Gorchymyn Dyled Trydydd Parti
Tudalen 8 o 8
Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad pan fydd y barnwr yn ystyried a ddylid gwneud gorchymyn terfynol?
Bydd y barnwr yn ystyried eich cais ac unrhyw dystiolaeth arall yr ydych chi, y trydydd parti, neu ddyledwr y dyfarniad wedi'i ffeilio. Os yw'r barnwr yn fodlon y dylid gwneud gorchymyn terfynol, gwneir y gorchymyn yn Ffurflen N85 (Gorchymyn dyled trydydd parti terfynol). Os oes arian digonol, bydd y gorchymyn terfynol yn caniatáu i'r trydydd parti dalu dyled y dyfarniad a'r costau i chi a'ch costau chi am wneud y cais. Os yw'r gorchymyn terfynol am swm llai, bydd costau gwneud y cais yn cael ei drin fel swm i'w dalu gyntaf a bydd rhan o ddyled y dyfarniad yn dal yn weddill.
Anfonir copi o'r gorchymyn atoch chi, at y trydydd parti ac at ddyledwr y dyfarniad.
Dywedir wrth y trydydd parti faint i'w dalu i chi ac erbyn pryd i'w dalu. Cofiwch na all y llys orchymyn i'r trydydd parti dalu swm i chi sy'n fwy na'r swm a rewyd yn y lle cyntaf. Os yw hyn yn llai na'r hyn sy'n ddyledus i chi, yna, efallai y byddwch chi am ystyried trefniadau gorfodi eraill i adfer y gweddill.
