Alla' i ddim talu fy nyfarniad
Tudalen 1 o 12
Mae'r cyfarwyddyd hwn ar gael ar ffurf pdf hefyd.
Beth ddylwn i ei wneud?
Mae'r cyfarwyddyd hwn yn esbonio beth y gallwch chi ei wneud os na allwch chi dalu'r dyfarniad neu os yw'r hawlydd (y sawl sydd wedi mynd â chi i'r llys) yn gofyn i'r llys gymryd camau i'ch gorfodi chi i dalu. Gelwir hyn yn 'orfodi'r dyfarniad'.
Efallai yr hoffech chi siarad â thwrnai neu asiantaeth gynghori leol os nad ydych chi'n siwr am yr achos sydd yn eich erbyn. Efallai eich bod chi'n gymwys i gael cymorth gan Gronfa'r Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol (CGCC) ('Cymorth Cyfreithiol' oedd yr hen enw ar hyn) i dalu peth o'ch costau cyfreithiol neu'r cyfan ohonynt. Gofynnwch am y Gronfa yn swyddfa unrhyw lys sirol neu mewn unrhyw fan gwybodaeth neu gymorth sy'n dangos logo'r Gwasanaeth Cymunedol.
