English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

O fewn yr adran hon

Atafaelu enillion Gorchymyn Arwystlo Gorchymyn Dyled Trydydd Parti Gorchymyn i gael gwybodaeth Gwarant i weithredu

Gwybodaeth ychwanegol

Dyfarniadau'r llys sirol Ffioedd y Llys Sirol Llawlyfr Atafaelu Enillion Ynglyn a Beilïaid a Swyddogion y Siryf

Adnoddau pellach

Canolfan Cyngor ar Bopeth Cofrestra Dir Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol Y Gymdeithas Gwasanaethau Gorfodi

Rwyf wedi cael dyfarniad ond dydy'r diffynnydd ddim wedi talu


Tudalen 1 o 8

Mae'r canllawiau hyn ar gael ar ffurf pdf hefyd.

Sut mae cael fy arian ar ôl dyfarniad?

Os ydy'r llys wedi penderfynu bod rhaid i rywun dalu swm o arian i chi (rydych wedi 'cael dyfarniad yn erbyn y diffynnydd'), ond dydych chi heb dderbyn taliad, efallai y bydd y canllawiau hyn yn eich helpu chi i benderfynu beth i'w wneud nesaf.

Wnaiff y llys ddim gorfodi'r dyfarniad oni bai eich bod chi'n gofyn iddo wneud hynny.

Gallwch geisio cael eich arian (a elwir yn 'orfodi eich dyfarniad') drwy ofyn i'r llys am unrhyw un o'r canlynol:

Yn y canllawiau hyn, ceir disgrifiadau byr o bob un o'r dulliau gorfodi hyn.

Os yw'r swm sy'n ddyledus i chi'n fwy na £750, fe allwch chi hefyd wneud cais am wneud y diffynnydd yn fethdalwr. Fodd bynnag, gall hyn fod yn ddrud. Gallwch gael gwybodaeth am y drefn methdaliad gan staff llys sirol sy'n ymdrin ag achosion methdalu.

Cofiwch na all y llys warantu y cewch chi'ch arian yn ôl a bydd rhaid i chi dalu ffi am unrhyw gamau a gymerwch. Er y bydd y llys yn ychwanegu'r ffi at yr arian sy'n ddyledus gan y diffynnydd eisoes, all y llys ddim talu nôl i chi yr arian rydych wedi'i dalu os na fyddwch chi'n llwyddo i gael eich arian gan y diffynnydd, neu os bydd y llys yn gwrthod eich cais.

Fodd bynnag, fe allai eich sefyllfa ariannol olygu nad oes rhaid i chi dalu ffi. Mae'r canllawiau Ffioedd Llys - oes rhaid i chi eu talu?  yn rhoi rhagor o wybodaeth am hyn. Hefyd, gall staff y llys ddarparu copi o'r canllawiau hyn a'r ffurflen gais i chi. Bydd yn rhaid i chi wneud cais ar wahân ar gyfer pob ffi y buasech fel arall yn gorfod ei thalu.

Cyn i chi benderfynu sut i fwrw ymlaen, dylech ystyried:



Nesaf>>


Tudalen Flaenorol


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 21 November 2006 10:53. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .