Mae gen i ddyfarniad amodol - beth nesaf?
Tudalen 2 o 5
Beth sy'n rhaid i mi ei wneud cyn gwneud cais am fy nyfarniad terfynol?
Os oes plant yn y teulu, sicrhewch fod y llys wedi anfon ffurflen D84B atoch, sy'n datgan fod y barnwr wedi penderfynu nad oes angen i'r dyfarniad terfynol gael ei ddal yn ôl oherwydd y plant.
Ni all eich dyfarniad amodol gael ei wneud yn ddyfarniad terfynol os anfonwyd ffurflen D66 atoch gan y llys. Gweler cyfarwyddyd rhif 3 Plant ac ysgariad.
Os:
- nad oes plant yn y teulu; neu
- fod y llys wedi anfon ffurflen D84B atoch;
yna gwiriwch fod chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'ch dyfarniad amodol gael ei gyhoeddi.
Rhaid i chi ddisgwyl 6 wythnos ac un diwrnod ar ôl cyhoeddi eich dyfarniad amodol cyn y cewch wneud cais am eich dyfarniad terfynol.
