Gorchymyn i gael gwybodaeth
Tudalen 1 o 13
Mae'r canllawiau hyn ar gael ar ffurf pdf hefyd.
Nid math o orfodaeth i sicrhau eich bod chi'n cael eich arian ydy gorchymyn i gael gwybodaeth. Yn hytrach, ffordd o gael gwybodaeth gan y diffynnydd ydy hi (sef gan 'ddyledwr y dyfarniad' a phan fyddwch chi'n defnyddio'r drefn hon, chi fydd 'credydwr y dyfarniad'). Bydd y wybodaeth a gewch chi'n eich helpu chi i benderfynu:
- ydy hi'n werth i chi gymryd cam gorfodi; ac os felly,
- pa un o'r dulliau sydd ar gael sydd fwyaf tebygol o sicrhau eich bod chi'n cael eich arian.
Os byddwch chi'n defnyddio'r drefn hon, gorchmynnir i ddyledwr y dyfarniad ddod i'r llys i gael ei holi, ar lw, gan un o swyddogion y llys. Dyma'r math o wybodaeth a gewch chi drwy'r holi:
- statws cyflogaeth;
- manylion y cyflogwr a chyflog wythnosol neu fisol, os yw hynny'n briodol;
- manylion dibynyddion a'r costau a delir o'r incwm;
- manylion unrhyw incwm ychwanegol;
- manylion unrhyw eiddo y mae'n berchen arno (ty, car, carafán ayb.), y gellid ei werthu;
- manylion unrhyw gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu a faint o arian sydd ynddyn nhw.
Mae'r cwestiynau y bydd swyddog y llys yn eu gofyn i ddyledwr y dyfarniad wedi'u rhestru yn Ffurflen EX140 (Cofnod archwiliad), ac fe allwch gael copi ohoni hefyd gan y llys.
