Dolenni perthnasol
Fi a'm Teulu
Mae'r llyfryn hwn wedi'i anelu at blant rhwng 5 ac 8 oed y mae eu rhieni'n gwahanu/ysgaru.
Mae fy nheulu'n newid
Mae'r llyfryn hwn wedi'i anelu at blant rhwng 8 ac 13 oed y mae eu rhieni'n gwahanu/ysgaru.
Mae fy nheulu'n gwahanu
Mae'r llyfryn hwn wedi'i anelu at bobl ifanc yn eu harddegau y mae eu rhieni'n gwahanu/ysgaru.
Cynllun Magu Plant - Cynllunio ar gyfer dyfodol eich plant
Mae hwn yn cynnwys gwybodaeth, arweiniad a syniadau (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg) am faterion y bydd angen i rieni eu hystyried, ac mae'n cynnwys adrannau y gall rhieni eu llenwi eu hunain, os dymunant hynny, er mwyn cofnodi penderfyniadau a wnaed. Mae hefyd yn cynnwys manylion mudiadau a all ddarparu cymorth i rieni sy'n ysgaru neu'n gwahanu a'u plant.
Rhieni a Phlant
Mae'r llyfryn hwn yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad i chi ar sut i drafod yr hyn sy'n digwydd gyda nhw, a'u helpu i addasu i'r newidiadau sy'n digwydd.
Rhaglen Cyfraith Breifat
Dyma fframwaith newydd ar gyfer achosion cyfraith breifat (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg) sy'n cynnwys arweiniad ar gyfer llysoedd ynghylch sut i wella canlyniadau i blant pan fydd perthynas eu rhieni'n chwalu. Fe'i cynigiwyd gan y Llywodraeth yn ymateb i'r ymgynghoriad ar y papur gwyrdd Parental Separation - Children's Needs and Parents' Responsibilities.
