Ynglŷn ag ysgariad
Tudalen 2 o 7
Oes raid i mi egluro pam fy mod eisiau ysgariad?
Oes, mae'n rhaid i chi allu profi i'r llys fod gennych resymau (neu 'seiliau') dros ddweud fod y briodas wedi dod i ben. Yr ymadrodd a ddefnyddir gan y llys fydd fod y briodas wedi 'chwalu'n anadferadwy'.
Bydd y llys yn derbyn un neu fwy o'r seiliau canlynol fel prawf:
- fod eich gwr neu eich gwraig wedi cyflawni godineb a'ch bod yn ei chael yn annioddefol byw gydag ef neu hi;
- fod ymddygiad eich gwr neu eich gwraig wedi bod cynddrwg fel na allwch oddef byw gyda hwy mwyach;
- fod eich gwr neu eich gwraig wedi eich gadael o leiaf ddwy flynedd yn ôl;
- eich bod chi a'ch gwr neu'ch gwraig wedi byw ar wahân am ddwy flynedd a'i fod ef/ei bod hi'n cytuno i ysgaru; neu
- eich bod chi a'ch gwr neu'ch gwraig wedi byw ar wahân am o leiaf bum mlynedd.
|
|
^ Brig
|
