Dyfarniadau Cofrestredig - Beth yw ystyr hynny?
Tudalen 3 o 5
Alla' i ddileu fy nyfarniad oddi ar y Gofrestr?
Cewch ddileu eich dyfarniad oddi ar y Gofrestr os:
- byddwch wedi talu'r swm sy'n ddyledus yn llawn o fewn un mis i ddyddiad y dyfarniad; neu
- os yw'r llys yn gosod y dyfarniad o'r naill du. (Mae hyn yn golygu bod y barnwr wedi tynnu'r dyfarniad yn ôl, naill ai oherwydd ei fod yn anghywir neu er mwyn i chi gael amddiffyn yr hawliad).
Os ydych chi'n talu'r swm sy'n ddyledus fwy na mis ar ôl dyddiad y dyfarniad bydd y cofnod yn aros ar y Gofrestr am chwe blynedd lawn. Ond cewch ofyn am gael cynnwys nodyn 'cyflawnwyd' ar eich cofnod. Bydd hyn yn profi i unrhyw un sy'n archwilio'r Gofrestr eich bod wedi talu'r dyfarniad a'r dyddiad y gwnaethoch hynny.
Ond, hyd yn oed os oes nodyn 'cyflawnwyd' ar eich cofnod neu os caiff eich cofnod ei ddileu'n llwyr oddi ar y Gofrestr nid yw hynny'n gwarantu y byddwch yn derbyn credyd os ydych yn gwneud cais amdano.
|
|
^ Brig
|
