Talu fy nyfarniad - beth ddylwn i ei wneud?
Tudalen 1 o 8
Mae'r cyfarwyddyd hwn ar gael ar ffurf pdf hefyd.
Mae'r cyfarwyddyd hwn yn dweud wrthych sut i dalu eich dyfarniad ac mae'n rhoi rhagor o wybodaeth i chi ynghylch beth mae'r dyfarniad yn ei olygu i chi.
I bwy ydw i'n talu?
Rhaid i chi dalu i'r hawlydd. Dyma'r person, neu'r sefydliad, a wnaeth yr hawliad yn eich erbyn. Efallai bydd gan yr hawlydd dwrnai, neu gynrychiolydd, a fydd yn delio â'ch taliadau.
Mae'r enw a'r cyfeiriad ar gyfer y taliad wedi'u nodi'n glir ar ffurflen y dyfarniad.
Os yw'r dyfarniad yn dweud wrthych am dalu mewn rhandaliadau, gofynnwch i'r hawlydd, neu ei ch/gynrychiolydd, am y ffordd orau o dalu. Efallai bydd yr hawlydd yn rhoi llyfr talu-i-mewn i chi neu efallai gallwch sefydlu archeb sefydlog i anfon yr arian yn syth at yr hawlydd o'ch cyfrif banc.
Cofiwch: ni all y llys dderbyn eich taliadau.
