English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

O fewn yr adran hon

Atafaelu enillion Gorchymyn Arwystlo Gorchymyn Dyled Trydydd Parti Gorchymyn i gael gwybodaeth Gwarant i weithredu

Gwybodaeth ychwanegol

Dyfarniadau'r llys sirol Ffioedd y Llys Sirol Llawlyfr Atafaelu Enillion Ynglyn a Beilïaid a Swyddogion y Siryf

Adnoddau pellach

Canolfan Cyngor ar Bopeth Cofrestra Dir Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol Y Gymdeithas Gwasanaethau Gorfodi

Gorchymyn Arwystlo


Tudalen 1 o 9

Mae'r canllawiau hyn ar gael ar ffurf pdf hefyd.

Pwrpas y canllawiau hyn yw rhoi syniad cyffredinol i chi am brosesau'r Gorchmynion Arwystlo, a does dim modd iddo esbonio popeth am reolau a threfniadau'r llys. Os ydych chi'n ansicr am y trefniadau a esbonnir yn y canllawiau neu unrhyw drefniadau sy'n codi ar ôl i chi gychwyn eich cais, gofynnwch i aelod o'r staff mewn unrhyw lys sirol. Os bydd mater cyfreithiol yn codi, rhaid i chi ofyn am help gan asiantaeth gynghori, canolfan gyfraith neu dwrnai. I gael gwybod ymhle mae'ch twrnai agosaf neu eich asiantaeth gynghori agosaf, chwiliwch yng nghyfeiriadur y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol.

Os byddwch chi'n derbyn unrhyw daliadau gan y diffynnydd yn ystod achos gorfodi, rhaid i chi roi gwybod i'r llys ar unwaith. Mae hyn yn arbennig o bwysig os gwneir taliad cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer gwrandawiad.

Beth yw Gorchymyn Arwystlo?

Gorchymyn llys sy'n gosod 'arwystl' ar eiddo dyledwr y dyfarniad yw hwn, er enghraifft ar dŷ neu ddarn o dir. Ychwanegir yr arwystl at y swm sy'n ddyledus i chi. Fel arfer, ni fyddwch yn cael eich arian yn syth drwy orchymyn arwystlo, ond fe all ddiogelu eich arian ar gyfer y dyfodol.

Os yw dyledwr y dyfarniad yn berchen ar stociau neu gyfranddaliadau neu fod ganddo gronfa neu arian yn y llys, gall y llys hefyd roi arwystl ar y rhain yn yr un ffordd ag ar eiddo, fwy neu lai.



Nesaf>>


Tudalen Flaenorol


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 25 June 2007 12:02. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .