaf wyth wythnos cyn dyddiad y treial [Gweler Rhan 29 CY 8.1 (3)].
Gall peidio â dychwelyd y Rhestr Wirio Cyn-treial o fewn y cyfnod hwn arwain at restru'r achos am gyfarwyddiadau pellach [Gweler Rhan 29 6 (3)].
Yn unol â Ffi 2.2, fel y nodir yng Ngorchymyn Ffioedd y Goruchel Lys, bydd ffi'r treial yn daladwy gan yr Hawlydd wrth ffeilio'r Rhestr Wirio Cyn-treial.
Mae'r hysbysiad hwn yn deillio o'r newidiadau a wnaed i'r rheolau ym mis Hydref 2002
Clerc y Rhestrau
Chwefror 2003
