Gorchymyn i gael gwybodaeth
Tudalen 2 o 13
Pryd ga'i wneud cais am orchymyn i gael gwybodaeth?
Fe allwch wneud cais am orchymyn unrhyw bryd ar ôl i chi gael dyfarniad. Nid oes rhaid i ddyledwr y dyfarniad (neu'r swyddog) fod ar ei hôl hi gyda'r taliadau.
Beth mae'n rhaid i mi wneud i gyflwyno cais am orchymyn?
Mae hynny'n dibynnu a ydy dyledwr y dyfarniad rydych chi wedi'i siwio:
- yn unigolyn; ynteu
- yn gwmni neu'n gorfforaeth.
Os mai unigolyn ydy dyledwr y dyfarniad, rhaid i chi lenwi Ffurflen N316 (Cais am orchymyn i'r dyledwr ddod i'r llys ar gyfer ei holi). Fe allwch hefyd gael y ffurflen am ddim gan unrhyw lys sirol. Gwnewch gais i'r llys lle mae'ch hawliad yn mynd rhagddo.
Os mai cwmni yw dyledwr y dyfarniad, gallwch ofyn i un o swyddogion y cwmni hwnnw gael ei holi am sefyllfa'r cwmni, er enghraifft, Cyfarwyddwr. Gallwch gael gwybod pwy ydy swyddogion y cwmni, a'u cyfeiriadau, drwy chwilio drwy Gofrestr y Cwmnïau yn Nhy'r Cwmnïau. Gallwch gael ffurflen gais i wneud chwiliad a manylion y ffi sy'n daladwy drwy ffonio 02920 388588.
Unwaith i chi gael y wybodaeth, dylech lenwi Ffurflen N316A.
