Yr Adran Siawnsri
Nodyn ymarfer ar gyfer gwrando achosion Ansolfedd
1. Cyhoeddwyd y datganiad canlynol gan yr Is-Ganghellor.
2. Mae'r Nodyn Ymarfer hwn yn disodli holl Ddatganiadau Ymarfer blaenorol y Cofrestryddion Methdaliad sy'n delio ag awdurdodaeth a dosbarthiad gwaith a'r Canllawiau a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Defnyddwyr y Llys Ansolfedd ym mis Tachwedd 1988.
3. Fel rheol gyffredinol dylid rhestru pob deiseb, hawliad a chais (ac eithrio'r rheini a restrir ym mharagraff 4 isod) ar gyfer gwrandawiad cychwynnol gerbron cofrestrydd neu farnwr rhanbarth yn unol â rheol 7.6(2) Rheolau Ansolfedd 1986.
4. Dylid rhestru'r ceisiadau canlynol gerbron barnwr bob tro:
Achosion sy'n ymwneud â chwmnïau ansolfent
- ceisiadau ar gyfer traddodi am ddirmyg
- ceisiadau am orchymyn gweinyddu
- ceisiadau am waharddeb
- ceisiadau i benodi datodwr dros dro
- ceisiadau interim a cheisiadau am gyfarwyddiadau neu reoli achos ar ôl cyfeirio neu ohirio unrhyw achos i'r barnwr (ac eithrio pan roddwyd hawl i wneud cais gerbron y cofrestrydd neu farnwr rhanbarth);
Achosion sy'n ymwneud ag unigolion ansolfent
- ceisiadau ar gyfer traddodi am ddirmyg
- ceisiadau am waharddeb
- ceisiadau interim a cheisiadau am gyfarwyddiadau neu reoli achos ar ôl cyfeirio neu ohirio unrhyw achos i'r barnwr (ac eithrio pan roddwyd hawl i wneud cais gerbron y cofrestrydd neu farnwr rhanbarth).
5. Wrth benderfynu a yw am wrando achos ei hun neu gyfeirio neu ohirio'r achos at sylw'r barnwr, dylai'r cofrestrydd neu'r barnwr rhanbarth ystyried y ffactorau canlynol:
- cymhlethdod yr achos
- a yw'r achos yn codi unrhyw bwyntiau cyfreithiol newydd neu ddadleuol
- dyddiad a hyd tebygol y gwrandawiad
- diddordeb y cyhoedd yn yr achos
- a yw'r arbenigedd perthnasol ar gael yn y llys sy'n debygol o wrando'r achos.
6. Atgoffir ymgyfreithwyr a'u cynghorwyr bod paragraff 17 y Cyfarwyddyd Ymarfer ar Achosion Ansolfedd yn berthnasol i apeliadau a bod apêl o gofrestrydd, barnwr rhanbarth neu farnwr Llys Sirol yn gorffwys, yn y lle cyntaf ac heb ganiatâd, gydag un barnwr yn yr Uchel Lys.
Andrew Morritt
23ain Mai 2005
