Mae gen i ddyfarniad amodol - beth nesaf?
Tudalen 1 o 5
Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r Barnwr gyhoeddi fy nyfarniad amodol?
Mae'r cyfarwyddyd hwn ar gael ar ffurf pdf hefyd.
Bydd y Llys yn anfon atoch chi a'r atebydd (ac unrhyw gyd-atebydd a enwir) ffurflen D29 (dyfarniad amodol).
Ffurflen D29 - cliciwch ar y llun i'w ehangu. Mae hwn yn dangos sut mae'r ffurflen yn edrych ar ôl cael ei llenwi.
Ceir fersiwn gwahanol o'r dyfarniad amodol ar gyfer pob un o'r pum sail ar gyfer cael ysgariad.
Fe welwch fod ffurflen D29 yn dweud wrthych nad y dyfarniad olaf yw hwn. Mae hefyd yn dweud wrthych pryd y gallwch wneud cais am eich dyfarniad olaf, eich 'dyfarniad terfynol'.
Os bu i chi ofyn i'r atebydd (neu unrhyw gyd-atebydd a enwyd) dalu costau eich ysgariad a bod y llys wedi cytuno, anfonir ffurflen D61 atoch hefyd (gorchymyn ategol i'r dyfarniad amodol). Anfonir copi hefyd i'r atebydd (a'r cyd-atebydd a enwyd).
