English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Ffioedd Llys Y Llys Apêl

Adnoddau pellach

Canolfan Cyngor ar Bopeth

Sut i Apelio


Os ydych yn anfodlon â phenderfyniad y Barnwr yn eich achos, efallai bod modd i chi apelio yn erbyn y penderfyniad gerbron Barnwr mewn llys uwch.

Rhaid cael rheswm iawn dros apelio a rhaid gwneud hynny o fewn cyfnodau penodol caeth.

Nid yw'n bosibl i staff Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi na swyddogion eraill y Llywodraeth adolygu dyfarniad a wnaed gan y llysoedd. Y rheswm am hyn yw bod y farnwriaeth yn hollol annibynnol a bod yn rhaid iddynt fod yn rhydd i benderfynu ar achosion heb ofni y bydd y Llywodraeth na'i gweinyddiaeth yn tarfu arnynt.

Gallwch herio penderfyniadau ynadon mewn sawl ffordd. Bydd y dull mwyaf priodol yn dibynnu ar pa fath o achos ydoedd a'i amgylchiadau penodol. Canllaw sylfaenol yw hwn. Cyn i chi gyflwyno apêl, fe'ch anogir yn gryf i gael cyngor cyfreithiol ynghylch y weithdrefn, teilyngdod a chost.

Llys y Goron fydd yn gwrando apeliadau yn erbyn penderfyniadau'r llys ynadon mewn achosion troseddol. Cyflwynir yr apêl i'r llys ynadon a bydd staff y llys ynadon yn trosglwyddo'r papurau ymlaen i Lys y Goron.

Ar gyfer Llys y Goron a'r Llysoedd Sirol cewch apelio achosion sifil a throseddol, ond byddai angen i chi gael hawl neu 'ganiatâd' gan farnwr cyn i chi apelio yn erbyn euogfarn mewn achos troseddol.

Adran Droseddol y Llys Apêl fydd yn delio â cheisiadau i apelio a chaniatâd i apelio yn erbyn penderfyniadau Llys y Goron.

Ar y llaw arall, Adran Sifil y Llys Apêl fydd yn delio ag apeliadau yn erbyn canlyniad gwrandawiad llys sirol neu Uchel Lys gan amlaf.

Mae'r naill Lys Apêl a'r llall wedi'u lleoli yn y Llysoedd Barn Brenhinol, y Strand, Llundain. Bydd staff y Llys Apêl yn fodlon cynnig arweiniad gweithdrefnol ond ni chânt roi cyngor cyfreithiol na thrafod a gewch chi neu a ddylech chi apelio gan nad ydynt wedi derbyn hyfforddiant i wneud hynny. Dylid cysylltu â thwrnai i gael cymorth cyfreithiol. Y dewis arall yw cysylltu â Chanolfan Cyngor Ar Bopeth neu asiantaeth cynghori arall, lle rhoddir cyngor am ddim yn gyffredinol.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 19 August 2005 11:39. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .